Storïau o Hanes Cymru cyf I/Yr Esgob Morgan

John Penry Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Ficer Pritchard

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Morgan
ar Wicipedia





Rhodd yr Esgob Morgan i Gymru

12.
Yr Esgob Morgan.
Beibl i Gymru.

1. Y Beibl yw prif lyfr y byd. Trwy ddarllen y Beibl y dysgwn y pethau sydd â mwyaf o eisiau arnom eu gwybod.

2. Pan oedd John Penry'n fachgen bach, nid oedd Beibl yn bod yn yr iaith Gymraeg.

3. Yr oedd Beibl yn yr iaith Saesneg. Nid llawer o Gymry a fedrai ddeal! hwnnw.

4. Yr oedd y gwaith o droi'r Beibl i'r Gymraeg wedi ei ddechrau ymhell cyn i John Penry farw.

5. Ni ellid gwneud gwaith mor fawr mewn amser byr. Ni wyddai neb pa bryd y deuai i ben.

6. Bu chwilio mawr cyn cael neb addas at y gwaith.

7. Yn yr iaith Hebraeg a'r iaith Roeg yr ysgrifennwyd y Beibl ar y cyntaf. Yr oedd yn rhaid cael rhywun oedd yn deall yr ieithoedd hynny'n dda.

8. Yr oedd yn rhaid iddo hefyd fedru'r iaith Gymraeg,—nid ei siarad yn unig, ond ei hysgrifennu'n gywir a choeth.

9. Dechreuodd mwy nag un ar y gwaith mawr, a'i roddi i fyny cyn ei orffen. O'r diwedd, cafwyd un oedd yn well na neb o'r lleill.

10. William Morgan oedd ei enw. Mab i ffermwr tlawd o Sir Gaernarfon ydoedd. Yr oedd yn hoff iawn o ddysgu. Darllenai bob llyfr y câi afael arno.

11. Bu rhyw fynach dysgedig, a grwydrai ar hyd y wlad, yn athro da iddo.

12. Aeth i Gaergrawnt. Wedi hynny bu'n Ficer yn Llanrhaeadr ym Mochnant, Sir Drefaldwyn.

13. Nid oedd ei well am ddysgu ieithoedd pan oedd yn y coleg. Gwyddai Roeg a Hebraeg yn dda.

14. Gan ei fod wedi ei fagu ar fferm yng Nghymru medrai siarad Cymraeg naturiol. Y mynach hwnnw a roes iddo'i arddull dlos wrth ei hysgrifennu.

15. Dechreuodd gyfieithu'r Hen Destament heb i neb ofyn iddo. Daeth yn hoff iawn o'r gwaith.

16. Un dydd, dangosodd yr hyn a wnaethai i'r Archesgob. Ni wyddai hwnnw air o Gymraeg, ond deallodd yn fuan mai William Morgan oedd y dyn at y gwaith pwysig.

17. Gofynnodd iddo ddyfod i fyw i'w blas ef yn Llundain, a chael ei holl amser i ysgrifennu.

18. Yn 1588 yr oedd y gwaith mawr yn barod. Yr oedd gan Gymru ei Beibl!

19. Am ei waith pwysig cafodd y Ficer William Morgan ei wneud yn Esgob Llanelwy. Y mae "Yr Esgob Morgan" yn enw cyfarwydd yng Nghymru o'r pryd hwnnw hyd yn awr.

20. Cael y Beibl yn eu hiaith eu hunain oedd y rhodd fwyaf a gafodd y Cymry gan neb erioed.

21. Daethant gydag amser i fyw bywyd gwell. Daethant i wybod mwy. Daethant hefyd i siarad gwell Cymraeg.

Nodiadau

golygu