Storïau o Hanes Cymru cyf I/Robert Owen

Williams Pantycelyn Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Ieuan Gwynedd

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Robert Owen
ar Wicipedia





ROBERT OWEN

18.
Robert Owen.
Arwr y Gweithiwr.

1. Hyd yn ddiweddar, prif waith pobl yn y wlad hon oedd trin y tir a magu anifeiliaid.

2. Nid oedd na gwaith glo na gwaith dur; nid oedd na ffatri wlân na ffatri gotwm. Nid oedd trên.

3. Yn y cartref y gwneid y rhan fwyaf o bethau. Dysgid pob merch i nyddu, neu droi edafedd yn barod at wneud brethyn.

4. Yr oedd rhôd nyddu ym mhob tŷ. Yr oedd gwehydd ym mhob pentref.

5. Offer gwael oedd gan bobl at eu gwaith. Bu llawer o ddynion yn ceisio gwneud rhai gwell o dro i dro.

6. Pan ddaeth peiriannau newydd, bu raid cael lle iddynt heblaw yn y cartref, fel y caffai llawer o bobl weithio gyda'i gilydd. Fel hyn y daeth y ffatri i fod.

7. Tua'r un adeg agorwyd glofeydd yma a thraw ar hyd y wlad. Dechreuwyd gweithiau dur ac alcam.

8. Daeth y gweithwyr i fyw i'r ardal lle'r oedd y gwaith. Codwyd llu o dai yn ymyl ei gilydd.

9. Fel hyn y daeth rhai o'n trefi mawr i fod, megis Merthyr, Abertawe, Birmingham a Sheffield.

10. Gwneud arian oedd amcan y rhan fwyaf o'r meistri, mewn ffatri a glofa. Ni ofalent lawer am fywyd eu gweithwyr.

11. Gwnaent iddynt weithio'n galed iawn am arian bach. Yr oedd y gwragedd a'r plant yn gorfod gweithio hefyd am oriau hir iawn bob dydd.

12. Gwael iawn oedd eu tai, er eu bod yn talu'n ddrud amdanynt. Amser caled oedd hwnnw i weithwyr ym mhobman.

13. Cyn hir daeth dyn da i ddadlau eu hachos, i fynnu chwarae teg iddynt, a dangos i'r byd y modd y dylid eu trin.

14. Robert Owen oedd ei enw. Ganwyd ef yn y Drefnewydd, Sir Drefaldwyn, yn 1771.

15. Er prinned oedd addysg yr amser hwnnw, dysgodd Robert Owen ddarllen, ysgrifennu, ac ychydig rifyddeg.

16. Bu raid iddo ddechrau gweithio mewn siop pan nad oedd ond naw mlwydd oed. Yr oedd yn hoff iawn o ddarllen. Daeth ymlaen yn gyflym.

17. Aeth i weithio i drefi mawr. Bu ym Manceinion mewn gweithfa beiriannau. Wedi hynny daeth yn brif ddyn mewn ffatri gotwm fawr.

18. Yn fuan iawn yr oedd yn berchen gwaith cotwm yn Lanark. Cafodd yn awr ei gyfle i ddangos sut i drin gweithwyr.

19. Adeiladodd bentref ar gyfer y gweithwyr yn unig. Yr oedd tai da yn hwn ac ysgolion i'r plant.

20. Yn yr ysgol yr oedd plant ei weithwyr ef. Ni chaent weithio yn y ffatri.

21. Yr oedd siopau yn y pentref hefyd, y siopau gweithwyr cyntaf. Ceid ynddynt fwyd da am bris rhesymol.

22. Rhoddai Robert Owen yr elw i gyd at wella bywyd y gweithiwr.

23. Aeth sôn amdano drwy'r wlad a thrwy Ewrop. Deuai dynion pwysig o bell i weld y gwaith a'r pentref newydd ar lan Afon Clyde.

24. Bu Robert Owen eto'n ysgrifennu ac yn siarad llawer ar ran y gweithwyr. Cyn hir gwnaed Deddf newydd er eu mwyn.

25. Ni châi plant weithio mwy mewn ffatrioedd. Yr oeddynt i fynd i'r ysgol. Yr oedd oriau'r gweithwyr i fod yn llai a'u tai'n well.

26. Sefydlodd Robert Owen hefyd Undeb y Gweithwyr, fel y gallent helpu ei gilydd.

27. Am y pethau da a wnaeth dros weithwyr ym mhobman y gelwir ef yn "Arwr y Gweithiwr."

Nodiadau

golygu