Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau/Owain Glyn Dŵr

Hen Gapel Llwyd Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau

gan Owen Morgan Edwards


golygwyd gan John Tudor Jones (John Eilian)
Enaid Cenedl
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owain Glyn Dŵr
ar Wicipedia

Owain Glyn Dŵr

NI fedr anghyfiawnder yn unig, ni fedr newyn yn unig, nerthu i ryfel neu godi chwyldroad. Ni fedr y naill ond griddfan, y mae'r llall yn ddall gan wendid. Rhaid cael breuddwyd, gobaith, drychfeddwl,—beth y galwaf y swyn hwnnw sy'n troi griddfan y gorthrymedig yn iaith huawdl ddealladwy, sy'n rhoi tân bywyd yn llygad pwl y newynog, sy'n gwneud i'r meddwl cysglyd a'r bywyd isel wneud gwrhydri, sy'n gwneud gwerin yn un?

Yr oedd y peth byw hwnnw'n barod i groesawu Owain Glyn Dŵr. Dywedai'r bardd y genid pobl eraill dan dylanwad rhyw seren gyffredin,— Mercher goch, Gwener deg, Sadwrn drwm neu Iau ysblennydd; ond yr oedd seren neilltuol wedi tywynnu ar gynlluniau Owen Glyn Dŵr. Beth bynnag am seren naturiol, yr oedd seren aml ddrychfeddwl byw yn ei arwain yn ei flaen. Un oedd gwlatgarwch, hwn, mae'n ddiamau, dynnai dorf o efrydwyr Rhydychen i ymladd drosto. Un arall oedd cred yn urddas llafur. Tra'r oedd rhai beirdd yn dal i ganu am ogoniant rhyfel ac ysblander llysoedd, canai eraill gân newydd,—cân o glód i'r amaethwr, cân oedd megis emyn i'r aradr. Breuddwydiasai Langlande, ar y bryniau. rhwng Cymru a Lloegr, mai ar ffurf llafurwr, ac yn y cae llafur, y gwelid Crist,—nid mewn eglwys lle gorweddai cerf-ddelwau'r arglwyddi gorthrymus. Ac yng Nghymru cyweiriodd Iolo ei delyn i ganu mawl y llafurwr a'r aradr,—

Nid addas mynnu dioddef,
Nid bywyd, nid bwyd, heb ef;
Ni cheir eithr ond ei weithred,
Aberth Crist, i borthi cred;
Na bywyd,—pam ei beiwn ?—
Pab nac ymherawdr heb hwn,
Na brenin haelwen hoyw—liw,
Na da 'n y byd, na dim byw."

Ac wrth groesawu seren Owain Glyn Dŵr, dymuniad gweddi y bardd uchel—fonedd hwn oedd,—

"Llaw Dduw Ne, gore un gŵr,
Llaw Fair dros bob llafurwr."

Pan gyfarfu Senedd Lloegr yn Chwefror, 1401, yr oedd trefn ryfedd ar y byd. Aflwyddiant ddilynasai'r llywodraeth yn y rhyfeloedd yn yr Alban ac yng Nghymru, a chyda" murmur mawr a thufewnol felldithio y rhoddwyd hawl i'r brenin godi treth newydd. Yr oedd Sawtre,— y gŵr cyntaf losgwyd yn fyw am heresi yn Lloegr, —newydd ddweud wrth fy arglwydd archesgob, gyda llygaid tanbaid, y byddai iaith cenedl ddieithr yn dal ei theyrnwialen cyn hir dros wlad Lloegr, a bod y drwg wrth y drws. Ac yn yr adeg honno daeth yswain Cymreig, o'r enw Owain, i erfyn ar y brenin roddi'n ôl iddo diroedd a drawsfeddianesid gan Lord de Grey o Ruthyn, tiroedd oedd yn eiddo i deulu Owain er oesoedd cyn cof. Dadleuodd John Trevor, esgob Llanelwy, drosto, gan ddweud y byddai'n well rhoddi iddo rywbeth tebyg i gyfiawnder, gan y gallai godi cynnwrf mawr yng Nghymru os âi adre'n ddig. Ond ni thyciodd dim yn erbyn Iarll Grey; a dywedodd yr Arglwyddi nad oeddynt hwy'n malio dim yn y Cymry coesnoeth lladronllyd. Dyna eiriau un hanesydd.

Pan welodd Owain na chai gyfiawnder yn erbyn Iarll Grey, penderfynodd apelio at y cleddyf. O'r dechrau y mae'n amlwg ei fod yn wladweinydd medrus. Yr oedd ei gynlluniau'n feiddgar ac yn fawrion, a medrai daflu trem eryraidd ar yr ymrafaelion a'r cynghreiriau oedd yn y gwledydd o'i gwmpas. Y mae ganddo gynllun amlwg yn 1400, cymryd y cestyll yn y Gogledd, yn enwedig Conwy a Chaernarfon, cael byddin o Albanwyr a Gwyddelod i lanio yn yr Abermaw neu Aberdyfi; ymdaith gyda llu anorchfygol drwy'r gororau, ac ymuno â phlaid Rhisiart ddiorseddedig yn Lloegr. Yr oedd pob peth fel pe'n gweithio gydag ef. Dylifai'r Cymry dan ei faner, prysurai'r llafurwyr Cymreig o Loegr yn ôl ato, ymdyrrai myfyrwyr Cymreig Rhydychen, arweinwyr y mynych gwerylon yn y brifysgol honno, i ymladd dan arweinydd mor boblogaidd. Ysgrifennai ceidwad castell Caernarfon at y brenin fod y Cymry'n ymarfogi,"gwerthant eu gwartheg i brynu ceffylau a harnais; a lladrata rhai ohonynt geffylau, a phrynant gyfrwyau a bwâu a saethau."

Ond, oherwydd yr egni digymar oedd mor nodweddiadol ohono yn nechrau ei deyrnasiad, medrodd Harri'r Pedwerydd ddod i Gymru cyn bod cynlluniau Owen yn barod,—cyn i'r Albanwyr na'r Gwyddelod ddod, cyn cymryd y cestyll, a chyn disgyblu'r Cymry i sefyll brwydr. Daeth y brenin ym mis Medi, ac aeth drwodd i ynys Môn. Trôdd y brodyr llwydion o Lan Faes,—lle gorweddai Elin, gwraig Llywelyn, ond gorfod iddo fynd adre cyn ystormydd y gaeaf heb weled cipolwg ar Owain Glyn Dŵr. Hwyrach mai'r adeg hon y collodd ei ganlynwyr eu golwg ar Owain hefyd, pan ar ffo rhag Harri, ac y gofynnodd Iolo Goch,—

Y gŵr hir, ni'th gâr Harri,
Adfyd aeth, a wyd fyw di?

Yr oedd yn amlwg fod gwrthryfel Owain wedi disgyn yng Nghymru fel gwreichionen ar ddail crin. Yr oedd y llafurwyr yn enwedig yn barod i'w ddilyn, canys trwm iawn fuasai iau arglwyddi'r gororau, a thrahaus iawn oedd bywyd castellwyr yn hen Gymru Llywelyn. Llais Cymru i gyd oedd gwahoddiad Iolo Goch,—

A gwayw o dân,
Dyred, dangos dy hunan;
Dyga ran dy garennydd,
Dwg ni o'n rhwym dygn yn rhydd.

Erbyn Gwanwyn 1401 y mae Owain Glyn Dŵr wedi dod yn ôl. Tra'r oedd Percy'n ceisio cadw ofn y cestyll ar Ogledd Cymru, trôdd Owain i'r Dê. Ym Mai clywai'r brenin fod holl Ddeheubarth yn dylifo ato, a'i fod yn ymgynghreirio â thywysogion y wlad honno i ymosod ar Loegr, ac i ddifa'r iaith Saesneg oddi ar wyneb y ddaear. Oddi yno trôdd yn ôl i Bowys, lle y ceisiodd feddiant o'r Trallwm, a Dyffryn Hafren. Cyn diwedd yr haf yr oedd yn teyrnasu fel tywysog ar Wynedd, Powys, Ceredigion, a Deheubarth; ac yr oedd Cymry'r gororau, yn enwedig Gwent a Morgannwg, yn hiraethu am ei ddyfodiad.

Yn yr Hydref daeth y brenin a byddin fawr i ganolbarth Cymru; a difrododd bopeth ar ei ffordd gan adael gweddill y cleddyf a'r tân i newyn, ac heb arbed gwraig na phlentyn. Gwnaeth fynachlog Ystrad Ffur yn ystabl i'w geffylau; ac oddi yno casglodd fil o blant y wlad, ebe'r hanes, i'w dwyn yn gaeth i Loegr. Ni feiddiai Owain sefyll brwydr, ond gwibiai o gwmpas byddin y brenin, ac ymgynddeiriogodd hwnnw nes gwneud i uchelwyr a gwerinwyr Ceredigion ddioddef creulonderau erchyll. Ond ni fedrodd y brenin wneud dim i Owain ei hun; a chydag iddo droi ei gefn, yr oedd Owain a'i fyddin yn gwarchae Castell Caernarfon. Y mae'n wir na chafodd feddiant o'r castell yn y mis Tachwedd hwnnw, ond yr oedd, erbyn hyn, yn arwr cenedlaethol, a'i faner,—draig euraid ar liw gwyn, yn faner yr edrychai pob Cymro gyda llygaid deisyfgar am dani, o Lanandras i Dyddewi, ac o Gaergybi i Gaerdydd. Yr oedd gallu brenin Lloegr yn gwanhau hefyd, yr oedd murmur yn erbyn y trethi, yr oedd anffyddlondeb yng nghalonnau'r barwniaid.

Yr oedd Dafydd ap Iefan Goch ac eraill yn gwibio rhwng Owain a thywysogion yr Iwerddon a'r Alban, ac yr oedd sôn bod Owain a rhai o'r barwniaid Seisnig mwyaf nerthol yn deall ei gilydd. Yn nechrau 1402, ymosododd Owain ar Ruthyn, a llosgodd hi. Yna dechreuodd ddarostwng gororau Powys, a phan gyfarfu fyddin yr Iarll Grey yn nyffryn y Fyrnwy, gorchfygodd ef ac aeth ag ef i garchar. . . .

Gyda 1406 darfu chwerwder y brwydro. Yr oedd pob arwyddion, pe cawsai ond llonydd yn unig, buasai Cymru'n Gymru lwyddiannus a dedwydd dan deyrnwialen Owain Glyn Dŵr, "trwy ras Duw'n Dywysog Cymru."

Ond nid oedd hynny i fod. Erbyn 1407 gwêl Owain Glyn Dŵr fod raid iddo ymladd ei hunan, ac â gelyn cryf. Gwelodd ei gynghreirwyr yn diflannu, y naill ar ôl y llall. Ychydig longau ddeuai o Ffrainc, yr oedd nerth Gogledd Lloegr yn gwanhau. Yn yr haf medrodd y tywysog Harri gyrraedd Aberystwyth, er mai buan yr ail—gymerodd Owain y castell. Ond, gyda llofruddiad Orleans, darfu pob gobaith am gymorth o Ffrainc. Yn 1408, gwnaeth Northumberland ei ymdrech anobeithiol olaf ar faes Bramham Moor. Cymerwyd esgob Bangor yn garcharor. yno, a gwelwyd pen yr hen iarll, yn brydferth oherwydd gwynder ariannaidd y gwallt, yn pydru ar ganllaw Pont Llundain. A chollodd Owain Glyn Dŵr ei gestyll olaf, Llanbedr Pont Stephan, Aberystwyth, a Harlech.

Yr oedd y werin bobl wedi blino ar ryfel. Os oedd eu cyflogau'n uchel a'u bwyd yn rhad,—a deddfau cyflog a phris yn ddi-rym,—ni ellid disgwyl i'r werin aberthu ei chysur a'i llwyddiant er mwyn adran o gredo neu brydyddiaeth gwlatgarwch. Darfu'r gwrthryfel Darfu'r gwrthryfel llafur yng Nghymru fel y darfu yn Lloegr, oherwydd fod y llafurwyr wedi ennill yr hyn oedd arnynt. eisiau. Darfu'r gwrthryfel, a chydag ef diflannodd dau freuddwyd yn eu prydferthwch,— breuddwyd y Lolardiaid am eglwys newydd, a breuddwyd Owain Glyn Dwr am Gymru newydd.

Ond ni chollodd gwerin Cymru ei pharch a'i chariad at ei harweinydd yn nydd ei chyni. Am flynyddoedd bu'n crwydro ymysg ei bobl; ac ni fradychodd ef erioed. Gellir dweud hanes Owain Glyn Dŵr ar bedwar gair, amddiffynnydd. gwerin, ymgorfforiad cenedlgarwch. Ei genedlgarwch a'i paratodd at ei waith; cariad y werin ato, a'i ffydd ynddo, a roddodd nerth iddo yn ôl pob dydd. Tynnodd ysbrydiaeth iddo ei hun o hanes Cymru, gwelodd ogoniant hanner dychmygol ei hen frenhinoedd; y mae ei lythyrau at frenin yr Alban a thywysogion Iwerddon yn llawn adlais breuddwydion efrydydd hanes. Gwelodd werin ei wlad yn ymwingo yn ei chyni, yn dioddef gorthrwm swyddog ac arglwydd; ac wedi cael cipolwg ar fywyd gwell. Rhoddodd uwch gwaith iddi na chrogi stiwardiaid a llosgi rholiau'r faenor, llyfr achau ei chaethiwed. Rhoddodd nôd i'w digofaint dall,—undeb cenedlaethol, a phrifysgol. Ac ni charwyd neb erioed fel y carwyd Owain Glyn Dŵr gan werin Cymru. Mewn hanes y mae. Llywelyn, ond y mae Owain Glyn Dŵr fel pe'n byw gyda'r genedl; ac nid rhyfedd ei fod,—fel Moses ac Arthur a Chalfin,—heb fedd a adwaenir. Canodd y beirdd hiraeth am dano, disgwyliai'r werin ef yn ôl. Tybiai y cyfarfyddai ef eto ar ei llwybr, i'w harwain i ryddid uwch, ac ni fynnai ei fod wedi marw. O Forgannwg ac o Ddyffryn Clwyd codai'r cri,—

Dyro fflam, benadur fflwch,
Draw'n Nulyn drwy anialwch.


ENAID CENEDL Uwchben Glyndyfrdwy, ar y dde wrth fynd i fyny'r afon, y mae llannerch wastad ar gornel greigiog sy'n codi fel grisiau o'r afon i'r mynydd. Yr wyf yn credu y caf fyw i weled cofgolofn i Owain Glyn Dŵr yno, yn sefyll a'i wyneb at fro ddiwyd Maelor obry, a'i gefn at adfeilion Castell Dinas Bran fry. Ei ddydd ef yw heddiw.(—Llynnoedd Llonydd.)

Nodiadau

golygu