Storïau o Hanes Cymru cyf I/Ieuan Gwynedd

Robert Owen Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Gwilym Hiraethog

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Evan Jones (Ieuan Gwynedd)
ar Wicipedia





IEUAN GWYNEDD

19.
Ieuan Gwynedd.
Sefyll dros y Gwir.

1. Bryntynoriad. Dyna enw hir! Enw bwthyn ydyw ger Dolgellau. Y mae'n werth ei gofio am mai yno y ganed un o feibion dewraf Cymru.

2. Tybiwn ein bod yn agor drws y bwthyn hwn ryw fore yn y flwyddyn. 1824.

3. Ar y sciw wrth y tân gwelwn fachgen bach pedair blwydd oed, ac ar y ford o'i flaen Feibl agored, ac yntau'n darllen ohono.

4. "Dech-reu-ad," medd rhyw lais. Y fam sydd yno'n tylino toes, ac yn helpu'r plentyn i ddarllen yr un pryd.

5. "Dech-reu-ad," medd yntau ar ei hôl, a darllen yr adnod eto.

6. "Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair."

7. Fel yna y dysgodd Evan Jones ddarllen. Rhaid bod ei fam yn athrawes dda. Medrai Evan ddarllen y Beibl cyn ei fod yn bum mlwydd oed.

8. Nid oedd neb yn meddwl y byddai Evan bach fyw'n hir. Nid oedd byth yn iach, felly ni chafodd fynd i'r ysgol.

9. Ond ni chafodd fod heb ddysgu. Cyn ei fod yn ddeng mlwydd oed yr oedd wedi darllen pob llyfr oedd yn y tŷ. Ei fam oedd yn ei helpu i'w deall.

10. Er ei fod mor afiach, ac er ei fod yn dlawd iawn, dysgodd ddigon i fod yn athro mewn ysgol.

11. Ar ôl hynny aeth i'r coleg. Bu'n weinidog, a bu'n olygydd papur pwysig yn Llundain.

12. Fe'i galwodd ei hun yn "Ieuan Gwynedd." Dyna'i enw Dyna'i enw gan bawb heddiw. Y mae llawer Evan Jones yng Nghymru. Nid oes dim ond un Ieuan Gwynedd.

13. Daeth yn ddyn o ddysg a dylanwad yn ei wlad ei hun ac yn Llundain. Yr oedd yn fawr ei barch gan Gymry a Saeson.

14. Bu 1847 yn flwyddyn ddu i Gymru. Bu dynion yma ar ran y Llywodraeth yn edrych beth oedd cyflwr addysg yn y wlad, a sut oedd y bobl yn byw.

15. Yn eu Hadroddiad, dywedasant lawer o bethau nad oeddynt yn wir am Gymru. Bu hyn yn ofid blin i'r genedl.

16. Pwy ddaeth i sefyll ar ran Cymru ar yr awr ddu honno yn ei hanes? Ieuan Gwynedd.

17. Gwnaeth ef i'r byd weld nad oedd yr Adroddiad yn gywir. Dynion heb fedru iaith Cymru ac felly heb ddeall ei phobl oedd wedi ei ysgrifennu.

18. Ni all neb ddeall pobl yn iawn heb fedru eu hiaith a byw yn eu plith.

19. Bu Ieuan, â'i bin ysgrifennu, yn ymladd yn ddewr dros enw da Cymru. Gwnaeth fwy o waith na llawer milwr. Enillodd frwydr fawr.

20. Erbyn hyn, y mae'r ddwy genedl yn deall ei gilydd yn well. Y mae llawer o Saeson yn byw yng Nghymru, a llawer o Gymry'n byw yn Lloegr, a'r naill yn parchu'r llall.

21. Gwnaeth Ieuan lawer o bethau eraill dros ei wlad. Ef oedd y cyntaf i ddwyn allan lyfr i roddi addysg i ferched Cymru. "Y Gymraes" oedd enw'r llyfr hwnnw.

22. Yn ei amser ef, anaml y câi merched ddysgu dim ond gwaith tŷ. Gwelodd Ieuan nad oedd hynny'n deg.

23. Caiff merched heddiw gystal addysg â bechgyn. Ieuan Gwynedd oedd y cyntaf yng Nghymru i ddangos mai felly y dylai fod.

24. Bu farw pan nad oedd ond deuddeg ar hugain oed. Gwnaeth waith mawr mewn oes fer. Y mae ei fedd ym mynwent y Groeswen.

Nodiadau

golygu