S4C
← Copa | S4C gan Robin Llwyd ab Owain |
Llynoedd → |
Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Cymro, Chwefror 1994. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.
Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020. Nid oedd y bardd, fel rheol, yn dyblu'r 'n' nac yn defnyddio acen grom. |
Daeth fel gwaedlif anifail
Un o dras Edward yr Ail
O'r bru i'n llygru ni'n llwyr
A'i waedd swynol, ddisynwyr.
Do, fe anwyd breuddwydion,
Ond llef o hunllef fu hon;
Un llef hir ar ol y llall,
Mor oer. Cilmeri arall.
A'r dynion? Ble mae'r deunaw?
Mae bwyell aur ym mhob llaw,
Arian lle bu tarianau
A dafn o waed i'w fwynhau.
Di-ben ynom yw'r heniaith.
Aeth cynrhon estron drwy'n iaith
A'i chnoi hi yn swn ei chnul:
Aeth hen wyrth i ni'n erthyl.
Un sgrech faith drwy ein hiaith ni,
Un waedd o bicell drwyddi
A'r waedd yn waedd anaddas:
Seisnig gythreulig ei thras.