Storïau o Hanes Cymru cyf I/Yr Arglwydd Rhys

Gwenllian Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Llywelyn, ein Llyw Olaf

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Rhys ap Gruffudd
ar Wicipedia





8.
Yr Arglwydd Rhys.
Eisteddfod i Gymru.

1. Cododd y Cymry fel un gŵr i ddial cam Gwenllian. Aeth un ar ôl y llall o gestyll y Norman i'r llawr.

2. Wedi marw Gruffydd a Gwenllian, daeth eu mab yn Dywysog y De.

3. Yn Nyffryn Tywi y mae rhes hir o gestyll yn agos at ei gilydd, Carreg Cennen, Dinefwr, Dryslwyn, Cydweli, Llansteffan, a Chaerfyrddin.

4. Dengys y rhai hyn fod llu o'r Normaniaid wedi bod yn byw yn y rhan hon o'r wlad.

5. Gwelodd Rhys mai gwaith mawr ei fywyd ef oedd cael y wlad oedd o dan ei ofal yn ôl i'r Cymry.

6. Pe câi'r Norman aros yng Nghymru ni byddai na Chymro na Chymraeg yn bod yn fuan iawn.

7. Harri'r Ail oedd brenin Lloegr ar y pryd hwn. Ar ochr y Normaniaid yr oedd ef, wrth gwrs. Bu'n eu helpu lawer tro yn erbyn Rhys.

8. Cyn hir, aeth y Normaniaid yn erbyn Harri ei hun. Daeth Rhys a'i wŷr i'w helpu i ymladd â hwynt. Ar ôl hynny, bu Harri ar ochr Rhys.

9. Yr oedd llawer o'r cestyll wedi eu hail-godi erbyn hyn. Cyn hir daeth Rhys yn feistr arnynt i gyd. Cafodd Cymru lonydd am dymor.

10. Rhys oedd y cryfaf a'r gorau o bob Tywysog a fu yng Nghymru hyd yn hyn. "Yr Arglwydd Rhys" y gelwid ef gan bawb.

EISTEDDFOD ABERTEIFI, 1176

11. Wedi'r ymladd, cafodd amser at bethau eraill. Trefnodd Eisteddfod am y tro cyntaf yn ein gwlad.

12. Yn Aberteifi y bu hon yn 1176. Daeth yno bobl o bob rhan o Gymru. Yr oedd yr Arglwydd Rhys yno hefyd.

13. Rhoed cadair i'r bardd gorau, ac un arall i'r telynor gorau, a gwobrau eraill am adrodd a chanu.

14. Medrodd yr Arglwydd Rhys arwain ei bobl at bethau fel hyn yn y dyddiau blin hynny!

15. Ar ôl hyn adeiladodd Rhys Fynachlog Ystrad Fflur. Yno, bu dynion da'n byw o sŵn y byd, yn gweddio, a dysgu eraill ac ysgrifennu llyfrau.

16. Eu llyfrau hwy sydd yn rhoi i ni hanes Cymru ar yr amser hwnnw.

17. Er i'r Arglwydd Rhys drechu'r Norman, a gwneud llawer i godi'r bobl, ni chafodd amser tawel yn niwedd ei oes.

18. Yr oedd ganddo chwech neu saith o feibion. Codasant hwy yn erbyn eu tad er mwyn dwyn ei gestyll a'i dir.

19. Bu farw yn 1197. Y mae ei fedd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

20. Ar ôl dyddiau'r Arglwydd Rhys bu raid ymladd llawer eto â'r Norman. Erbyn heddiw nid oes neb ohonynt ar ôl.

21. Y mae'n gwlad gennym o hyd, ac y mae "Heniaith y Cymry mor fyw ag erioed."

Nodiadau

golygu