Scots Wha Hae—Robert Burns - Robert Bruce - I'w fyddin D L P

Highland Mary — Robert Burns - Fy Anwyl Fari — Robin Ddu Eryri Cyfieithiadau o gerddi i'r Gymraeg
Robert Burns
gan Robert Burns

Robert Burns
wedi'i gyfieithu gan D L P
To a Mountain Daisy—Robert Burns - Llygad y Dydd—J C Davies


Scots Wha Hae- Robert Burns


Scots, wha hae wi' Wallace bled,
Scots, wham Bruce has aften led;
Welcome to your gory bed,
Or to victory!

Now's the day, and now's the hour;
See the front o' battle lour;
See approach proud Edward's power—
Chains and slavery!

Wha will be a traitor knave?
Wha can fill a coward's grave!
Wha sae base as be a slave?
Let him turn and flee!

Wha for Scotland's king and law
Freedom's sword will strongly draw,
Freeman stand, or freeman fa',
Let him follow me!

By oppression's woes and pains!
By your sons in servile chains!
We will drain our dearest veins,
But they shall be free!

Lay the proud usurpers low!
Tyrants fall in every foe!
Liberty's in every blow!—
Let us do or die!


Robert Bruce - I'w fyddin cyn
Brwydr Banockburn gan D L P

Chwi, fu'n gwaedu ag Wallace fad,
Aml arweiniodd Bruce i'r gad;
Croesaw, 'ngwŷr, i'ch gwely gwa'd,
Neu i fuddugoliaeth gu!

Hwn yw'r dydd, a hon yw'r awr;
Blaen y gad gymyla'i gwawr ;
A'r balch Edwart nesa 'nawr
Edwart, tidau, caethder du !

Pwy'n ddyhiryn bradus f'ai ?
Pwy i fedd y llwfryn âi ?
Pwy yn gaethwas sâl a sa'i ?
Cilied-cilied, ffoed i'w dy!

Pwy dros deyrn a deddf ei dir
Rymus dyn gledd rhyddid pur,
Saif neu syrth yn rhyddwr gwir,
Deued, a dilyned fi!

Myn gruddfanau-poenau prudd !
Myn eich plant yn gaethion sydd !
Gwag ein gwythi hoffaf fydd,
Ond cânt fod yn rhyddion hy'!

Rhowch dan draed y balch a'i drais !
Gormes syrth pan syrthio Sais!
Rhyddid, clywch, sydd yn mhob clais !
Gwnawn yn lew, neu farw'n llu!