Straeon y Pentan/Thomas Owen, Tŷ'r Capel
← Edward Cwm Tydi | Straeon y Pentan gan Daniel Owen |
Y Gweinidog → |
Thomas Owen, Ty'r Capel
WRTH son wrthot ti y noson o'r blaen am William a Richard Bonner, mi wneis ryw gyfeiriad at Thomas Owen Tŷ'r Capel, yr Wyddgrug. Un o'r cymeriadau rhyfeddaf a welais erioed oedd Thomas. Crydd oedd o wrth ei grefft; ond yr oedd o hefyd yn bregethwr efo'r Methodistiaid. Anaml y gwelaist di ddyn teneuach na fo, ond yr oedd yn hynod o ewynog ag yn gerddedwr dan gamp. Yr oedd ei drwyn yn union yr un ffurf a thrwyn y Duke of Wellington, fel knocker drws. Wrth i mi son am ei drwyn yr wyf yn cofio digwyddiad lled ysmala' iddo. Yr oedd gan Thomas arferiad wrth bregethu o estyn ei fys blaen allan fel pe buasai yn pwyntio at rywun yn y gynulleidfa, ac yna gymeryd gafael yn ei drwyn gyda'i fys a'i fawd, a deuai y bys blaen allan wed'yn. Un tro fe ddarfu i bobl Nerquis roi gwahoddiad i Thomas Owen i ddyfod yno i gadw plygain am bump o'r gloch yn y bore yn y capel, ac ufuddhaodd yntau yn barod ddigon. Yr oedd y capel yn dan sang. Nid oedd lampau na gas wedi dod i arferiad y pryd hwnw. Canwyllau gwêr a fyddai yn mhobman, a gofalid am snuffers ar bob pwlpud er mwyn i'r pregethwr allu topio y canwyllau pan ddechreuent ddylu. Gweddïodd Thomas yn afaelgar iawn y bore hwnw, a dyna yr adeg yr oedd efe yn erfyn ar ran brenines Madagascar. "Achub hi, Arglwydd, neu symud yr hen Jaden front," meddai Thomas. Pa fodd bynag, gyda iddo ddechreu pregethu sylwodd fod y canwyllau yn düo, ac edrychodd o'i gwmpas am y snuffers, ond nid oedd un yno. Gwlychodd Thomas ei fys a'i fawd ar ei wefus a thorodd ben y canwyllau. Yna cydiodd yn ei drwyn gan adael parddu mawr arno. Dechreuodd y bobl chwerthin. Cynhyrfodd Thomas yn fawr pan welodd y gynulleidfa mor gellweirus, a cheryddodd hwynt yn llym, a chydiodd yn ei drwyn eilwaith nes ydoedd can ddued a'i esgid, a'r bobl yn mynd i chwerthin yn waeth waeth, yn enwedig yr hogiau drwg. O'r diwedd ebe Thomas, "Beth sydd arnoch chi, bobl annuwiol? Mae'r fath ymddygiad yn nhŷ Dduw yn warth i grefydd! Os dyma'r fath beth ydi plygain, ddo'i byth i'r un eto tra bydda'i byw," a rhodd ben ar y bregeth mewn natur ddrwg. Ond wedi deall yr achos o'r chwerthin a gweld ei wyneb yn y drych, chwarddodd yntau hefyd.
Brodor o'r Bala oedd Thomas Owen ac yr oedd yn fab i Richard Owen, y gŵr a weddïodd am bymtheng mlynedd o estyniad oes i Mr. Charles ac a gafodd ei wrando, ac yn y cyfnod hwnw y cyfansoddodd Mr. Charles y Geiriadur a fu o fendith anmhrisiadwy i Gymru. Yr oedd neillduolrwydd mawr yn Thomas hefyd fel gweddïwr, ac atebwyd rhai o'i erfyniadau cyhoeddus yn bur amlwg. Un tro yr oedd Thomas Owen yn pregethu yn Adwy'r Clawdd ar adeg o dlodi a chyfyngder mawr. Yr oedd yno ganoedd o bobl allan o waith ac yn dioddef gan eisiau bara. Gweddïodd Thomas yn daer a gafaelgar am i'r Arglwydd ddatguddio ryw wythïen werthfawr yn y gymydogaeth a roddai waith i'w greaduriaid anghenus, a dywedai wrth y Brenin Mawr, — "Mai gen ti, Arglwydd, ddigon o gyfoeth yn yr hen ddaear yma bydae ti ddim ond yn cyfeirio llygaid rhwfun at y man lle mae o."Yn mhen deuddydd neu dri darganfyddwyd gwythïen o blwm a roddodd waith i'r holl ardal am flynyddoedd.
Yr oedd newyddion yn hir yn cario y dyddiau hyny, ac yr oedd Michael Roberts, Pwllheli, y pregethwr enwog, wedi bod yn asylum Caer er's tipyn cyn i Thomas Owen glywed am hyny, a phan glywodd teimlodd i'r byw. Y nos Lun gan lynol, yn y cyfarfod gweddïo, erfyniai Thoinas, yn ei ddull ei hûn, yn daer a gwresog am adferiad i'r gŵr mawr. Gwaeddai yn uchel a thanbaid, – "Arglwydd, cofia am Meic bach anwyl! cofia dy was Meic," &c. Cyn diwedd yr wythnos yr oedd Michael Roberts yn nhŷ Angel Jones yr Wyddgrug, yn aros am y goach fawr i Ruthyn, ac wedi ei adfer yn lled dda. Soniodd Angel wrtho am weddi Thomas Owen, ac erbyn deall, ar yr awr a'r pryd yr oedd Thomas yn gweddïo y cafodd Michael Roberts y gwellhâd.
Bu Thomas Owen am yspaid yn cadw giat dyrpeg yn Ngwernymynydd, ac yr oedd efe ar y pryd yn bur dlawd, ond yr oedd yn ddiail am ei ffyddlondeb yn y moddion gras. Sylwodd rhai o'r brodyr fod ei ymddangosiad yn dlodaidd, a'i gotwm yn llwm anwêdd ac ordor, a phenderfynodd rhai o honynt yn eu plith eu hunain ei anrhegu â siwt newydd, a chyfarwyddwyd Angel Jones i'w gwneud. Nos Sadwrn aeth Thomas adref yn bur falch â'i siwt dan ei gesail, a bore Sul gwisgodd hi, a throdd o gwmpas er mwyn i Marged ei simio. "Neiff hi'r tro, Marged?" ebe fe. "'Rwyt ti'n edrach fel gŵr boneddig," ebe Marged. Teimlai Thomas yn falch iawn o'r sylw, a chychwynedd tua'r capel. Wedi myn'd rhyw ugain llath safodd yn sydyn i edrych arno 'i hun, a throdd yn ei ol. "Be di'r mater?" gofynai Marged. "Wel, i ti, dai ddim i'r capel yn y dillad newydd yma," ebe Thonnas. " Pam?" ebe Marged. " Mi ddeuda i ti pam," ebe Thomas, "pan weliff pobol y dillad newydd yma mi ddeudiff pawb y mod i'n dwyn arian y giat." "Paid a gwirioni," ebai Marged, "on'd ŵyr pobol y capel mai rhôdd ydi'r siwt?" "Gwyddan," ebe Thomas, "ond ŵyr pobol y byd mo hyny, wyddost, a mi ddeudan, 'Drychwch arno fo, yr hen grydd, mae'r giat yn talu'n iawn!' Na Marged, wisga i mno'r dillad newydd yma." Dihatrodd Thomas y siwt newydd a neidiodd i'w hen ddillad crestiog, ac aeth ar drot i'r Wyddgrug yn ddengwaith mwy hapus. Efe oedd i bregethu yn yr Wyddgrug y bore hwnw, a siomwyd y cyfeillion caredig pan welsant ef yn ei hen ddillad, ond esboniodd Thomas iddynt y rheswm am hyny, ac ni allodd neb ei berswadio i wisgo y siwt nes iddo adael y giat a dyfod i fyw i dŷ'r Capel yr Wyddgrug.
Pan oedd Thomas yn cadw giat Gwernymynydd, yr oedd Edward Roberts, un o'r blaenoriaid galluocaf, mae'n debyg, fu erioed yn yr Wyddgrug, yn byw dipyn uwch i fynu nag ef yn yr un ardal. Mae genyf gof gwan am Edward Roberts, dyn o ran corff a gosgedd tebyg iawn i Doctor Edwards, y Bala, ond ei fod yn fyrach. Ystyrid Edward Roberts a Jones, Cefn y Gader, tad Glan Alun, fel y ddwy golofn gadarnaf yn eglwys yr Wyddgrug. Gŵr araf, pwyllog, ac athrawus oedd Edward Roberts, Gwernymynydd, a'i farn yn mhlith y brodyr yn derfynol ar bob pwnc. Gŵr eiddil, byrbwyll, a sionc fel aderyn tô oedd Thomas Owen. Ni fu dau mwy annhebyg yn gwisgo clôs, ac eto yr oeddynt yn gyfeillion mawr. Nid elai Edward byth i oedfa na chyfarfod heb alw yn y giat am Thomas Owen. Un noson seiat bu pwnc o athrawiaeth dan sylw, a gwahaniaethai Thomas ac Edward yn eu barn yn ddirfawr. Cariwyd y ddadl yn mlaen rhwng y ddau ar hyd y ffordd i Wernymynydd, ac yr oedd Thomas wedi poethi ac Edward wedi cidwmu cymaint fel na ddarfu iddynt ddweud nos dawch wrth eu gilydd. Digiai Thomas mewn munyd a chymodai mewn munyd. Nid yn aml y digiai Edward Roberts, ond pan ddigiai digio a wnai. Bore Sabboth canlynol, ebe Thomas wrth Marged, — "Gad i ni wel'd neiff yr hen Ned alw yma heddyw. Yr oedd o wedi myn'd i'w gŵd yn enbyd nos Iau, ond gad i ni weld ydi o wedi dod ato'i hun. Os passiff o, gad iddo bassio — paid a myn'd ar yr hector. Dacw fo'n dwad yn ddigon syth, a'i lon'd o'r hen Adda, mi gymra fy llw! Paid a myn'd i'r golwg, Marged, gad i ni weld be neiff o." Yr oedd tŷ'r giat yn nghanol twr o dai, ac aeth Edward yn ei flaen drwy y giat heb alw am Thomas. Ond nid oedd efe wedi myn'd ddeg llath cyn i Thomas redeg i'r drws a gosod ei ddwylaw ar ei gêg a gwneyd trympet o honynt, a gwaeddodd nerth esgyrn ei ben, — "Hoi! hoi!! hoi!!! dacw hen flaenor yn myn'd i'r capel heb ddweyd ei bader!" Cododd yr holl gymydogaeth a throdd Edward Roberts yn ei ol wedi yswilio hyd ei esgidiau, a bu Thomas ac yntau yn fwy o gyfeillion nag erioed.
Cefais y stori ganlynol am Thomas Owen gan Dr. Roger Hughes, Bala. Ers talwm, gwahoddid ambell bregethwr i roi taith drwy ran o sir er mwyn ei gynorthwyo i dalu y rhent, ac ambell un arall am fod chwant ar y wlad ei glywed. Hwyrach fod pobl Meirion yn cael eu cymhell gan fwy nag un rheswm pan roisant wahoddiad i Thomas Owen ddyfod ar daith bregethwrol trwy ran o'r sir. Gŵyr pawb sydd wedi astudio geography fod Sir Feirionydd yn cael ei rhanu gan y Methodistiaid i ddwy ran, sef "y pen yma," a'r "pen acw." Ond er i mi fod yn y ddeuben fwy nag unwaith, ni fedrais erioed wybod pa un oedd "y pen yma," na'r "pen acw," oblegid pan fyddwn yn Harlech siaradai y trigolion am Gorwen fel y "pen acw," a phan fyddwn yn Nghorwen siaradai y bobl am Harlech a'r gymydogaeth fel y "pen acw." Felly ni fedraf benderfynu yn mha ben y bu taith Thomas Owen. Ond y mae'n eithaf hysbys iddo fod yn nghapel Cwmtirmynach, a chafodd yno oedfa hynod o galed, ac nid oedd dim a flinai fwy ar Thomas nag oedfa galed, a lwc iddo nad ydyw yn fyw yn y dyddiau hyn. Yn mhen deng mlynedd cafodd Thomas Owen wahoddiad drachefn i fyn'd ar daith i'w sir enedigol. Yr oedd yr oedfa gyntaf i fod yn y Bala am ddeg yn y bore, a hysbyswyd ef y cai wybod wedi cyrhaedd yno am drefn ei gy hoeddiad. Cafodd fenthyg ceffyl Jones, Cefn-y-gader, i fynd ar y daith, a gobeithiai Thomas ar hyd y ffordd nad oedd Cwmtirmynach ar y list. Wedi pregethu yn y Bala, estynodd un o'r blaenoriaid drefn ei gyhoeddiad iddo, ac er ei ddychryn, yn Nghwmtirmynach yr oedd i bregethu am ddau o'r gloch. Ni ddywedodd Thomas air, ond penderfynodd ynddo'i hun y gyrai fel Jehu heibio capel Cwmtirmynach, gan nylu am y lle yr oedd i bregethu y nos. Pan o fewn rhyw haner milltir i'r capel rhoddodd Thomas wynt i'w geffyl er mwyn iddo allu tithio yn gyflymach heibio'r capel. Ond dyna rhyw hen wreigan wrth ei dwyffon yn dod allano ryw gaban ar fin y ffordd, ac ebe hi, " Wel, Thomas Owen anwyl, a rydach wedi dwad! Bendith ar y'ch pen chi! Mae deng mlynedd er pan fuoch chi yma o'r blaen." "Ah," ebe Thomas ynddo'i hun, "rwyt tithau yn cofio am yr hen oedfa galed hono!" "Os ces i fy argyhoeddi erioed," ychwanegai yr hen wraig, "dan y bregeth hono y cês i hyny. Yr ydw i'n cofio'ch text chi o'r gore, — 'Yr hwn nid arbedodd ei briod-fab, ond a'i traddododd ef trosom ni,' &c. Anghofia i byth mo'r oedfa ryfedd hono, Thomas Owen bach." "Be? be?" ebe Thomas, ac wedi cael ychwaneg o ymgom efo'r hen wraig cafodd ei argyhoeddi ei bod yn dweyd y gwir. Nid aeth efe heibio Cwmtirmynach, ond cafodd yno yr oedfa fwyaf llewyrchus yn ei daith. Y fath gysur i bregethwyr yr oedfeuon caled! ebe F'ewyrth Edward.