Storïau o Hanes Cymru cyf I/Owen Glyn Dŵr
← Llywelyn, ein Llyw Olaf | Storïau o Hanes Cymru cyf I gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
John Penry → |
TY SENEDD OWEN GLYN DWR
1O.
Owen Glyn Dŵr.
Dyn o flaen ei Oes.
1. Pwy na chlywodd enw Owen Glyn Dŵr? Pwy oedd ef? Pa bryd y bu fyw? Beth a wnaeth i beri i bawb wybod ei enw a chofio amdano?
2. Cymro ydoedd, wrth gwrs. Yr oedd yn byw tua dwy ganrif ar ôl yr Arglwydd Rhys.
3. Yr oedd ymladd mawr o hyd yma. Ymladd er mwyn dwyn tir pobl eraill oedd y Saeson y pryd hwnnw. Ymladd am ryddid i fyw yn eu gwlad eu hunain oedd y Cymry.
4. Wedi marw Llywelyn, daeth mab hynaf brenin Lloegr yn Dywysog arnynt.
5. Yna bu'n amser blin ar y Cymry. Ni welai'r Saeson ddim da ynddynt. Ni welent hwythau ddim da yn y Saeson.
6. Eu hawydd mawr oedd bod rhydd eto, a chael Cymro'n Dywysog arnynt fel o'r blaen.
7. Wedi amser hir o ymladd, cododd dyn dewr i'w harwain. Galwodd am help pob Cymro i yrru'r Saeson allan o'r wlad.
8. Owen Glyn Dŵr oedd hwnnw. Aeth ei neges fel tân trwy Gymru. Daeth llu mawr o dan ei faner.
9. Wedi brwydro'n hir, daeth Cymru'n rhydd. Owen Glyn Dŵr oedd Tywysog Cymru!
10. Wedi cael Cymru Rydd mynnai Owen gael Cymru Lân. Yr oedd am i Gymru fod yn wlad orau'r byd.
11. Yr oedd am gael Senedd, ac Eglwys, ac Athrofa i Gymru ei hun! Dim ond un o'r tair sydd gennym eto, ar ôl pum can mlynedd!
12. Aeth pethau yn erbyn Owen eto. Aeth brenin Lloegr yn drech nag ef. Gorfu i Owen ffoi.
13. Un tro daeth ef, ac un o'i ffrindiau fel gwas iddo, at Gastell y Coety, lle'r oedd Norman o hyd yn byw.
14. "A gawn ni lety noson, os
gwelwch yn dda?" ebr Owen yn
Ffrangeg.
"Gyda phleser," ebe'r Norman.
15. Daeth yn hoff iawn o gwmni'r ddau. "Arhoswch yma am wythnos," meddai, "yna cewch weld y dyn drwg yna, Owen Glyn Dŵr. Bydd fy milwyr yn sicr o'i ddal cyn hynny."
16. "Gwaith da a fyddai dal hwnnw,' ebr Owen.
17. Pan oedd yn ymadael, estynnodd Owen ei law i'r Norman a dywedyd,— "Dyma Owen Glyn Dŵr yn ysgwyd llaw â chwi, ac yn diolch o galon i chwi am fod mor dda iddo ef a'i ffrind." Aeth y Norman yn fud gan syndod.
18. Dro arall, yr oedd Owen yn cerdded wrtho'i hun yn y bore bach ar fynydd y Berwyn. Daeth mynach i gyfarfod ag ef.
19. "Bore da, syr," ebr Owen. “Yr ydych wedi codi'n rhy fore." "Nac ydwyf," ebe'r mynach, ac edrych yn hir ar Owen, "tydi sydd wedi codi'n rhy fore—o gan mlynedd."
20. Ystyr geiriau'r mynach oedd bod Owen yn rhy fawr ac yn rhy dda i'w oes. Wedi amser hir ar ôl ei farw y gwelwyd ei werth.
21. Hyd heddiw, dwy genedl wahanol yw'r Saeson a'r Cymry, ond nid gelynion ydynt yn awr. Y mae'r ddwy'n cydfyw ac yn cydweithio'n heddychol. Gwêl y naill beth sydd yn dda ym mywyd y llall.
22. Perchir y Cymry heddiw gan y byd am eu cariad at ryddid, ac am iddynt gadw 'u gwlad a'u hiaith, a mynnu bod yn genedl fyw trwy bob caledi.
23. Edrychid gynt ar Owen Glyn Dŵr fel gwrthryfelwr,—un yn ymladd yn erbyn Llywodraeth ei wlad. Heddiw edrychir arno fel un o brif arwyr Cymru.