Saith o Farwnadau/At y Cymry

Saith o Farwnadau Saith o Farwnadau

gan William Williams, Pantycelyn


golygwyd gan David Morris, Capel Hendre
Y Parch Griffith Jones, Llanddowror

AT Y CYMRY.


ANWYL GYFEILLION,

Meddyliwn, hyd yn ddiweddar, fyned yn mlaen gyda chyhoeddi gweithiau awdurol për-ganiedydd Pantycelyn nes gorphen y cwbl; ond gan fod cymaint o alw am argraffiad newydd o'r Marwnadau a gyfansoddodd, meddyliais mai gwell funsai ymgymeryd â hyny yn gyntaf, cyn myned yn mhellach.

Gan deimlo yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais bellach er ys blynyddoedd, hyderaf y bydd y derbynind o'r Marwnadau yn eu diwyg presenol yn llawn gyfleted â'r troion o'r blaen, ac yn gyfatebol i'r hyn a ddysgwylir, yn ol yr ymholi mawr sydd yn eu cylch. Gwyr pawb sydd yn gyfarwydd à gweithiau yr Awdwr Parchedig, fod llawn cymaint o'i ystwythder—ei ehediadau barddonol, ac o'i ardderchawgrwydd meddyliol ef ei hun yn y rhanau hyn o honynt â dim a gyfansoddodd. Mae yma megys yn ei elfen, mewn cyflawn fwynhad o drwydded y beirdd, yn ymbleseru yn enngderau awyr- gylch yr awen, ac yn chwareu ei danau melusion am ogoniant nefol fyd, nes y byddo yn rhaid fod calon y darllenydd wedi ei chadwyno a'i chlymu wrth y ddaear mewn dideimladrwydd marwhaol, cyn y gallo lai na theimlo ei hun dan ddylanwadau "yr hen WILLIAMS" yn ymgomio ag ysbrydoedd y rhai a ymadawsant oddiyma yn yr Arglwydd, yn barod i ddweyd—

"Mae fy ysbryd yn cartrefu gyda'r dorf aneirif fawr,
Orai cyntaf—anedigion ag sydd yn y nef yn awr."

Ceir yma bortreiad o'r Bardd yn ei gyflawn faintioli, ac o'r gwroniaid cywir hyny ag y cana am danynt, y rhai a fuant yn offerynol i ysgwyd a dihuno Cymru drwyddi oll, a rhanau helaeth o Loegr, Scotland, Iwerddon, ac America, yn nghyda gwledydd eraill; fel y bydd yn hawdd i'r oesoedd a ddelo ar ol i ddeall pa fath rai oeddynt, ac y teimlont fel y ddau ddysgybl hyny gynt oedd yn myned tuag Emmaus, a'u calonau yn llosgi o gariad atynt, ac awydd bod yn debyg iddynt.

Mae'r oll o'r Marwnadau uchod, oddeutu pymtheg ar ugain o nifer, pa rai a fwriadwyf, "os yr Arglwydd a'i myn," eu dwyn allan yn rhanau cyffelyb i hon nes eu gorphen. Gwn na siomir neb o'r derbynwyr, os byddant yn berchen chwaeth a theimlad. Gan ddymuno bendithion fyrdd ar y darlleniad o honynt, a gobeithio na bydd y Cyhoeddwr ddim ar ei golled, y gorphwysa,

Yr eiddoch yn ddiffuant,

DAVID MORRIS.

Capel Hendre, Mehefin, 1854.


Nodiadau golygu