Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau/Hen Gapel Llwyd

Genoa Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau

gan Owen Morgan Edwards


golygwyd gan John Tudor Jones (John Eilian)
Owain Glyn Dŵr

Hen Gapel Llwyd

DARARLLENAIS erthygl awgrymiadol ar y "Celfyddydau Breiniol," fel y gwelodd rhywun yn dda alw'r Celfau Cain; ac y mae wedi llenwi cymaint o'm meddwl, fel y mae arnaf ofn y rhydd wawr breuddwyd ar fy llythyr y tro hwn. Dengys yr erthygl nad ydym ni Gymry wedi rhagori mewn unrhyw gelf gain oddieithr barddoniaeth a cherddoriaeth, ac nid rhyw lawer yn y rhain, ychwaith; mai y rheswm am hyn ydyw y wedd Biwritanaidd roddodd y Diwygiad ar ein dull o feddwl a sylwi; ac y dylem o hyn allan weled ym mhrydferthwch natur gysgod y brydferthwch santeiddrwydd. "Pell iawn ar ôl," fel y dywedwn yn y Seiat, yr oeddwn i'n teimlo fy hun yn wyneb yr erthygl.

Fel yr wyf yn sylwi mwy ar ddylanwad crefydd. a'r celfau cain ar ei gilydd wrth ddarllen Hanes, ac wrth wylio buchedd pobl yr ardaloedd. Pabyddol sydd o amgylch Geneva, yr wyf yn gorfod credu'n wannach, wannach mai'r addoliad tlysaf ydyw'r addoliad cryfaf a gorau: Bûm mewn llawer eglwys lle'r ymgyfyd colofnau dirif mewn gweddus drefn, lle tynerir y goleuni gan wydrau lliwiedig y ffenestri prydferth, lle'r ymchwydda'r miwsig tawel, tonnog, crynedig, nes gwneud i mi anghofio am fy ngharchar pridd, a meddwl mai rhyw ddarn o gwmwl haf oeddwn, neu ochenaid awel, neu rywbeth arall ysgafn, ysgafn. Ond nid oeddwn yn teimlo fod hyn yn addoli; ni allwn feddwl fy mod yn edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac yn ymofyn, yn ei deml. Hiraethwn am ryw hen gapel llwydaidd ar ochr bryn neu waelod dyffryn yng Nghymru; meddyliwn am y tawelwch hyfryd hwnnw sy'n llenwi'r muriau diaddurn ar brynhawn yn yr haf, cyn i'r pregethwr ddod; distawrwydd dorrir yn awr ac eilwaith gan ochenaid rhyw hen flaenor, hanner of dduwioldeb a hanner o gysgadrwydd. Hwyrach nad ydyw'r canu yn gelfyddydol iawn; hwyrach fod bâs rhyw hanner dwsin o weision ffermydd. neu alto caled nifer o blant yn rhy gryf i wneud y cytgord yn berffaith; hwyrach fod y gynulleidfa. mor gysglyd fel y gellid meddwl mai anadliad araf ei chwsg ydywDiniweidrwydd," neu mai ei sŵn yn hepian ac yn deffro bob yn ail ydyw'r "Hen Ddarbi." Ond, er hynny, y mae'r bobl yn gwybod beth maent yn ei wneud, deallant yr emynau, ac y mae eu canu yn rhywbeth gwell nag ymgais i ddynwared trefn seiniau rhyw gyfansoddwr athrylithgar y mae'n fynegiad o ym- drech meddwl. Gwell gen i gydrodio adref â thyrfa o Gymry o ryw hen ysgubor o gapel, a'u clywed yn trin, pynciau'r bregeth, na dod o Eglwys Babyddol brydferth Strasburg, neu Eglwys Brotestanaidd Salisbury, gan wrando'r bobl yn canmol y côr neu yn synnu at gryfder sŵn yr organ.

Addefaf nad wyf fi'n feirniad diduedd. Y mae'r argraffiadau roddir ar enaid plentyn yn annileadwy; yr wyf fi'n gorfod teimlo hynny'n fwy o hyd. Er na fedraf ganu y mae sŵn y tonau a'r alawon Cymreig yn rhan o'm henaid; er fy ngwaethaf yr wyf yn cael fy hun yn beirniadu pob canu arall yn ol fel y bo'n debyg neu'n anhebyg iddynt. Ni welaist ti hen gapel Llanuwchllyn, ar lan dwfr tawel, a'i do heb fod yn uwch na thai y pentrefwyr o'i amgylch. Moelion oedd ei furiau, ond fod ambell ysmotyn llaith yn rhoi tipyn o amrywiaeth i'w lliw; yr oedd ei feineiau weithiau'n esmwyth, weithiau'n galed, yn ol fel y byddai y bregeth; hirgul oedd ei ffenestri ac heb addurn, ond pan ddoi'r barrug i dynnu darluniau arnynt. Ac eto, dyna'r lle prydferthaf bûm i ynddo erioed. Ynddo y dechreuais feddwl, ynddo y syrthiais mewn cariad am y tro cyntaf, ynddo y teimlais ofn colledigaeth a swyn maddeuant, ynddo y cynhyrfwyd fi gyntaf gan uchelgais ac yr iselwyd fy malchter wrth glywed nad oedd ynof haeddiant, mae pob teimlad a meddwl dyfnach na'i gilydd, dynol ac ysbrydol, yn cyfeirio'n ôl at yr hen gapel llwyd. Nid oedd yno dlysni adeiladaeth na darluniau, ond drwy ffenestr oedd ar gyfer ein sêt gallwn weled y gwynt yn gyrru'r glaw ar hyd ochrau'r mynyddoedd, ac yr oedd yno goeden griafol yn ymwyro gyda'r awel mewn dull na all yr un o'r "celfyddydau breiniol," hyd yn oed pe bai gennym ryw Fac Whirter o Gymro, ddarlunio prydferthwch ei changhennau. Y mae'r hen gapel a'r bobl oedd ynddo wedi newid llawer erbyn heddiw, ond pan ddaw meddyliau am y nefoedd i'm meddwl crwydrol i, hwyrach y gweni wrth i mi ddweud mai fel hen gapel Llanuwchllyn yn union yr ym-

ddengys i mi—y teuluoedd yn eu seti, pawb yn yr oed yr oeddynt, a'r pregethu, a'r canu gorfoleddus, a sŵn lleddf y gwynt, a'r hen goeden. griafol.

Yr wyf yn ynfydu fel hyn er mwyn dangos nad wyf yn ffit o feirniad ar ddim; y mae fy rhagfarnau mor gryf, a'r hen ddelwau mor gysegredig. 'Wn i ddim p'run ai crino ai aeddfedu yr ydwyf; p'run ai gwendid meddwl dyfodiad henaint, ynte doethineb profiad sydd yn fy meddiannu. Tybiwn unwaith mai trwy gyfrwng y celfau cain yr oedd hawsaf addoli. Ond mi wn fwy o hanes yrwan. Gwelaf mai nid yn yr un oes â chrefydd bur y mae'r celfau cain yn blodeuo. 'Does gan ddynion mo'r amynedd i ddarlunio eu teimladau mewn cerrig neu baent pan fo en heneidiau ar dân. Pan fo diwygiad wedi llosgi allan, pan fo'r ystorm wedi llonyddu, y daw'r adeiladydd a'r arlunydd at eu gwaith. Pan fo cenedl yng nghryfder ei meddwl, yng ngrym ei datblygiad, yn ymysgwyd o'i chadwynau, ni fedr ond dweud a chanu. Y prawf cryfaf i mi o nerth iach Cymru ydyw y ffaith mai mewn llenyddiaeth a cherddoriaeth yn unig y mae ei bywyd wedi ymddarlunio hyd yn hyn; ac yn y celfau hynny y mae Cymru wedi gwneud mwy na'i rhan i gyfoethogi'r byd yn yr hanner can mlynedd diwethaf, pe na bai ond am y tri wŷr hyn—Hiraethog, Ceiriog, ac Islwyn.

Fe ddaw tro Cymru i roddi arlunwyr a cherfwyr i'r byd, pan fo'r bywyd cryf sydd ynddi'n awr wedi dechrau aeddfedu a gwanhau. Nid pan fo'r haul yn nisgleirdeb canol dydd y gwelir ei brydferthwch, ond gyda'r nos, pan fo'n goreuro'r bryniau, ac yn lliwio'r cymylau yna'n unig yr edrychir arno. Daw bywyd y MethYSGRIFAU SYR OWEN M. EDWARDS odistiaid yn destun nofelau; gwelir John Elias a'i gynulleidfa ar ryw ganfas anfarwol; bydd ein tonau yn ysbrydoli rhyw Handel newydd; ond y mae yn rhy fuan eto, a diolch am hynny, nid yw ein haul wedi dechrau machlud. Mor gyfangwbl y mae tynged a dull datblygiad cenhedloedd yn llaw Duw! Ni allwn ond sylwi a rhyfeddu. Gwelwn fod cenedl yn newid ac yn ymburo dan ei law, ac eto fod y dynion sydd yn foddion pob newid yn ymgorfforiad uchaf o ysbryd y genedl ei hun,—diwygwyr ac emynwyr pan fo'n ennill ei nerth gwladweinyddion a haneswyr pan fo'n hawlio ei chydnabod, gwŷr y celfau cain pan fo'n heneiddio tua'i hydref. (—O'r Bala i Geneva.)

Nodiadau

golygu