Seren Tan Gwmwl Seren Tan Gwmwl

gan John Jones (Jac Glan y Gors)

Seren Tan Gwmwl

RHAGAIR

UN o ysgrifenwyr cyfnod chwyldro Ffrainc oedd John Jones Glan y Gors; un a daflwyd i li bywyd yn Llundain; un o feibion "rhyddid, cydraddoldeb, brawdgarwch."

Fe aethai dynoliaeth ar gyfeiliorn yn ystod yr Oesoedd a elwir Tywyll. Er mwyn dad-wneud y drwg, a dyfod yn ôl i'r llwybr iawn, fe fu rhaid wrth ddau ffrwydrad: chwalu awdurdod gormesol yr eglwys, a chwalu awdurdod gormesol gwleidyddol. Fe wnaethpwyd y naill gan y Dadeni, a'r llall gan chwyldroadau America a Ffrainc.

Yn y dinasoedd y dechreuwyd amau seiliau sefydliadau gwleidyddol ac eglwysig. Yr oedd 90 o bob cant o wladwyr Ewrob yn anllythrennog a digon di-hidio. Ond dyma'r gynffon yn dechrau ysgwyd y ci. Fe gododd ysgrifenwyr i arwain yr ychydig rai meddylgar; cyffroesant hwythau a llusgo'r llu i'w canlyn; a hwnnw ydyw'r ysbryd a arweiniodd, trwy waith a mynych adwaith, at wareiddiad gwyddonol a chymharol rydd y dydd heddiw.

Ym Mhrydain y dechreuodd yr ymholi a'r ymresymu. Aeth Voltaire (fu'u byw yn Lloegr) â'r syniadau i Ffrainc, lle y datblygwyd hwy gan Rousseau, ac aeth Franklin, Paine, a Jefferson â hwy i America. Y bobl a gymhwysai egwyddorion Voltaire a Rousseau at fywyd a'i broblemau oedd y bobl a ddarllenid yn America a Lloegr a thrwy gydol Ewrob yn ail ran y ddeunawfed ganrif, ac a ysbrydolodd ym mhob gwlad y rhyddfrydiaeth oedd yn cymeradwyo'r chwyldro.

Un o'r ysgrifenwyr hyn oedd John Jones Glan y Gors, ac y mae dylanwad Paine yn arbennig arno. Dywed Syr Owen M. Edwards:

Prin y mae amser mor orthrymus yn ein hanes â'r adeg rhwng y chwyldroad yn Ffrainc a Deddf Rhyddfreiniaid y Bobl yn 1832. .... Safai barnwyr a gwladweinwyr a meddylwyr enwocaf y dydd yn gadarn yn erbyn 'rhyddid. Glan y Gors oedd y Cymro gododd ei lais yn huawdl ac eofn yn erbyn y gorthrwm hwn. . . . Tra'r oedd Gorthrwm a Gwamalrwydd a Rhodres yn teyrnasu, bu ef yn llais i Ryddid, i Onestrwydd. i Naturioldeb.

Llyfr Mr. R. T. Jenkins, Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif, ydyw'r llyfr i'w ddarllen i gael darlun da o Gymru yn oes "Jac Glan y Gors." Ynddo fe glywch son "am weithio caled am gyflog bychan, am golli'r gwaith hwnnw a gorfod newid ardal i chwilio am waith arall, am fywyd gwael. am addysg brin, ac am amynedd ddi-derfyn y tlawd."'

Dyma'r Gymru yr anfonodd Jac Glan y Gors ei "Seren Tan Gwmwl" iddi. Gallwn farnu'r cyffro a achosodd wrth yr hyn a ysgrifennodd ef ei hun wedi hynny:

Clywais eu bod yn cerdded o'r naill dŷ i'r llall i losgi'r llyfr a ysgrifennais......Mae yn enbyd gen i feddwl eu bod yn cymeryd cymaint o drafferth gyda llyfryn mor ddisylw; nid oedd dim modd i mi wybod wrth ysgrifennu'r llyfr, nad oedd gan y Cymry mo'r digon o synnwyr i wybod pa beth i'w ddarllen heb gael cennad ganddynt hwy.

Dywed fod "boneddigion yng Nghymru yn bygwth torri bywoliaeth llyfrwerthwyr oherwydd eu bod yn chwennych chwerthu yr hyn a fo gwir."

Ym mhlwy Cerrig y Drudion, Sir Ddinbych, y mae Glan y Gors, lle y ganwyd John Jones yn 1766. Yno, yn gweithio ar y fferm, y bu nes bod yn 23 oed. Aeth i Ysgol Ramadeg Llanrwst am ychydig, a dechreuodd brydyddu. Canodd lawer o gerddi gogan.

Pan oedd yn 23 oed, fe ffoes i Lundain o ffordd gwyr y gyfraith, a chafodd waith gyda groser yn y brifddinas. Daeth yn ôl i Gerrig y Drudion ymhen blwyddyn, ac yn ôl i Lundain wedyn ymhen pum mis. Yn 1793 fe'i cawn ef yn rheoli tafarn Canterbury Arms, Southwark, Llundain. Yn 1818 daeth yn denant Tafarn y King's Head, Ludgate-street. Bu'n amlwg iawn yng Nghymdeithas y Gwyneddigion yn Llun- dain.

Yn 1795, ac yntau'n 29 oed, y cyhoeddwyd Seren Tan Gwmwl, a bu rhaid iddo ffoi o Lundain am ysbaid o'i herwydd. Ddwy flynedd wedi hynny cyhoeddodd Toriad y Dydd.

Bu farw yn ei dŷ yn Ludgate-street, Llundain, yn 1821, wedi casglu cryn eiddo ac wedi prynu rhai o ffermydd gorau Cerrig y Drudion. Yr oedd Cymry eraill, o'r un ffydd â "Glan y Gors," yn ysgrifennu tua'r un adeg: Morgan John Rhys, Dr. Richard Price, Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi), a Thomas Roberts, Llwynrhudol; ac yn eu llinach hwy y cododd Robert Owen y Sosialydd, S.R. Llanbrynmair, Gwilym Hiraethog, R. J. Derfel, Michael D. Jones, Henry Richard, Thomas Gee, a David Lloyd George.