Straeon y Pentan/Hen Gymeriad
← Fy Annwyl Fam fy Hunan | Straeon y Pentan gan Daniel Owen |
Rhy Debyg → |
Hen Gymeriad
А MAE Ned Sibion wedi marw, ydi o? ebai F'ewyrth Edward. Un o'r creaduriaid rhyfeddaf a welais yn fy mywyd oedd Ned, ac un o'r pethau mwyaf anhawdd dan haul a fyddai desgrifio ei gymeriad yn gywir. Yr oedd yn rhaid gweled, clywed, ac adnabod Ned cyn y gellid ffurfio syniad am ddigrifwch ei gymeriad, ac y mae'r byd yn dlotach o'i golli. Wn i ddim beth ydyw'r achos, ond y mae hen garitors rhyfedd yn myn'd yn brinach bob dydd. Mae addysg neu rywbeth, fel y d'wedodd Wil Bryan er's llawer dydd, yn ein gwneud ni i gyd yn gyffelyb i postage stamps. Llys-enw oedd Ned Sibion; Edward Williams oedd enw y dyn,
ac yr wyf yn meddwl mai o blwy Ysgeifiog yr oedd o'n hanu. Yr oedd tipyn o natur llys—enw yn y teulu, a'r "Hen Grothe" y byddent yn galw ei dad — yr wyf yn ei gofio'n burion. Nid oedd Ned druan, yn ben llathen, ac o herwydd hyny, mae'n debyg, ni chlywais erioed fod gan neb gas—galon iddo. Bu Ned yn briod dair gwaith, ac yr oedd y tair gwraig yn debyg iawn i'w gilydd, ac iddo yntau. Mae bran i fran. Ac fe fu raid i'r tair ymostwng i'r un rheol — sef byw efo fo am fis o dreial cyn iddo eu priodi, er mwyn iddo brofi eu tymer. Un o'r dynion mwyaf diddiogi a welais erioed oedd Ned, a 'roedd o bob amser, p'run bynag ai hel carpiau y byddai ai rhywbeth arall, fel bydasai yn lladd nadrodd, ac mor brysur a Robin y Busnes. Er ei fod yn hynod o onest, ni byddai byth yn edrych yn ngwyneb neb, ac os safai i siarad a rhwfun, byddai ei lygaid yn ysgwta o gwmpas ei draed. Yr oedd Ned fel pe buasai wedi ei fwriadu gan Ragluniaeth i ffeindio pethau, ac yn wir, yr oedd pobl yn dweyd ei fod wedi ffeindio llawer yn ystod ei oes. Codai Ned efo'r wawr dranoeth ar ol pob ffair a marchnad, a byddai ei lygaid yn cyniwair yn mhob stryd am rywbeth a allai ei ffeindio. Drwy fisoedd yr haf byddai Ned bob bore Sul wedi llygadu pob twll a chornel yn mhob heol cyn i bobl eraill godi o'u gwelyau, ac, i dawelu ei gydwybod, mae'n debyg, byddai yn canu hymnau ar fore Sabboth. Mi clywais o ddegau o weithiau o'ngwely. Beth bynag a fyddai y geiriau, yr un dôn oedd ganddo yn wastad, a hono, mi gredaf, o'i gyfansoddiad ef ei hun rhyw fath o chant yn y cywair lleddf — hynod o Gymreig o ran ei sŵn. Ni buasai Ned yn dal at y gwaith o chwilotą fel hyn am oes gyfan, oni bai ei fod yn ffeindio pethau weithiau. Yr wyf yn cofio un tro fod dyn wedi meddwi mor dost ar nos Sadwrn nes y collodd ei watch, ac ni wyddai yn y byd mawr yn mha le. Ond cafodd y watch gan Ned prydnawn Sul, ac ni roddodd geiniog o wobr i'r creadur gonest. Bu hyn, yr wyf yn meddwl, yn wers i Ned i gadw pobpeth a ffeindiai o hyny allan.
Nid rhyw lawer o syniad oedd gan Ned am bellder. Ar adeg cynhauaf un tro yr oedd y Proffeswr Edwards yn cerdded i lawr Forgate Street, Caer, a phwy a welai ar yr heol, a sicl dan ei gesail, ond Ned. Aeth ato, ac ebai fe wrthọ, —
"Wel, Edward, bedach chi'n neud yma?"
"Myn'd i lawr i Lunden 'rydw i, Mr. Edwards, i'r cynhaua — mae'n nhw'n deud mae lle clyfar anwedd ydi Llunden adeg cynhaua," ebai Ned.
Hyny fu. Yn mhen yr wythnos yr oedd y Proffeswr yn dod i lawr stryt yr Wyddgrug, a phwy a welai ond Ned, ac ebai fe, —
"Helo, Edward, 'roeddwn yn meddwl eich bod yn myn'd i Lunden i'r cynhaua?"
"Wel na, Mr. Edwards," ebai Ned, "deis i ddim cosach i Lunden na Phargiật (Pargate yn Sir Gaer), welwch chi."
Mi wranta fod dau gant o latheni rhwng ty Ned a'r ffynon lle y byddai yn cael dŵr; a mi gwelais o un diwrnod yn myn'd i'r ffynon a dau biser mawr ganddo. Wedi eu llenwi â dŵr, cariai un o honynt encyd o ffordd a gosodai ef i lawr, yna âi i nol y llall a gosodai ef i lawr yn ymyl y cyntaf. Ac felly cariai hwynt nes dod a'r ddau i'r tŷ. Gofynais iddo pa'm yr oedd yn gwneud felly. "Safio amser, welwch chi," ebai Ned.
Nid rhyw lawer o syniad oedd ganddo ychwaith am werth arian. Un tro aeth Ned, wedi bo nos, at Thomas Roberts, Tŷ Draw i brynu iar, ac wedi i Mr. Roberts ddal yr iar dan yr hofel, aed yn fargeinio rhwng y ddau am y pris. "Faint ydach chi isio am dani, Mr. Roberts," ebai Ned.
"Wel," ebai Mr. Roberts, "mi cei di hi am bymtheg."
"Wel, nana wir, mi ro i chi ddeunaw, os leiciwch chi," ebai Ned.
"Ond dydw i'n deud y cei di hi am bymtheg," ebai Mr. Roberts.
"Mi ro i chi ddeunaw, a'r un ffyrling chwaneg," ebai Ned.
"Purion," ebai Mr. Roberts, a throdd dair ceiniog yn ol iddo.
Un adeg yr oedd Ned yn labro i Mr. Joseph Eaton am ddau a grôt yn y dydd; ond collwyd ef ddydd Llun a dydd Mawrth. Pan ddaeth at ei waith fore Mercher, ebai Mr. Eaton wrtho, –
" Wel, Edward, lle buoch chi ddoe ac echdoe?"
"Mi eis i lawr i'r Fflint i hel cocos, Mr. Eaton," ebai Ned.
"Ddaru chi neud yn o dda?" gofynai ei feistr.
"Do," ebai Ned, "yn dda anwêdd ac ordar. Mi heliais beth digydwybod o honyn nhw, a mi eis efo nhw i Ruthyn ddoe, a mi ges bumrôt am danyn nhw, welwch chi."
"Wel, heblaw cerdded deng milldir ar hugain, dyma chi wedi colli tri swllt mewn cyflog," ebai Mr. Eaton.
"Waeth i chi befo, mi 'nes yn siampal o dda, Mr. Eaton," ebai Ned.
Byddai Ned yn newid ei feddwl yn sydyn iawn weithiau. Yr wyf yn cofio fy mod un tro eisieu cael symud y domen, ac mi wyddwn y byddai Ned yn gwneud rhyw jobs felly, a phan welais ef, gofynais iddo ddod i wneud y gwaith. "Mi ddof acw i'w gweld hi," ebai Ned; a'r prydnawn hwnw mi gwelwn ef yn simio y domen. Er fod dy fodryb yn adnabod Ned yn dda, nid oedd erioed wedi ei glywed yn siarad, a d'wedodd y deuai gyda mi i'r buarth i wrando arno ef a minau yn gwneud y fargen. Rhoddais siars arni i beidio chwerthin, neu y byddai yn sicr o andwyo y fargen, achos ni fedrai Ned oddef i neb chwerthin am ei ben. Addawodd hithau y byddai reit sad, ac i'r buarth yr euthom. Wedi i Ned simio gryn lawer ar y domen, deuthom i'r fargen fod i mi roddi iddo haner coron am ei symud, ac yr oedd dy fodryb yn mron marw o eisieu chwerthin wrth glywed Ned yn siarad mor fabanaidd.
"Ond cofiwch chi, Edward," ebe fi, "y rhaid i chwi ei symud yn fore ddydd Llun."
"Wel," ebai Ned, "Os bydd hi'n braf ('hwb,' ebai dy fodryb) — ddo i ddim," a ffwrdd a fo, ac ni ddaeth i symud y domen. Yr oedd dy fodryb drwy chwerthin wedi andwyo'r cwbl, a gwneud i Ned newid ei feddwl ar ganol y frawddeg.
Am amser, bu Ned yn byw yn un o'r cabanod sydd dan yr entri yn nhop Henffordd, ac ar y pryd ei fusnes penaf oedd hel carpiau. Ar ryw ddamwain yr oedd wedi cael dau bâr o olwynion bychain ar echeli, ac aeth ati i wneud gwagen fechan i ddal y carpiau. Bu rai diwrnodiau yn gwneud y wagen, ac wedi ei gorphen cychwynodd gyda hi i hel carpiau, ond yr oedd y wagen yn lletach lawer na'r entri, ac ni fedrai ei chael drwodd, ac wrth ei weled yn y drafferth, ebai ei gymydog Drury wrtho, —
"Wel, Edward, mae eich gwagen yn rhy lydan."
"Nag ydi," ebai Ned, "yr entri sy rhy gil," ac aeth i'r tŷ mewn tymer ddrwg, a chyrchodd forthwyl a thorodd y wagen, yr olwynion a'r cwbl yn ulw mân.
Wn i ddim sut y mae hi ar Ned erbyn hyn; ond y mae yn o anodd gen i feddwl y bydd y Brenin Mawr yn galed wrtho — yr oedd o mor ddiniwed. Nid oedd y duedd grefyddol yn gref yn Ned; ac eto ni fedrai adael llonydd i grefydd. Anaml yr elai i foddion gras ar y Sabboth, ond mwy anaml y byddai yn absenol o bob moddion ar gyfarfod pregethu, gan nad gyda pha enwad y cynelid y cyfarfod. Ar Sasiwn, Cymanfa neu gyfarfod pregethu, bydd ai Ned yn amlwg iawn. Ond bu'm yn ofni mai dyfod i'r cyfarfodydd y byddai er mwyn dangos ei fotymau, oblegid ar y cyfryw achlysuron byddai y botymau mawr a gloew a fyddai ar ei gôt a'i wasgod yn tynu sylw pawb. Ac eto nid fy lle i ydyw barnu amcanion Ned. Hwyrach y tybiai Ned mai trwy ei fotymau y gallai ef oreu ogoneddu Duw. A phwy a wyr.
Er na wyddai Ned mwy na phost llidiart, y gwahaniaeth rhwng Rhyddfrydwr a Thori, ymorchestai ei fod yn Liberal at y carn, a phan basiwyd y ddeddf i roi fôt i bob tŷ-ddaliwr, ac iddo ddeall fod ganddo bleidlais, nid oedd trin arno. Yr wyf yn cofio fel bydasai ddoe y lecsiwn gyntaf wedi i'r ddeddf ddod i weithrediad. Yr oedd Ned yn ei lân drwsiad cyn saith o'r gloch y bore, a'i fotymau yn disglaerio. D'wedai wrth bawb a gyfarfyddai, nad oedd am fotio i'r naill ochr na'r llall. Wedi deall hyny, ymlidiwyd ef gan y toris mwyaf dylanwadol am oriau bwygilydd, a rhedai Ned fel ysgyfarnog o'u ffordd, hyd y ffyrdd a'r caeau, nes iddo flino pawb. Ond oddeutu chwarter awr cyn adeg cau y pôl, daeth Ned o hono ei hun i ymyl y lle, a gosododd ei gefn ar y wal i herio pawb. Crefwyd arno gan rai o bobl mwyaf blaenllaw y ddwyblaid i fotio; ond atebai Ned, — "Bydae'r Apostol Paul ei hun yn gofyn i mi fotio, na i ddim." Yn y funyd daeth y Liberal Agent heibio — yr hwn oedd yn ŵr callach na'r cyffredin ac wrth weled y dyrfa o gwmpas Ned yn ceisio ei berswadio i fotio, ebai fe —
"Be haru chi, bobol? ydach chi'n meddwl na wyr Edward ddim sut ac i bwy i fotio, heb i chi ei ddysgu? Gadewch lonydd i'r dyn. Fe wyr Edward nad oes dim ond pum' munyd nes bydd y pôl yn cau," ac aeth ymaith. Aeth Ned yn syth i'r pôl a fotiodd dros y Rhyddfrydwr Wedi iddo dd'od allan, gwisgwyd Ned â rubanau melynion, a chariwyd ef ar ysgwyddau y Liberals i fynu ac i lawr y dref am oriau, ac ni welais yn fy mywyd y fath firi a llawenydd diniwed mewn lecsiwn, ac yr oedd Ned Sibion yn ymorfoleddu yn yr anrhydedd a roddid arno. Wel, wel, a mae Ned druan wedi marw! Wyddost di be, mi fydd yn chwith arw gen i amdano, ebai F'ewyrth Edward.