Saith o Farwnadau/Y Parch Griffith Jones, Llanddowror

At y Cymry Saith o Farwnadau

gan William Williams, Pantycelyn


golygwyd gan David Morris, Capel Hendre
Y Parch George Whitfield

Y PARCH. GRIFFITH JONES,
LLANDDOWROR, SWYDD GAERFYRDDIN,

Yr hwn a fu farw ar yr 8fed o Ebrill, 1761, ym 78ain mlwydd oed,
pump a deugain o ba rai a dreuliodd yn y weinidogaeth.

GYMRU, deffro gwisg alarnad,
Tywallt ddagrau yn ddioed!
Mae dy golled lawer rhagor
Na feddyliaist eto 'i bod;
Cwympodd seren oleu hyfryd,
Hynod yn mhlith ser y ne',
Nes i'r lleill o'r ser i synu,
Ac mae t'wyllwch yn ei lle!

Hon ei hunan a ddysgleiriodd,
Pan oedd tew gymylau'r hwyr
Wedi hedeg dros ardaloedd,
A dyfetha goleu'n llwyr;"
Gweinidogion bron yn gyson
Oedd ai haner nos a hun
Bloedd ei udgorn ddaeth yn union,
Ac fe'i clywodd ambell un.

Allan 'r seth yn llawn o ddonia,
I bregethu'r 'fengyl wir,
Ac i daenu'r iachawdwriaeth
Oleu, helaeth, 'r hyd y tir;
Myrdd yn cludo idd ei wrandaw,
Llenwi'r llanau mawr yn llawn,
Gwneyd eglwysydd o'r monwentydd,
Cyn ei glywed ef yn iawn!

Fe ga'dd Scotland oer ei wrandaw,
Draw yn eitha'r gogledd dir,
Yn dadseinio maes yn uchel
Bynciau'r iachawdwriaeth bur;

Ca'dd myrddiynau deimlo geiriau
Hedd, o'i enau'n llawer man,
Clywodd hithau rym ei ddoniau,
Freiniol ardderchocaf ANNE.

Dacw'r Biblau teg a hyfryd,
Ddeg ar hugain filoedd llawn,
Wedi 'u trefnu i ddo'd allan,
Trwy ei ddwylaw 'n rhyfedd iawn;
Dau argraffiad, glân ddiwygiad,
Llawn ac uchel bris i'r gwan;
Mewn cabanau fe geir Biblau
'Nawr gan dlodion yn mhob man.

Hi ragluniaeth ddyrys, helaeth,
Wna bob peth yn gydsain lawn:
D'wed nad gwiw argraffu Biblau
Heb eu darllen hwy yn iawn;
Daeth yn union ag ysgolion,
O'Werddon fôr i Hafren draw:
Rhwng y defaid mae'r bugeiliaid,
'Nawr â'r 'sgrythyr yn eu llaw.

Tair o filoedd o ysgolion
Gawd yn Nghymru faith a mwy,
Chwech ugain mil o ysgoleigion
Fu a rhagor ynddynt hwy;
Y goleuni ga'dd ei enyn
O Rheidol wyllt i Hafren hir,
Tros Bimlimon faith yn union
T'wynodd ar y gogledd dir.

Os yw Cymru'n gylch o bobtu
Yn chwe chan milltir faith o dir,
Ac o'i mewn rhyw fil o blwyfau,
Lle bu t'wyllwch dudew'n hir;
Braidd ca'dd plwyf nac ardal ddianc
Heb gael iddo gynyg rhad,
O fanteision ddysgai'n union
Iddynt ddarllen iaith eu gwlad.

Cryf a chadarn fu'r elyniaeth
Ydoedd yn y gogledd dir,

I bob moddion a f'ai'n ffyddlawn
I ledaenu'r 'fengyl bur;
Eto fe wnaed ffordd i ddysgu,
Lle'r oedd dig a llid yn llawn,
Eirth cynddeiriog, call lwynogod,
Ddaeth fel wyn yn wirion iawn.

Dyma'r gwr a dorodd allan,
Ronyn bach cyn tori'r wawr,
Had fe hauodd, fe eginodd,
Fe ddaeth yn gynhauaf mawr;
Daeth o'i ol fedelwyr lawer,
Braf mor ffrwythlawn y mae'r ŷd!
'Nawr mae'r wyntell gref a'r gogr
Yn ei nithio'r hyd y byd.

Gorfoledda, ddedwydd Gymru,
Braf yw'r breintiau ddaeth i'th ran,
Trugareddau erioed na feddwyd
Yn Borneo na Japan;
Meddu Biblau, dysg i'w darllain,
A phregethu'r iachol ras;
Yn Llanddowror gyntaf torodd
Y goleuni hwn i ma's.

Hen bererin, dywed bellach,
(Mawr yr awrhon yw dy ddysg)
Fath ysbrydoedd heirdd yw rhei'ny
Wyt yn trigo yn eu mysg;
Pa fath olwg wael ddisylwedd,
Genyt sydd oddiyna 'nawr,
Ar y myrdd droiadau gweigion
Wyt yn ganfod ar y llawr?

Nis gall natur, gwnaed a fyno,
Wneuthur un o'th fath is nen,
'Gras yn unig, nid dim arall,
Ddaw a'n colled ni i ben;
 Mae dy le di'n wag hyd heddyw,
Yn nghadeiriau'r eglwys fawr,
Y mae'n gweddi, pe b'ai'n bosib',
Eto am dy gael di 'lawr.


Byth y cofir am dy enw,
Tra llythyren fo mewn bod,
Bydd dy ysgolion, bydd dy lyfrau,
Byth yn dwyn i'th enw glod;
Nid rhaid careg ar dy feddrod,
Nid mewn marbl bydd dy lun,
Ond mewn 'sgrifeniadau santaidd,
Ac ar enaid llawer dyn.

Fe'sgrifenaist o blaid gweddi
Fe 'sgrifenaist o blaid dysg,
Fe ddystewaist, drwy'th ddoethineb,
Fleiddiaid rheibus yn ein mysg;
Tra yn gorwedd yn y beddrod,
Fe addfeda'r meusydd ŷd,
Ac fe gesglir dy gynhauaf,
Erbyn delo'th lwch yn nghyd.

Os daw un o gant a ddysgwyd
Genyt ti o bryd i bryd,
Braf fath luaws fydd dy lafur
Pan y do'nt yn gryno yn nghyd;
Uwch eu cyfrif yw'th weithredoedd,
O na argreffid hwynt yn rhes,
Er esiampl i rai eraill,
Ar ryw golofn fawr o bres.

Tyr'd, fy enaid, deffro, f'awen,
I fynu mewn goleuni pur,
Son am gyflwr hardd yr enaid,
Wedi gado'r anial dir;
Gad bob ysbryd trist alaethus,
Blin gystuddiau, a gwres y dydd,
Cân i'r rhai yn mhlith seraphiaid,
Sydd yn gorphwys heddyw'nrhydd.

Mae'r angelion sydd yn gwylio
Tros ynysoedd Prydain Fawr,
Wedi 'i weled ef yn pasio,
'N ddysglaer heibio'r dwyrain fawr;
F'enaid, dylyn ol ei edyn,
I derfynau'r santaidd dir,

Gwrandaw filoedd yn ei roesaw,
Yno i'r goleuni pur.

Pan y gwelwyd ef yn codi,
Hyfryd 'r aeth y swn i ma's,
Rhwng cerubiaid sydd yn tramwy
Gylch oddeutu'r wybr las;
"Un o'i garchar a ddiangodd,
Acw o flaen y fainc yn awr,
Ac yn derbyn gwisg a choron
Addas, gan y Brenin mawr."

"Roeddem acw," ebe Uriel,
Angel cadarn, "yn y fan
Ni ganasom ganiad newydd,
Pan y daeth e' gynta'r lan,
Pan y cafodd wisgoedd euraidd,
Pan y cafodd delyn lân,
Ni bu mwy llawenydd, groesaw,
I un Cymro 'rioed o'r bla'n!"

Mae fy ysbryd am ehedeg
Ato 'r awrhon fynu fry,
Ac am ffeindio 'i drigfan hyfryd,
Yno heddyw yn mhlith y llu:
Pwy yw ei gyfeillion penaf,
Yn mha gwr o'r nefoedd faith,
P'un ai adrodd gorthrymderau,
Ynte cânu, yw ei waith?

Wel, mynega di, fy awen,
Sydd yn chwilio pethau 'ma's,
Ac na ddianc rhag dy amcan,
Ddim o dan yr wybr las;
Tan bwy gainc o bren y bywyd
Mae ef yno'n eistedd lawr,"
Pwy droiadau o ragluniaeth,
Wrth ei ffryns mae'n ddweyd yn awr?

Taw, fy ngwenydd gwag rhedegog,
Pa freuddwydion sy'n dy fryd?
Dyna 'i waith, ond caru'r Iesu,
Myfyrio iachawdwriaeth ddrud,

Chwilio'r oesoedd hen aeth heibio,
Chwilio'r oesoedd eto i dd'od,
Cânu, synu, a rhyfeddu
Iddo ddyfod yno erioed.

Yn nghwmpeini hen Rees Pritchard,
Goeliaf, rhowd e' i eiste' lawr,
Gyda Ralph, ac Ebenezer,
Harvey, Watts, a thyrfa fawr;
Fe gas ddewis ar ei anthem,
Dyna'r gair ddaeth gynta' i mas,
"Rwyfi'n synu fil o weithiau
Ddyfnder gwaredigol ras!"

Ffarwel, enaid cywir ffyddlawn,
Ffarwel iti ronyn bach,
Cawn dy gwrddyd uwch yr haulwen,
O'n cystuddiau gyd yn iach;
Ni gawn yn dy gwmni fwyta
Ffrwythau pren y bywyd pur,
Yfed dwfr fel grisial gloyw
O ffynonau bywyd hir.

Ni gawn ganu'n gydsain gyson,
Haeddiant Iesu'n Brenin mawr,
A'r aneirif ddyoddefiadau
Trymion gafodd ar y llawr;
Ni gawn wledda yn drag'wyddol
Ar helaethrwydd mawr ei ras,
Heb na phoen, na gwae, na gofid,
O'r tu mewn nac o'r tu ma's.

GRIFFITH JONES gynt oedd ei enw,
Enw newydd sy arno'n awr,
Mewn llyth'renau na ddeallir
Eu 'sgrifenu ar y llawr;
Cân, bydd lawen, aros yna,
Os yw Duw o entrych ne'
Yn gweled eisiau prints a dysgu,
Fe fyn rywun yn dy le.


I MADAM BEVAN.


Tithau, bendefiges hawddgar,
Sydd a'th enw gwych ar led,
Na ch'wilyddia ddwyn yr achos
'Nawr yn mlaen, yn gadarn cred;
Gyr ysgolion rhad yn union,
O Lacharn hyd Gaergybi draw,
Nid oes neb o feibion Aaron
Na rydd iti help eu llaw.

Buost fammaeth i bererin,
'Rwyt ti'n sicr iawn o gael
Am bob defnyn o ddwfr gloyw
Roddaist iddo, gyflawn dâl;
Ti chwanegaist at dy goron
Berlau gwell, y dydd a ddaw,.
Nag a gloddir gan yr Indiaid
Fyth yn ngwlad Golconda draw.

Nodiadau golygu