Straeon y Pentan/Rhy Debyg
← Hen Gymeriad | Straeon y Pentan gan Daniel Owen |
Y Ddau Deulu → |
Rhy Debyg
FUOST di 'roed yn synu, ebe F'ewyrth Edward, er cymaint o bobol sydd yn y byd, a bod gwynebau pawb o honom ar yr un ffurf a chynllun, mor anaml y cei di ddau wyneb mor debyg i'w gilydd na fedri di ganfod yn union, wrth graffu arnynt, fod digon o wahaniaeth ynddynt? Bendith fawr ydyw hyn; a mi fyddaf yn gweled cymaint o ddoethineb y Creawdwr mawr ynddo ag mewn dim. Ac un o'r pethau casaf genyf ar wyneb daear ydyw gweled rhai hynod debyg i'w gilydd, megis efeilliaid, a mae gen i reswm da am hyny. Dyma iti stori smala yn fy hanes i fy hun – bron yn rhy smala i'w chredu, ond gelli ei chredu neu beidio.
Pan oeddwn i oddeutu wyth ar hugain oed, yr oedd gen i fusnes i fyn'd i Groesoswallt. Mi gymere ormod o amser i mi ddeud wrthot ti beth oedd y busnes, ond, yn fyr, yr oedd gen i eisio gweld dyn ar fater pwysig,ac yr oedd yntau wedi addaw nghyfarfod i yn Nghroesoswallt yn y ffair ceffylau. Oherwydd pellter y ffordd, a rhag i mi ei golli, yr oeddwn wedi gofalu cyraedd y dre y noson o flaen y ffair. Mi ges lety digon cyfforddus mewn tŷ preifat. Mi wyddwn yn burion er's blynyddau fod rhai o deulu mam yn byw yn agos i Groesoswallt, ond o herwydd rhyw ffrae nid oedd dim cyfathrach wedi bod rhyngom ni â hwy; ac, hyd yr oeddwn yn cofio, nid oeddwn wedi gweld un o honynt erioed, a nid oeddwn yn bwriadu ymweled â hwynt, nac ymholi dim yn eu cylch. "Paid a myreth dim a nhw; os medran nhw neud hebon ni, mi fedrwn ninau neud hebddyn nhwythe," ebe mam, pan oeddwn yn cychwyn, ac ni feddyliais mwy am danynt. 'Doeddwn 'rioed wedi bod yn Nghroesoswallt o'r blaen, a thranoeth y bore mi grwydr es gryn dipyn i weled y dre', achos 'doedd ffair y ceffylau ddim yn dechreu tan ganol dydd. Wrth droi am gornel stryt mi ddois i wyneb clamp o blismon, a mi rythodd arna i fel bydase gen i gyrn ar y mhen. Yr oeddwn yn methu dallt pam yr oedd y dyn yn rhythu arna i felly, achos 'doedd dim neilltuol yn y ngwisg i, oblegid yr oedd agos i bob ffarmwr y pryd hwnw yn gwisgo brethyn cartre. Yr oeddwn yn meddwl nad oedd dim neilltuol yno'i i dynu sylw ond y ngwallt, — yr hwn, pan oeddwn yn ifanc oedd cyn ddued â'r fran, ac yn grych fel gwlan oen bach. I mi gyfadde fy ngwendid i ti, yr oeddwn yn meddwl cryn dipyn o ngwallt, achos 'doeddwn i 'rioed wedi gweld ei debyg. Hyny fu, ac ni feddyliais mwy am y plismon. Mi grwydres awr arall hyd y dre nes oeddwn wedi blino, a mi drois i dy tafarn i orffwys tipyn. 'Doedd neb yn meddwl dim at hyny yr adeg hono. Mi wranta y mod i wedi bod yn y dafarn chwarter awr mewn ystafell ar fy mhen fy hun yn bwrw'r amser heibio, pryd y daeth i fewn ddyn tua'r un oed a fi, ac mor debyg i mi nes y dychrynais wrth edrych arno. Yr oedd ei wallt yn ddu a chrych fel fy un inau, a'i wyneb yr un ffunud a fy wyneb inau, ac nid oedd fawr o wahaniaeth yn lliw ei ddillad. Oni bai fy mod yn gwybod fod hyny yn amhosibl, mi faswn yn tyngu mai fi fy hun oedd y dyn. Gwelwn ei fod yntau wedi ei daro gan y tebygrwydd, ond ni dd'wedodd air. Cerddodd yn ol a blaen hyd yr ystafell am funyd, yna safodd ac edrychodd drwy y ffenest i'r heol; ac heb alw am ddim i'w yfed llithrodd allan yn ddistaw drwy ddrws oedd yn ymddangos i mi fel y drws cefn i'r tŷ. Yn mhen dau funyd dyma y plismon a welswn o'r blaen i'r ystafell, ac ebe fe, — "Wel, John Jones, yr ydach chi wedi troi gartref o'r diwedd?"
"Fy enw i ydi Edward Jones, a mae'n debyg eich bod yn fy nghamgymeryd am y gŵr sydd newydd fyn'd allan," ebe fi.
"Thâl stori fel ene ddim i mi, John, yr wyf yn eich 'nabod yn rhy dda o lawer, a gwell i chi ddod efo fi ar unwaith," ebe'r plismon.
Heb fod lawer oddicartre yr oeddwn yn bur ddiniwed, ac yr oeddwn wedi dychrynu yn enbyd. Protestiais nad y fi oedd John Jones, pwy bynag oedd hwnw; a dwedais, yn fyr fy ngwynt, dipyn o fy hanes, a chymerais fy llw nad oeddwn wedi bod yn Nghroesoswallt o'r blaen yn fy mywyd. Ond ni chafodd dim a ddwedais wrth y plismon fwy o argraff arno na pheri iddo wenu yn wawdlyd, ac ebe fe, —
"John, waeth i chi roi stop arni yn y fan ene; neiff cyboli celwydd les yn y byd i chi. Dowch efo fi yn ddistaw ac yn llonydd."
"Beth ydi'r cyhuddiad yn fy erbyn?" gofynais inau.
"Does dim isio dweud pader i berson," ebe fynte.
Mi elwais ar wraig y dafarn, gan ddisgwyl rhyw gynorthwy ganddi hi, ond wnaeth hono ddim ond gwneud fy helynt yn fwy. Tyngodd ar ei pheth mawr na fu un dyn yn y tŷ tra y bum i yno, a galwodd y forwyn a thyngodd hono yr un peth.
"Ydach chi'n gweld, John, na neiff palu celwydd les yn y byd i chi?" ebe'r plismon.
"Hoswch chi," ebe'r. wraig, "ai nid John Jones, Tan'rallt, ydio? Wel, ond 'doeddwn i'n smala na faswn i'n 'nabod y dyn?"
"Yn smala, oeddach debyg," ebe'r plismon.
"Yr ydach chi'n gneud camgymeriad yn siwr," ebe fi, ac yr oeddwn just a chrïo.
"Mi weles Mary ddoe, a 'roedd hi'n sôn am danoch chi, John," ebe'r forwyn wrthyf yn ddistaw, a mi faswn yn medrud ei tharo.
"Dyma chi, John," ebe'r plismon, "os na ddowch chi efo fi yn ddistaw ac yn llonydd, mi fydd raid i mi'ch handcyffio, ond 'does gen i ddim isio'ch sposio chi."
"Ië, ewch y machen i heb neud row," ebe'r dafarnwraig.
A myn'd a neis i — yn wir, 'doedd gen i ddim dewis — yr oedd yn rhaid i mi fyn'd, ond yr oeddwn yn disgwyl y caent ryw oleu ar eu camgymeriad. Yr oedd yn ddiwrnod ffair, fel y dwedais, ac yr oedd canoedd o lygaid yn edrach arna i wrth i mi fyn'd yn ochr y plismon drwy'r dre, a buasai twr o blant wedi'n canlyn oni bai i'r plismon eu bygwth. Teimlwn y ngwyneb yn llosgi fel tân, a chlywn hwn a'r llall yn dweud,—
"Be mae hwn ene wedi neud os gwn i?"
"Dim da yn siwr i chi."
"Piti hefyd, mae golwg barchus arno."
"Dyna y rhai gwaetha yn aml."
Cawn y credyd gan ambell un yr awn heibio iddo fod yn amlwg fy mod yn teimlo fy sefyllfa, ac felly yr oeddwn yn siwr ddigon. Edrychwn dan y nguwch a welwn i neb yn y ffair oedd yn fy nabod, ond yn ofer, a diau mai hyny barodd i un, tebyg i fugail, ddweyd wrth i mi ei basio, –
"Ci lladd defaid ydi o'n siwr i chi."
Wel, cymerwyd fi i'r rowndws, a 'doedd o ddiben yn y byd i mi brotestio, dweud fy hanes, gofyn am eglurhad, na dim arall; yr unig ateb a gawn oedd y cawn ddweud y cwbl wrth y magistrate bore dranoeth. Prydnawn tost oedd hwnw; mi cofiaf o byth, a chysges i 'run winc ar y ngwely pren y noson hono, a meddyliwn weithiau mai breuddwyd oedd y cwbl. Heb i mi gwmpasu, dygwyd fi o flaen fy ngwell — yr unig dro yn y mywyd. Nid oedd ond un magistrate ar y fainc, gan dybio mae case o remand a fuasai yn ddiameu, a thybiwn ar ei olwg y cawn chware teg ganddo, ac hwyrach iawn am fy ngharcharu ar gam. Ebai fe, –
"Wel, John Jones, beth wnaeth i chi adael eich gwraig a'ch plant?"
"Nid John Jones ydi fy enw, syr, a fu gen i 'rioed wraig, heb sôn am blant," ebe fi, a dechreuais ddweud pwy oeddwn ac o b'le yr oeddwn yn dyfod, ond stopiwyd fi ar unwaith gan y magistrate. Ac ebai fe, —
"John, John, yr ydach chi wedi c'ledu mewn drygioni, — yr ydym yn eich 'nabod yn rhy dda," a galwodd ar Mary Jones, a daeth gwraig dlawd yr olwg arni yn mlaen, ac ebai'r magistrate, —
"Mary Jones, ai y dyn yna ydi'ch gŵr chi?"
"Ië, syr," ebai'r wraig, "ond y mae o wedi altro yn arw, a mae'n dda iawn gen i weld o. Fu o 'rioed yn gâs wrtho i, a wn i ddim beth naeth iddo ngadel i a'r plant 'rwan er's pedair blynedd. Gybeithio, Mr. Preis, na fyddwch chi ddim yn frwnt wrtho, achos yr ydw i'n siwr y daw o adre at ei deulu 'rwan, on ddowch chi, John bach?" A thorodd y wraig i grïo.
Erbyn hyn yr oeddwn yn credu yn sicr fy mod wedi fy witchio neu fy rhoi yn ffynon Elian. Ebai'r magistrate, —
"Wel, John, mi ddylwn eich rhoi yn jail am dri mis, — dyna ddylech chi gael am adael eich teulu. Ond y mae y plwy wedi cadw digon arnynt, ac os ydach chi'n addaw myn'd adre', ac edrach ar ol eich gwraig a'ch plant, mi gewch fyn'd yn rhydd am y tro hwn. Os na wnewch addaw gneud hyny, rhaid i mi roi tri mis i chi. Beth ydach chi'n ddeud, John?"
Meddyliais y munyd hwnw y gallwn ddianc wedi cael fy nhraed yn rhyddion, ac ebe fi, —
"Wel, mi wnaf fy ngoreu i wneud fel yr yd ach chi'n gofyn, syr."
"Very good," ebai'r magistrate, "ond gofalwch na ddowch chi ddim mlaen i eto, neu nid fel hyn y bydd hi arnoch chi. Mae'n biti garw fod crefftwr da fel chi, John, — un sydd yn dad i blant, ac yn d'od o deulu parchus, — wedi gwneud sôn am danoch fel hyn. Bydded hyn yn wers am byth i chwi, John. Mi ellwch fyn'd 'rwan."
Yr oeddwn wedi fy syfrdanu. Daeth y wraig ataf i ysgwyd llaw, ac estynais inau fy llaw iddi yn llipa ddigon. Yr oedd hi wedi crïo, — o lawenydd, mae'n debyg, — nes oedd yn haner dall. Tra yr oeddwn yn cerdded wrth ei hochr, heb wybod i b'le yr oeddwn yn myn'd na pheth i neud, edrychai y wraig arnaf bob chwarter munyd, fel pe buasai yn ameu ei llygaid, a siaradai am gant o bethau na wyddwn ddim am danynt. Dwedodd fwy nag unwaith fy mod wedi altro yn arw, ond fod yn dda ganddi fy ngweld mor drefnus. Soniai am y plant, a d'wedai nad arni hi yr oedd yr holl fai pan euthum i ffwrdd, a chraffai i fy wyneb drachefn a thrachefn. Ni dd'wedais air wrthi mwy na mudan, ac yr oeddwn yn ofni dyrysu yn fy synwyrau. Arweiniodd fi i ryw fuarth lle yr oedd amryw dai, ac yr oedd y cymdogion oll yn sefyll yn y drysau, ac yn gwenu arnaf ac yn fy llongyfarch. Amlwg ydoedd fod i mi groeso i ddod yn ol. Ar hyd y ffordd torai y wraig i grïo bob yn ail munyd, ac yn wir yr oedd yn arw iawn gen i drosti. Chwareuai y ddau fachgen gyda phlant eraill yn y buarth, a phan oeddym yn myn'd i'r tŷ, galwodd Mary Jones arnynt i ddod i weld eu tad. Daeth y plant i mewn, ond ni chymerais sylw o honynt,—yr oedd yn gâs gen i gweld nhw, druain. Parodd hyn i Mary grïo drachefn, a d'wedodd, —
"Pa'm na ddeudwch chi rwbeth wrth y plant, John, os ydach chi yn cau siarad a fi." Ni ddoi y plant yn agos ataf, drwy drugaredd. Sylwais fod y tŷ, er yn dlawd, yn hynod o lân, ac wedi gorffen crio, ebai Mary, —
"Mi ellwch feddwl, John, y mod i'n dlawd; oes gynoch chi bres i mi nol rhywbeth yn damed i chi?"
Rhoddais iddi ychydig sylltau, ac wedi iddi roi y tegell ar y tân aeth allan, ac yn y funyd dychwelodd â llon'd ei ffedog o bethau o'r siop. Wrth ei chwt daeth y dyn a welswn yn y dafarn i mewn. Cofleidiodd a chusanodd y plant, a'r un modd y wraig. Edrychodd Mary fel bydase wedi drysu. Fedra i ddim desgrifio i ti yr olygfa na fy llawenydd. Yr oedd y dyn wedi dod yn ol at ei deulu, ond pan welodd y plismon yn dod ar ei ol i'r dafarn diangodd. Ar ol deall fy mod i wedi fy nghymeryd yn ei le, a bod y Fainc wedi maddeu i mi ar yr amod i mi edrych ar ol fy nheulu, daeth John yn syth gartre. Yr oedd yn edifar iawn ganddo ei fod wedi gadael ei wraig a'i blant. Cawsom dê yn ddigon cyfforddus efo'n gilydd, ac wedi tipyn o siarad, deallais mai Jac y nghefnder ydoedd. Mi ddois adre yn gynt na chynta gallwn i, ac ar hyd y ffordd yr oeddwn yn edrych ar bawb rhag ofn i mi weld rhwfun arall tebyg i mi. Pan ddeudes y stori wrth fy mam, ebe hi,—"
"Ië, siwr, dyna nhw, does dim lwc i'w canlyn nhw."