Storïau o Hanes Cymru cyf I/Williams Pantycelyn

Mari Jones Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Robert Owen

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Williams, Pantycelyn
ar Wicipedia





COFGOLOFN WILLIAMS PANTYCELYN

17.
Williams Pantycelyn.
Y Perganiedydd.

1. O'r holl ddynion mawr a fu byw yng Nghymru erioed ni wnaeth neb fwy o les i'w oes ac i'r oesau ar ei ôl na William Williams Pantycelyn.

2. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1717, mewn ffermdy yn agos i Lanymddyfri. Yr oedd hyn fwy na chan mlynedd ar ôl amser y Ficer Pritchard.

3. Wedi iddo dyfu'n llanc aeth i'r ysgol i ddysgu bod yn ddoctor. Un bore Sul, clywodd Hywel Harris yn pregethu. Ni bu byth yr un fath wedi clywed y bregeth honno.

4. Nid oedd am fynd yn ddoctor mwy. Gwelodd yn sydyn fod iddo ef waith pwysicach i'w wneud yn y byd.

5. Ei awydd mawr oedd mynd ar hyd y wlad, fel y gwnâi Hywel Harris, i bregethu a dysgu pobl sut i fyw.

6. Daeth yn bregethwr ac yn fardd hefyd. Nid pob bardd a fedr wneud emyn. Gwneud emynau oedd hoff waith Williams.

7. Daeth pobl yn hoff iawn o'i emynau. Yr oedd pawb trwy'r wlad yn eu canu. Bu hynny'n help mawr i bobl fyw'n iawn a gwneud y gorau o'u bywyd.

8. Er bod yn agos i ddau can mlynedd er pan fu farw Williams, nid oes neb wedi gallu gwneud cystal emynau â'i emynau ef, a chenir hwy o hyd.

9. Y maent yn iaith i feddwl a chalon dynion. Y mae Cymry trwy'r byd yn gwybod llawer ohonynt ar eu cof.

10. Nid Cymry'n unig a ŵyr amdanynt. Y mae rhai ohonynt wedi eu cyfieithu i'r Saesneg.

11. Y mae rhai pobl wedi dysgu Cymraeg er mwyn medru eu darllen yn yr iaith yr ysgrifennwyd hwy gan Williams.

12. Ceir llawer iawn ohonynt ymhob Llyfr Emynau, hen a diweddar, yng Nghymru.

13. Medrai Williams wneud emyn yn aml heb ymdrech o gwbl. Unwaith, yr oedd mewn pulpud a chlywai sŵn y môr trwy'r ffenestr agored. Gwnaeth un o'i emynau gorau ar y funud honno:

14. Mae'r iachawdwriaeth fel y môr,
Yn chwyddo byth i'r lan,
Mae ynddi ddigon, digon byth
I'r truan ac i'r gwan.

15. Dyma un arall o'i emynau,—un syml a llon:

Plant ydym eto dan ein hoed,
Yn disgwyl am y stâd,
Mae'r etifeddiaeth inni'n dod
Wrth Destament ein Tad.

16.Mae gwlad o etifeddiaeth deg
Yn aros pawb o'r saint;
Ni ddichon dyn nac angel byth
Amgyffred gwerth eu braint.

17.Cyd-etifeddu gaiff y plant
 Christ—Etifedd nen;
Cânt balmwydd gwyrddion yn eu llaw
A choron ar eu pen.


18. Dyma un arall eto:

Yr Iesu mawr yw tegwch byd,
A thegwch penna'r nef:
Ac mae y cwbl sydd o werth
Yn trigo ynddo Ef.

19. Os edrych wnaf i'r dwyrain draw,
Os edrych wnaf i'r de;
Ymhlith a fu, neu eto ddaw,
'Does debyg iddo 'Fe.

20. Wedi iddo briodi, aeth Williams. i fyw i Bantycelyn,—fferm yn agos i Lanymddyfri. "Williams Pantycelyn" yw ei enw gan bawb erbyn hyn. Weithiau, dim ond "Pantycelyn" a ddywedir.

21. Y mae ei fedd ym mynwent eglwys Llanfair-ar-y-bryn, Llanymddyfri.

Nodiadau

golygu