Rhys Meirion
← 'Nhad | Rhys Meirion gan Robin Llwyd ab Owain |
Y Gusan → |
Cyhoeddwyd gyntaf ar y we, Rhagfyr 1996. Cyflwynwyd y gerdd iddo mewn noson i'w longyfarch ym Medi, 1996. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.
Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020. |
(Englynion cyfarch, wedi iddo ennill y Ruban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1996).
A'r hil yn ei gwawr ola' - rhyw eiliad
Amryliw a gofia':
A gwawr oedd lliw Sangria
Ac eiliad o Dequila.
Swyn y wawr a synhwyrodd - ei denor
Jack Daniels yn gwahodd;
Uffar o haul a ddeffrodd
O'r dwr a'r wawr a dorrodd...
Ei las-fedd yn ein meddwi - a dwy don
Ei denor yn golchi
Ein bae, ac yn lliwiau'r lli -
Eiliad yn tragwyddoli...
Gwynedd ei gan yn ddigonedd, - yn don
Ac yn don ddiorwedd
Ar dywod, hwn i'r diwedd
A fydd gôr, bydd fôr o fedd!
Vouvray nid Beaujolais bâs! - Hyfrytaf
Bafaroti'r deyrnas!
Yn Iwerddon o urddas
O gael aur y Ruban glas!
Unawdydd y munudau - tragwyddol
Fu'n troi'r gwaddod gynnau
Yn winoedd ynom ninnau
Un bore hir i'w barhau.
Rhys gwâr yw Rhys y gwirod, - Rhys ag iaith
Rhys Gethin ar dafod,
Rhys y bore, Rhys barod
Heno i bawb, Rhys mwya'n bod.
A'r hil yn ei gwawr ola' - rhyw eiliad
Amryliw a gofia':
A gwawr oedd lliw Sangria
Ac eiliad o Dequila.