Straeon y Pentan/Fy Annwyl Fam fy Hunan
← Tubal Cain Adams | Straeon y Pentan gan Daniel Owen |
Hen Gymeriad → |
Fy anwyl fam fy hunan
YR oeddwn un tro wedi anufuddhau i fy mam, a daeth hyn i glustiau F'ewyrth Edward. Ni chymerodd arno ei fod wedi clywed dim am danaf, ond pan euthum i'w dy i wrando arno yn adrodd ei straeon, ebe fe, –
Yr ydw i erbyn hyn yn hen, ac er y mod i'n gwybod na fydda i ddim yma yn hir, ac y bydd y cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lle yn bur fuan, 'dydw i ddim yn sicr y mod i'n wir debyg i Iesu Grist mewn dim ond yn fy mharch i fy mam. Un o'r touches mwya ffein yn hanes y Gwaredwr ydyw ei ofal am ei fam, a hyny pan oedd baich byd o bechodau yn pwyso arno. Bydaswn i'n gwybod dim am dano ond y ffaith yna yn unig, mi fuasai gen i feddwl mawr o hono byth. Bydasai raid i mi farnu cymeriad bachgen drwy ofyn dim ond un cwestiwn iddo, y cwestiwn hwnw fuasai—beth wyt ti'n feddwl o dy fam? 'Doedd Bob, y tymblwr, er's talwm, ddim yn cael ei ystyried yn haner call, ond heb law codi pin oddiar lawr gydag emrynt ei lygad, a champau ereill, fe ddwedai Bob ambell air pur gall. Meddai Bob un diwrnod, — "Os colli dy dad mi gei golled fawr, ond os colli di dy fam mi golli'r cwbwl." Hyd yn nod pan fydd bachgen wedi dirywio yn dost o ran ei gymeriad, os ca'i allan fod o'n meddwl yn uchel am ei fam, mae gen i obaith am dano. A fedri di gân Dafydd Ddu Eryri, — "Fy anwyl fam fy hunan?". Na fedri? Wel, mae gen i ofn fod llawer o fech gen yr oes hon heb wybod am y pethau goreu yn iaith eu mam. Mi genais lawer ar y gân hono er's talwm, a dydw i 'rioed yn cofio ei chanu na lanwai fy llygaid â dagrau, a mi faswn yn ei chanu i ti 'rwan daswn i heb golli fy llais. Mae ambell hen gân dda, mi goelia, fel adnodau'r Beibl, wedi cadw llawer bachgen rhag drwg. Wn i ddim lle buaswn i 'rwan oni bai am gân Dafydd Ddu Eryri.
Pan oeddwn yn ieuanc, gwnaeth Wil Williams lawer o niwed i mi, a minau iddo yntau yn ddiau. Yr oedd genym ran ymhob drwg a direidi, er ein bod ein dau wedi ein dysgu bethau amgenach. Gosododd Wil ei fryd ar fyn'd yn sowldiwr, a cheisiai ei oreu i fy mherswadio inau i listio, ac yr oeddwn braidd yn tueddu at hyny. Yr oedd fy nhad dipyn yn sydyn a chrabed ei ddull, a minau, hwyrach, heb fod yn un o'r rhai mwyaf diwyd efo ngwaith, a dwedodd un diwrnod, mewn tipyn o dymer, nad oeddwn yn werth fy halen. Brifodd y gair fi yn fawr, ac atebais, — "Hwyrach hyny, ond yr wyf am listio." "Eitha gwaith i ti, mi wnei yn burion i dy saethu," ebe nhad, a brifodd fwy arnaf. Mi eis at Wil y noson hono, a mi ddeudes wrtho yr awn gydag ef i Gaer i listio. Yr oedd Wil yn falch iawn clywed hyny, a phenderfynasom gychwyn bore dranoeth. Wedi i fy nhad fyn'd i'w wely, dwedais wrth fy mam am fy mwriad. Ni chredai fi nes i mi gymryd fy llw mai dyna oedd fy mwriad. Crefodd arnaf ei goreu glas i roi y meddwl heibio. Ond yr oeddwn yn benderfynol o fyn'd yn sowldiwr. Codais yn fore dranoeth, ond yr oedd fy mam ar ei thraed o mlaen i, a chrefodd arnaf drachefn a thrachefn dan wylo yn hidl am i mi beidio myn'd i ffwrdd. Yr oeddwn wedi c'ledu, ac yn meddwl fy mod wedi colli pob parch i fy rhïeni, ac ni chafodd dagrau fy mam ddim dylanwad arnaf. Mi gwelaf hi y funyd yma yn edrych ar fy ol pan oeddwn yn cychwyn i gyfarfod Wil Williams. Wyddwn i fawr am y boen yr oeddwn yn ei achosi iddi. Wedi myn'd bron o olwg y tŷ, mi edrychais yn ol. Yr oedd fy mam o hyd yn y drws, ac yn sychu ei llygaid a'i ffedog. Mi ddechreuais feddwl beth oeddwn yn myn'd i'w wneud, a fy mod, hwyrach, yn cymeryd yr olwg olaf am byth ar fy hen gartref, a daeth rhyw beth i fy ngwddf, ond yn fy mlaen yr eis. Yr oedd yn fore hynod o hyfryd. Yr wyf yn cofio mai y bore hwnw oedd y tro cyntaf i mi sylwi mor hardd oedd yr hen gymydogaeth, a synwn am i mi fod am gynifer o flynyddoedd heb weled prydferthwch natur. Yr ydw i'n meddwl mai у bore hwnw y cefais fy ail-eni gan natur. Mae y fath beth a hyny'n bod, wyddost, pan y mae bachgen yn canfod am y tro cyntaf mor hardd ydi'r byd yma. Canai yr adar yn braf yn y goedwig gerllaw, a meddyliwn fod y gwartheg, y defaid, a'r ceffylau i gyd yn edrych arnaf am y tro olaf. Nid oeddwn, cyn hyny, wedi sylwi mor brydferth oedd y creaduriaid diniwed. Yr oedd yr aber fain a redai efo gwaelod y werglodd hir yn edrych yn fwy gloew nag erioed, a phan welais lygoden ffrengig yn rhedeg o fy ffordd wrth i mi fyn'd heibio, nid oedd genyf y mymryn lleiaf o awydd i'w lladd. Pan eis drwy lidiart y cae pellaf, gadawais hi yn agored, achos daeth rhywbeth i fy meddwl os ceuwn hi, na ddeuwn byth yn ol, a dechreuais feddwl am wledydd pell ac am ymladd efo'r Blacs, am galedi, oerni, a newyn. Ond yr oedd fy nhad wedi dweyd nad oeddwn yn werth fy halen, ac ymlaen yr euthum yn benderfynol. Yr oedd yn rhaid i mi fyn'd heibio'r Hafod Lom, a meddyl iais am Doli'r Hafod. Yr oeddwn yn hoff iawn o Doli hyd yn oed y pryd hwnw, ond yr wyf wedi dweud y stori hono i ti o'r blaen. Cyn cyraedd yr Hafod yr oedd ffordd gul, isel, a dyfrllyd, a gwrych uchel o bob ochr iddi, a phan oeddwn yn myn'd ar hyd y ffordd hon mi glywn rywun yn canu. Doli oedd yn canu wrth odro. Wedi d'od i'w hymyl, mi eisteddais ar y clawdd i wrando arni. Bydasai hi'n gwybod y mod i tu arall i'r gwrych yn gwrando, fasai hi ddim yn canu, mi wn. Yr oedd gan Doli lais swynol dros ben, yn ol y marn i, a chlywais i erioed mo hono mor swynol a'r bore hwnw. Eisteddais i wrando arni am y tro olaf yn fy mywyd, fel yr oeddwn yn meddwl, a'r pumed penill yn y gân, — "Fy anwyl fam fy hunan," — oedd y geiriau cyntaf a glywais. Deffrodd rhywbeth yn ngwaelod fy nghalon, a dychwelais adref, a rydw i'n meddwl fod fy mharch i fy mam, o'r diwrnod hwnw allan, wedi myn'd yn fwy-fwy tra bu hi byw. Digiodd Wil Williams yn dost am nad aethwn i'w gyfarfod, a galwai fi yn ļlwfrgi digalon, ac aeth ei hun yn syth i Gaer a listiodd. Wedi hyny, anfonwyd ef i'r India, ac ni chlywodd neb byth siw na miw am dano. Hwyrach y. leiciet ti glywed geiriau y gần "Fy anwyl fam fy hunan?" –
"Pwy a'm hymddygodd yn ddi-lys
O dan ei gwregys mwynlan?
Pwy roes i'm' faeth a lluniaeth llon
O laeth ei bron bêr anian?
A phwy a'm cadwodd rhag pob cam?
Fy anwyl fam fy hunan.
Pwy i'm' a suai uwch fy nghryd
Pan oeddwn wanllyd faban?
A phwy fu'n effro lawer gwaith
Drwy'r hirnos faith aniddan?
Pwy a'm gwarchodai rhag pob cam?
Fy anwyl fam fy hunan.
Pwy a'm dilladai er fy llwydd
Bryd diniweidrwydd oedran?
Rhag imi fawr beryglu f'oes
Ysigo einioes egwan?
A phwy a'm noddai rhag drwg nam?
Fy anwyl fam fy hunan.
Pwy ond fy mam, dirionaf merch,
O eithaf traserch gwiwlan
A wylai drosof — waelaf ddrych –
Pan oeddwn wrthrych truan?
A pheth ond llaw rhagluniaeth lon
A ddaliai hon ei hunan?
"Pwy a'm cynghorai bob rhyw bryd
Rhag arwain bywyd aflan?
Ond parchu enw Duw trwy ffydd,
A chadw ei ddydd sancteiddlan;
Heb wneuthur unrhyw dwyll na cham –
Fy anwyl fam fy hunan.
"Er mwyn i'm hawddgar fam, heb groes,
Ddiweddu oes yn ddiddan,
Wrth iddi blygu bob yn bwyth
Dan ddirfawr lwyth o oedran,
Rhag suddo i'r bedd dan ofal bwn
Cymeraf hwn fy hunan.
Oblegid credu 'rwyf fod Duw
A wêl, a glyw, y cyfan;
Ei lid o entrych wybren fawr
Felltenai i lawr drwy f'anian,
Pe meiddiwn oddef cynyg cam
I'm hanwyl fam fy hunan."