America a Ffrainc Seren Tan Gwmwl

gan John Jones (Jac Glan y Gors)

Hysbysebion

Trethi

Mae rhyfel hefyd yn llwytho pob teyrnas â threthi diddiben, ac y mae trethi trymion yn magu mwy O ddrwg mewn teyrnas nag a ddichon un dyn feddwl amdano. Mae trethi trymion yn gyrru yr hen i'r gweithdy, neu ar y plwyf, ac yn gyrru'r ieuanc i ladrata, ac yn gwasgu ar bobl sydd yn gweithio am eu bara, a hynny yn gwneud hwy yn groesion, ac yn sarrug; a'r croesder hwnnw yn magu llid rhwng cymdogion; a phlant llawer o bobl a fo'n trin tir heb ond ychydig amdanynt, ac heb ddim dysg i gael arian i dalu'r dreth; a'r arian rheini yn myned i gadw pobl i ladd ei gilydd; neu i gadw rhyw ddyn penchwiban, a chwech neu saith o butein- iaid. Mi fyddai'n anhawdd gan ddyn yng Nghymru goelio fod cymaint o ferched drwg yn cerdded heolydd Llundain ag y sydd; ac mi fyddai'n anhawdd gan ddyn yn Llundain, ac heb fod erioed oddi yno goelio fod cymaint o bobl ieuanc iachus yn cerdded o ddrws i ddrws i grefu eu bara yng Nghymru. Gadewch i ni ddal sylw byr, pa beth ydyw'r achos o hyn.

Yn gyntaf, pur anaml mae'r un ddynes yn troi ar y dref, neu'n ddrwg heb gael rhyw flinder mawr yn y cychwyn; un ai mi fydd ei gŵr wedi ei gadael hi, neu mi fydd swyddogion y brenin, wedi cymryd ei gŵr hi heb ei waethaf, fel myned ag eidion i'w ladd, a gadael y wraig a'r plant i newynu ac i dorri eu calonnau ar ei ôl ef; waith arall mi fydd cariad merch ieuanc wedi torri amod neu addewid â hi; hithau oherwydd hynny, mewn blinder meddwl, yn troi i yfed, ac i ddibrisio ei hun, ac yn myned yn ddynes ddrwg. Ond am unwaith mae hynny yn digwydd yn y wlad, mae e'n digwydd ganwaith yn Llundain, oherwydd yn y wlad, mi fydd carennydd y dyn a'r ddynes a fo'n cadw cwmpeini yn dynabod eu gilydd; felly os digwydd i linyn ffedog y ferch fyned yn rhy fyr, mi fydd eu carennydd yn gwneud iddynt briodi rhag cywilydd; ac OS gweinidogion a fyddant, ni ddichon iddynt fagu plant heb fod yn bwysau ar rai eraill, a rheini'n cael digon o waith talu trethi, a dilladu eu plant eu hunain. Felly rhaid i blant gweinidogion fyned efo eu mam i grefu eu bara, a hynny o achos melltith rhyfel a gorthrymder trethi. Pan oedd y trethi yn isel yr oedd y farchnad yn isel; a phan fo bara yn weddol o rad mi fydd y bobl a fo yn cadw gweithwyr yn cadw un neu ddau o'u plant hwy, i wneuthur swyddau, ac i ddysgu trin tir; ond pan fo'r ymborth yn ddrud, a'r trethi yn drymion ni cheidw neb ond can lleied. o deulu ag a fedrant, oherwydd hynny mae plant pobl dlodion yn cael eu troi allan i gerdded y wlad, i ddysgu segura, a direidi, yn lle gwaith a gorchwyl. Yn Llundain ni fyddai mo'r un o gant yn gadael eu gwragedd, ac yn torri amodau â'u cariadau, yn gwneud hynny ped faent yn gweled rhyw ffordd onest i allu byw. Pan fyddo deuddyn wedi priodi yn cymryd ystafell i fyw ynddi, rhaid iddynt roi pris digydwybod am yr ystafell fechan, a honno ym mhen tŷ, a'r gŵr a fo'n gosod yn dweud fod ei rent neu ei ardreth ef yn weddol, ond fod y trethi yn fwy o lawer na'r ardreth, ac fod yn rhaid iddo ef wneuthur ei arian allan o'i letywyr; ac nid ydyw un ystafell fechan ond lle go fain i fagu pedwar neu bump o blant, ac heb ddim lle iddynt allan heb fod tan draed, neu ar ffordd rhywun. Wrth fyfyrio ar hynny, a llawer o bethau eraill o'r fath, mae ar lawer o bobl yn Llundain ofn priodi; ac nid heb achos; er bod cymaint cariad rhwng dyn a dynes ag oedd rhwng Dafydd ap Gwilym a Morfudd, gwagedd iddynt briodi i ddyfod â'u hunain a'u plant i dlodi a llymdra; a hynny sydd yn peri iddynt dorri amodau â'i gilydd, ac wrth hynny yn rhwystro hapusrwydd ei gilydd tros byth.

Bellach, mae'n eglur mai trethi ydyw'r achos mwyaf o fod heolydd Llundain mor lawn o buteiniaid, a phlwyfydd Cymru mor lawn o dlodion; ond er cymaint ydyw'r caethder a'r caledi ymhob congl o'r wlad, gwell ydyw dioddef a chwyno am ryddid na chodi yn fyddin yn erbyn y llywodraeth er bod yn gyfreithlon i ryw nifer o bobl ddanfon eu cwyn i'r senedd, neu fyned at swyddogion y brenin, a chwyno eu hunain yn erbyn rhywbeth a fo'n eu blino; ac er i ryw nifer o bobl gychwyn i ryw dref ar fedr rhoddi eu cwyn yn bwyllog, ac yn amyneddgar ger bron swyddogion y brenin, ond cyn yr elont i ben eu taith, mi ddaw rhyw bobl anwybodus a direolaeth i'w plith, ac a ddechreuant amharchu'r ustusiaid, ac a ymddygant yn anweddaidd, fel ag y bu'n ddiweddar yn rhai mannau yng Nghymru; felly gwell yw dioddef cam nag amharchu swyddogion i geisio uniondeb, pa rai nad oes yn eu gallu wneuthur ond ychydig heb gennad y senedd. Y rhan nesaf o'r gwaith yma a elwir Toriad y Dydd, tan obeithio y rhydd fwy o oleuni na Seren tan Gwmwl. Y pryd hyn nid oes gennyf ond dymuned blinder cydwybod ac aflonyddwch i orthrymwyr trawsion; llwyddiant a dedwyddwch i ewyllyswyr da eu cydgreaduriaid; undeb a heddwch i ddynolryw; cyfiawnder a rhyddid i'r byd.