Storïau o Hanes Cymru cyf I/John Penry

Owen Glyn Dŵr Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Yr Esgob Morgan

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Penry
ar Wicipedia





Cefn Brith, cartref John Penri

11.
John Penry.
Marw dros Gymru.

1. Ar ôl amser Owen Glyn Dŵr, ni bu llawer o ymladd â'r cleddyf yn ein gwlad, ond bu ymladd dewr o natur arall.

2. Y mae llawer un, o dro i dro, wedi sefyll i fyny dros Gymru, wedi dadlau drosti, ac wedi ei chadw rhag cael cam.

3. Y mae'r bobl a wna hyn yn aml yn fwy dewr na'r rhai a ymladd drosti ar faes y gad.

4. Y mae ambell un ohonynt wedi colli ei fywyd ei hun wrth achub ei wlad. Un o'r rhai hyn oedd John Penry.

5. Yn amser y Frenhines Elisabeth yr oedd John Penry'n byw. Yr oedd Cymru a Lloegr wedi eu gwneud yn un wlad cyn i Elisabeth ddyfod i'r orsedd.

6. "Gan mai un wlad ydyw, un iaith sydd i fod ynddi," meddai Harri'r Wythfed, oedd yn frenin y pryd hwnnw. "Ni chaiff neb sydd yn siarad Cymraeg ddal unrhyw swydd yn y wlad."

7. Mwy na hyn, nid oedd hawl gan neb i bregethu yn Gymraeg, nac i ddysgu'r bobl yn Gymraeg.

8. Pan âi'r Cymry i'r eglwys, nid oedd y rhan fwyaf ohonynt yn deall gair o'r gwasanaeth.

9. Nid oedd llyfrau ganddynt i'w darllen. Nid oedd neb ganddynt i'w dysgu. Yr oedd y Saeson oedd mewn swyddi yn eu sarhau a'u cam-drin.

10. Cyn hir, daeth rhywun i ddadlau trostynt gerbron y Frenhines a dynion mawr y wlad. John Penry oedd hwnnw.

11. Ganwyd ef yn y Cefnbrith, gerllaw Llangamarch, Sir Frycheiniog. Cafodd addysg dda pan oedd yn llanc ac aeth i'r coleg i Gaergrawnt.

12. Yr oedd ei galon yn llawn gofid wrth weld cosbi ei gyd-genedl am siarad yr unig iaith a wyddent, a gweld nad oedd neb yn dysgu dim iddynt.

13. Ysgrifennodd lythyr at y Frenhines ac at y Senedd yn dangos sut yr oedd pethau yng Nghymru.

14. "Dymunaf arnoch anfon i Gymru rai a fedr bregethu a dysgu yn iaith Cymru," meddai.

15. Yr oedd dyn ieuanc a fentrai ysgrifennu fel hyn at Frenhines Lloegr yr amser hwnnw yn ddyn ieuanc dewr iawn.

16. Daliwyd ef a'i roddi yn y carchar. Ond nid oedd tewi arno. Ar ôl dyfod allan, ysgrifennodd eto at yr un rhai, i alw eu sylw at Gymru.

17. Ysgrifennodd hefyd at ei gyd-genedl yn erfyn arnynt gasglu arian yn eu plith eu hunain i dalu rhywrail am bregethu iddynt yn Gymraeg.

18. Cafodd ei roddi yn y carchar eto. Er mwyn cael llonydd ganddo am byth, cafodd ei grogi.

19. Ar y nawfed ar hugain o Fai, 1593 y bu hyn. Nid oedd ond pedair ar ddeg ar hugain oed.

20. Costiodd ei gariad at Gymru'n ddrud i John Penry. Ond ni bu ei waith yn ofer, ac nid â ei enw byth yn angof.

Nodiadau

golygu