Straeon y Pentan/Edward Cwm Tydi
← Het Jac Jones | Straeon y Pentan gan Daniel Owen |
Thomas Owen, Tŷ'r Capel → |
Edward Cwm Tydi
FEL partner i stori Jac Jones a'i het, dyma i ti stori arall sydd yn dangos mor hawdd ydyw gwella ambell ddyn o afiechyd trwm, a mae'r hanes yn wir bob gair, - yr oeddwn yn adnabod y bobol, ac y mae eraill yn fyw yrwan oedd
yn eu hadwaen. Yr hyn a wnaeth i mi gofio yr hanes oedd clywed am y Seqwa yna sydd yn mynd o gwmpas y wlad i wella pobol o'r gymalwst (rheumatism) mewn ychydig funudau drwy eu rhwbio. Oddeutu trigain mlynedd yn ol, yr oedd yn byw mewn tyddyn o'r enw Cwm Tydi, yn agos i Llangollen, frawd a chwaer, sef hen lanc ifanc a hen ferch ifanc, o'r enw Edward ac Ann. Yn y dyddiau hyny byddai pobol yn cael eu hadnabod wrth y lle y byddent yn byw ynddo, neu wrth y gelfyddyd a fyddent yn ei dilyn. Er fy mod yn adwaen y brawd a'r chwaer yn dda, ni wyddwn mo'u henw ond fel Edward ac Ann Cwm Tydi. Yr oedd yr hen lanc a'r hen ferch mewn tipyn o oed. Dyn mawr, cryf, iach, oedd Edward, ond lled wanaidd oedd ei chwaer Ann.
Ryw dro cymerwyd Edward yn sâl iawn gan y gymalwst, fel na fedrai prin symud yn ei wely, wa goddef i neb gyffwrdd âg ef, ac yr oedd mewn poenau dirfawr, a gyrwyd ar ffrwst i Langollen am Doctor Morris. Dyn byr, cryno, oedd y Doctor, ac wedi clywed am afiechyd Edward, daeth i Gwm Tydi yn ddiymdroi, a dywedodd y gwnai anfon potelaid o ffisig i'r claf. Yr oedd i'r Doctor Morris was o'r enw Wil, bachgen o Landysilio, yr hwn a ofalai am ei geffylau, ac a fyddai weithiau yn helpio y Doctor i wneud y ffisig i fyny. Ni chlywais enw erioed ar y bach gen hwn ond Wil, gwas y Doctor. Cymro glân a smala oedd Wil, ac yr wyf yn ei gofio yn dda. Wedi i'r Doctor wneud y botel i fyny, dywedodd wrth Wil am ysgrifenu arni y byddai raid ei hysgwyd yn dda cyn rhoi y ffisig i'r claf. Ysgrifenodd Wil, – "He must be well shaken before taken", gan roddi he yn lle it. Pa un ai o ddireidi ai o anwybodaeth y gwnaeth efe hyn, nis gwn.
Pan gyrhaeddodd y botel i Gwm Tydi ni fedrai nac Ann nac Edward ddeall gair ysgrifen, oblegid ni chawsent awr o ysgol eu bywyd. Yr oedd yn Nghwm Tydi was o'r enw Abram, yr hwn a gawsai ychydig o ddysg, a galwyd ef i ystafell y claf "i ddarllen y botel," er mwyn gwybod sut yr oedd y ffisig i'w gymeryd. Dywedodd Abram wrth Ann, –
"Rhaid i ni ei ysgwyd yn dda cyn rhoi'r ffisig iddo."
"Ei ysgwyd?" ebe Ann.
"Ië," ebe Abram, "dyma fo'n deyd ar y botel, — "He must be well shaken before taken."
"Fedra i mo'i ysgwyd o, rydw i yn rhy wan," ebe Ann.
"Mae'n rhaid gwneud hyny achos mae'r botel yn deyd," ebe Abram, ac ocheneidiai Edward yn ei wely.
"Wel," ebe Ann, "gan fod y Doctor yn deyd fod yn rhaid, 'does dim ond gwneud hyny."
Taflwyd y dillad oddiar Edward, ac aeth Abram un ochr i'r gwely ac Ann yr ochr arall, ac ysgwyd Edward a wnaethant yn dda, nes oeddynt yn chwys dyferol, ac Edward yn gwaeddi uchw mawr a mwrdwr. Collodd Edward ei lais wrth waeddi mor galed, a thybiodd Ann ac Abram ei fod ar fin marw. Eisteddodd y ddau i lawr, yn fyr eu gwynt, i aros a ddeuai Edward ato ei hun. Yn y man ebe Edward, —
"Abram, bob byrfaint y mae y botel yn deyd y rhaid fy ysgwyd i?"
"Dair gwaith yn dydd," ebe Abram.
"Ho," ebe Edward, "dim chwaneg o'r drefn yna i mi," a chododd yn araf deg a gwisgodd am dano, a theimlai yn lled dda.
Dranoeth daeth Doctor Morris i Gwm Tydi, a chyfarfyddwyd ef ar ben y buarth gan Ann.
"Sut mae Edward heddyw, Ann?" ebe'r Doctor.
"Wel," ebe Ann, "dydw i ddim yn meddwl y gnaeth y ffisig fawr o les iddo, ond mi ddaru'r ysgwyd neud daioni mawr iddo. Mi ysgydwodd Abram a fine fo ein gore glâs cyn rhoi'r ffisig iddo, fel yr oedd y botel yn deyd, a toc mi gododd a mi wisgodd am dano heb help, ac erbyn heddyw mae o reit sionc."
Gwelodd Doctor Morris y camgymeriad, ac ebe fe, —
"Yr achos i mi roi gorchymyn ei ysgwyd yn dda oedd er mwyn i'r ffisig sefyll efo fo," ac aeth ymaith dan wasgu ei ochrau.
Bu Abram, wedi hyn, yn was efo nhad, a mi gwelais o'n bwyta llon'd gogor o winwyn oerion, ond stori arall ydi hono, ebe fy Ewyrth Edward.