Storïau o Hanes Cymru cyf I/Gwenllian

Hywel Dda Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Yr Arglwydd Rhys

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan
ar Wicipedia






Castell Cydweli.

7.
Gwenllian.
Arwres Cydweli.

1. Beth yw'r hen adeilad mawr acw sydd ar ben y bryn?

2. Y mae ei do wedi mynd, ond y mae ei furiau'n aros. Y mae porfa'n tyfu o'i fewn. Hen gastell ydyw.

3. Pe medrai carreg o'r mur yna siarad, caem ganddi lawer stori gyffrous am bobl a fu'n byw gynt yn ein gwlad.

4. Yn 1066, daeth Norman yn frenin ar Loegr. Daeth â llawer o'i ffrindiau yma gydag ef.

5. Cawsant y tir gorau yn Lloegr i fyw ynddo. Nid oedd y brenin am iddynt ddwyn tir Cymru.

6. Yr oedd arno ofn codi'r Cymry'n ei erbyn. Clywsai mor ddewr oeddynt ac mor hoff o'u gwlad.

7. Er mwyn cadw y Cymry rhag dyfod i Loegr, cafodd y Normaniaid dir ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

8. Yna cododd pob Norman gastell mawr, a chadw yno haid o filwyr, er mwyn peri ofn ar y Cymry.

9. Ar y pryd hwn yr oedd gwŷr mawr y Cymry'n ymladd â'i gilydd o hyd. Aeth un ohonynt at Norman i ofyn am ei help.

10. Dyna dro gwael! Cymro yn gofyn am help estron i ymladd yn erbyn Cymro! Daeth gofid mawr i Gymru am hyn.

11. Gwelodd y Normaniaid fod Cymru'n wlad dda. Byddai'n hawdd concro'r Cymry am eu bod mor hoff o ymladd â'i gilydd.

12. Cododd castell mawr yma, a chastell mawr draw. Fel hyn aeth rhan orau'r wlad i law'r Norman.

13. Ar ôl amser hir ac ymladd caled y cafodd y Cymry eu tir yn ôl.

14. Gruffydd ap. Rhys, Tywysog y De, oedd un o'r dewraf a fu'n ymladd â'r Norman. Yr oedd Gwenllian, ei wraig, mor ddewr ag yntau.

15. Enillodd Rhys frwydr ar ôl brwydr, nes i'r Normaniaid ofni y collent eu tir a'u cestyll i gyd.

16. Daeth Rhys i wybod eu bod ar ddyfod â byddin fawr yn ei erbyn. Yr oedd ei fyddin ef yn rhy fach i gwrdd â hwy.

17. Aeth at Frenin Gwynedd i ofyn am help. Tad Gwenllian oedd y brenin hwn.

18. Tra bu ef yn y Gogledd, glaniodd byddin y gelyn. Nid oedd neb i arwain y Cymry.

19. "Byddaf fi 'n gapten arnoch," ebe Gwenllian.
Daeth llu mawr o dan ei baner.

20. Bu brwydr galed iawn yn ymyl Cydweli. Y Norman a enillodd.

21. Wedi'r frwydr, torrwyd pen Gwenllian gan y Norman creulon. Lladdwyd Morgan, ei mab hefyd.

22. "Maes Gwenllian" y gelwir hyd heddiw y fan lle bu'r frwydr hon yn 1130.

Nodiadau

golygu