Tŷ Ddewi (Cartrefi Cymru OM Edwards)

Y Garreg Wen Cartrefi Cymru, O. M. Edwards

gan Owen Morgan Edwards

Ol Nodyn

Mae Tŷ Ddewi yn bennod yn Cartrefi Cymru casgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (1858–1920) a chyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1896.

Testun

golygu

TYDDEWI.

"Cystal am ofal im yw
Fyned deirgwaith i Fynyw,
A myned, cynired cain,
Ar hafoed hyd yn Rhufain."
IOLO GOCH.

Yr oedd wedi taro chwech o'r gloch y bore ers pymtheng munud neu well pan garlamai ein merlen hoew drwy heol hen Hwlffordd, gan deimlo nad oedd mwy o bwysau yn ein cerbyd ysgafn na phe buasai ddim ond bwcl addurnedig i gadw'r awenau yn eu lle. Naw o'r gloch y noson cynt, yr oeddwn wedi gadael Llundain a'i chyffro, gan ddisgwyl gweled y bore'n torri ar fynyddoedd Cymru, a chan wybod fod rhyw dawelwch yn gorffwys ar y mynyddoedd hynny, tawelwch iachaol, heddwch a sudda fel balm i enaid y neb a hir edrycho arnynt. Heddwch y mynyddoedd, - dyna feddyginiaeth meddwl pryderus, a dyna adnewydda y corff curiedig fel yr eryr. Aml y teithia enaid Cymro i fynyddoedd ei wlad.

Ar hyd y daith nos bûm yn breuddwydio'n anesmwyth yn y trên. Breuddwydiwn ein bod yn chwyrnellu drwy ddinasoedd distaw anghyfannedd, - yr oedd Caerloyw wedi ei hanrheithio gan bla, a'r glaswellt yn tyfu ar hyd ei hystrydoedd; yr oedd Casnewydd dan y mor, a dim ond rhyw drumau aur, fel crib, yn codi o'r tonnau oer brig wynion; yr oedd adfeilion anferth Caerdydd yn goedwig o eiddew a mieri, a'r môr wedi cilio oddi wrth ei glan. Ond yr oedd edyn aur y bore ar Lyn Nedd ac ar fae Abertawe, er mai prin y medrai'r dydd fy argyhoeddi nad anialwch du oeddwn wedi gadael ar fy ôl. O wlad y nos i wlad y bore yr oedd fy nhaith.

Nid oedd gennyf ond dwy noswaith a diwrnod i mi fy hun. Rhaid oedd treulio'r ddwy noswaith yn y trên, a mwyn oedd meddwl y cawn dreulio'r diwrnod yn Nyfed, a mynd ar bererindod i Dyddewi. Bu pererinion dirifedi'n cyrchu ar hyd y ffordd hon, yn hen oesoedd cred, tua Thyddewi; oherwydd yr oedd mynd yno deirgwaith mor haeddiannol a phe'r eid dros dir a môr i Rufain ei hun, - ceid yr un gollyngdod am bechod, yr un iechyd corff, yr un heddwch meddwl. Ac i'r neb deithiodd Ddyfed hyd Dyddewi yn nyddiau cynnes hirion esmwyth yr haf, nid anhygoel yw'r traddodiad nad oes afiechyd na gwenwyn na phechod yn trigo yn naear sanctaidd Dewi.

Gwell i mi gyfaddef ar unwaith mai nid marweiddio'r cnawd oedd amcan fy mhererindod, onide buaswn wedi mynd yn y gaeaf, a buaswn wedi cerdded dros yr holl fryniau tonnog sy'n ymestyn rhwng Hwlffordd a Thyddewi. Yr oeddwn wedi deall y byddai un o geffylau gorau'r wlad, ac un o'r gyrwyr gorau, yn fy aros yng ngorsaf Hwlffordd. Bu'n edifar gennyf droeon yn ystod y dydd na fuaswn wedi cerdded; ond, o ran hynny, gorfod i mi gerdded llawer, ac nid o'm bodd.

A dyma ni'n carlamu drwy stryd Hwlffordd. Mor hyfryd ydyw'r cerbyd ysgafn ar ôl y trên trwm, ac mor iach ydyw awel y bore dros y bryniau gleision acw. Yn union o'n blaenau ymgyfyd castell Hwlffordd, gan wgu i lawr arnom, ac ar yr hen dref ddiddorol yr ydym yn cyflymu drwyddi. Troesom ar y de wrth droed craig y castell, ac aethom drwy stryd gul ar garlam gwyllt, er perygl nid ychydig i'r plant troednoeth coesnoeth oedd yn ymhyfrydu yn y dŵr ac yn y llaid sydd ar hyd ochrau ac ar ganol y Stryd Dywyll. Dywedai'r gyrrwr mai ym Mhenfro Seisnig y mae Hwlffordd, ac na siaredir gair o Gymraeg ynddi. Gwelwn yn amlwg oddi wrth enwau'r siopwyr fod llawer cenedl yn trigo yn y dref. Bleddyn Gymreig mewn heddwch a Havard Normanaidd.

Sais oedd y gyrrwr, a charn Sais. Ni wyddai ddim am Arthur, ni chlywodd sôn am William Havard, ni wyddai ddim am hanes y dref. Sur ac anfoddog oedd ei drem, ac nid oedd ei iaith mor goeth ag iaith ambell un, oherwydd yr oedd yn rhy hoff o sôn am drigolion y tywyllwch wrth eu henwau, a mynych gyfeiriad a wnâi at ei enaid byw. Ceffylau, cŵn, a da pluog oedd hoff destun ei ymddiddanion; ond am gyfarfodydd pregethu, neu ysgolion y fro, neu ei cholegau, gwyddai llai na dim. Yr oedd ganddo ddaliadau gwleidyddol, ac nid oedd arno gywilydd eu harddel. Yr oedd yn ddyn gonest, yn eithaf caredig, ac yn barod iawn i dystio mai gwir bob gair oedd yr holl straeon adroddai.

Dyma ni ar ben y rhiw cyntaf, a gwlad Dyfed hen wlad yr Hud, gwlad chwedl am bagan a sant, yn ymestyn o'n blaenau. Golwg oer a thrist sydd arni, gwlad o fryniau penisel, yn ymestyn fel tonnau tua gorwel y gorllewin, heb fôr yn y golwg, heb fynydd. Ffermwyr, moch, gwyddau, peiriannau lladd gwair, - edrychent am y pruddaf. A thraw, yn hanner cylch o'n blaenau, yr oedd cymylau gwgus yn llawn o law oer. Ceisiai'r gyrrwr fod yn llawen, ond yr oedd amheuaeth yn ei lais wrth iddo ddweud,--"Cloudy mornin', fine day, sir." Gyda hynny disgynnodd y wlaw arnom fel pe'i tywelltid o grwc, a chlywn y defnynnau'n rhedeg i lawr rhwng fy nghrys a'm croen. Anodd canu yn y glaw, ac eithaf digalon oeddwn innau. Treiai'r gyrrwr fy nghysuro, a thynnu fy sylw at rywbeth oddi wrth fy sefyllfa anghysurus ac anwydog. Ddangosodd ddyffryn bychan i mi, a dywedodd gyda blas ei fod yn lle ardderchog am lwynogod a dyfrgwn. Dywedais innau nad oeddwn yn cymeryd y diddordeb lleiaf mewn llwynogod na dyfrgwn; ac nad oedd dim casach gennyf na chw^n hela, ond y bobl fydd yn eu dilyn. Daethom at afonig fechan dryloyw, oedd yn rhedeg dros raean glan, dan lwyni o frwyn a llysiau'r gwenyn; ac wrth fy ngweled yn edrych ar y blodau, dywedodd y gyrrwr fod y nant yn lle ardderchog i bysgota brithylliaid, a gofynnodd i mi a oeddwn yn ddaliwr da. Dywedais fy mod wedi dal un brithyll unwaith, a bod yn edifar gennyf byth; ond ni fedrai ddeall hynny. Yr oedd y gwlaw yn dal i ddisgyn, a'm calon innau'n drwm. A dechreuodd y gyrrwr ganu, gan wneud pob sw^n rhwng sw^n hogi llif a sw^n melin goffi. Gofynnodd i mi toc a oeddwn yn hoffi canu, a dywedais innau nad oeddwn wedi clywed canu ers rai dyddiau. Yr oeddwn yn ddrwg fy hwyl, ac ni phetrusodd y gyrrwr ddweud gan ba fod y blinid fi.

Ond, gyda hynny, peidiodd y gwlaw, a gwenodd yr haul ar Ddyfed. Siriolodd y ffurfafen, a gwenodd Dyfed arni drwy ei dagrau. Y mae gwen yn disgyn ar rudd brenhines y weirglodd, dacw fynyddoedd a chastell a'r môr, a gallasech glywed dau wlyb yn bloeddio canu dros yr holl wlad. "Dydach chi ddim llawer o ganwr," ebe'r gyrrwr, ar ddiwedd y gan. "Nag wyf," ebe finnau, "nid ydych chwithau ddim chwaith, y mae fy llais i wedi ei golli o hir ddistawrwydd, a'ch llais chwithau wedi ei andwyo gan ormod siarad."

Castell Roche oedd y castell a welem. Un twr sydd o honno, a saif hwn ar drwyn craig sy'n ymwthio i fyny drwy'r garreg galchaidd. Gellir ei weled o bell o bob ochr; y mae'n ddu ac uchel a balch fel gorthrwm, yn gwgu ar holl ddyffrynnoedd y wlad hon. Wedi i ni ei adael dywedai'r gyrrwr ein bod yn nesu at y terfyn rhwng Dyfed y Saeson a Dyfed y Cymry, a chefais dipyn o hanes y ddwy genedl ganddo. Nid oedd gwleidyddiaeth Cymry Penfro wrth ei fodd, a gyrrai'n enbyd ar y personiaid am na ddysgent well credo iddynt. Ond dywedai eu bod yn gynnil, yn llwyddiannus, ac yn bobl iach a chryf. Ond anffawd fawr oedd eu bod yn siarad Cymraeg, ac yntau'n deall yr un gair.

Tra'r oedd y gyrrwr yn traethu ei ddoethineb fel hyn, yr oedd golygfa ogoneddus o'n blaenau, - creigiau'n taflu allan o'r ddaear ar y de i ni, a chastell Roche o hyd; a'r môr, gyda'i benrhynnoedd a'i ynysoedd, ar ein chwith ac o'n blaenau. Cyn hir, disgynasom ar hyd y rhiw at dafarn Niwgel. Y mae hon ar lan y môr; ac yn union ar y terfyn, fe ddywedir, rhwng y wlad Gymraeg a'r wlad Saesneg. Yr oeddem ninnau yma ar hanner ein ffordd, ac yr oedd yn rhaid i'r ferlen a'r gyrrwr wrth lymaid. Y mae'r dafarn mewn lle unig, mewn pantle ar y lan, ac ymron yn anhygyrch yn y gaeaf, gallwn feddwl. Ond y mae llawer o gyrchu yno yn yr haf. Pe buaswn yno drannoeth, buaswn yno ar y dydd dawnsio, sef dydd Iau. Y mae traeth o dywod melyn caled gerllaw'r dafarn, a chyrcha bechgyn a genethod yr ardaloedd cylchynol yno ar brynhawniau Iau i ddawnsio, a daw lluoedd mewn cychod o'r lan gyferbyn i'w cyfarfod.

Wrth i mi ddringo ar hyd y ffordd serth ar ôl y ferlen o bantle'r dafarn, gwelwn y traeth prydferth, ac ni welais erioed gymaint cynulleidfa o wylanod y môr a'r dyrfa o honynt oedd yn edrych yn astud ar y llanw'n mynd allan. O hyn i Dyddewi yr oedd y wlad yn dlysach a'r bobl yn fwy diddorol. Ochrau rhedynog oedd yno, a gwartheg duon, - yn codi hiraeth am y llefrith melys hwnnw na cheir ond gan wartheg sy'n pori ochrau mynyddoedd. Brethyn cartref oedd gwisg y bobl, neu rywbeth ar ei lun, - brethyn da, ffedog stwff, a bectwn yspotiog. Holent fi'n awchus, a methent wybod oddi wrth fy iaith o ba ran o Gymru y deuwn. Gwahoddent fi'n groesawus i'w tai, ond yr oedd yn rhaid i mi gyfeirio eu sylw at y gyrrwr a'i geffyl yn llafurus ddringo'r gorifyny o'm blaen, ac ymron cyrraedd pen y rhiw. Byddai raid i minnau redeg, braidd cyn dechrau'r ymddiddan, i ddal y cerbyd ac i neidio iddo, a rhedai'r ferlen yn chwim, a'i mwng yn yr awel, hyd nes y deuem at riw drachefn.

Pan ddisgynasom i Solfach, unig sylw'r gyrrwr am y bobl oedd, - "awful radicals." Hafan fach ddymunol sydd yma, ac y mae gwedd gyfoethog a llewyrchus ar bob peth. Tra'r oedd y gyrrwr a'i ferlen yn goblygu i fyny'r rhiw, cefais amser i sgwrsio a'r fforddolion ddigwyddent fy nghyfarfod. Hoffwn eu Cymraeg yn fawr, yr oedd mor syml a melodaidd; ac yr oedd rhyw ledneisrwydd boneddigaidd ynddynt yn gymysg ag awydd anniwall i siarad.

Ond y mae ein hwynebau ar Dyddewi o'r diwedd. Nid oes bosibl peidio cofio ei hen enw wrth edrych arni, -"Gwlad yr Hud." Y niwl tenau, pellter diderfyn y môr, y creigiau ysgythrog acw,- dyma deilwng gartref i ddefodau erchyll rhyw hen grefydd baganaidd, dyma wlad yr hoffai ysbryd aflonydd rhyw hen forleidr crwydrol aros am ennyd ynddi, ar ryw benrhyn neu ynys sydd eto'n dwyn ei enw. Gwlad hyd a lledrith ydyw, wedi ei gwneud gan Ddewi yn wlad goleuni'r efengyl. Ond y mae ei swyn a'i phrydferthwch fel erioed.

Arhosodd y cerbyd yng nghanol Tyddewi, a disgynnais i westy cysurus a phrydferth. Wedi cael tamaid,- yr oedd erbyn hyn rhwng naw a deg o'r gloch y bore,- cerddais ymlaen i gyfeiriad yr eglwys gadeiriol. Ni welir hi nes dod i'w hymyl, oherwydd mewn pantle y mae. Yna ymegyr ei hardderchowgrwydd o flaen y llygaid synedig. Er bod ôl atgyweirio arni, meddyliwn am anialwch mawreddog a phrydferth. Yr oedd rhyw geinder a heddwch rhyfedd wedi gorffwys ar yr hen fangre hanesiol annwyl. Draw heibio'r eglwys y mae palas yr esgob yn adfeilion. Ond na feddylier ei fod yn hagr, er ei fod yn adfeiliedig. Y mae llaw amser wedi rhoddi prydferthwch digymar arno. Y ffenestr gron, y muriau hirion, y llwydni henafol, y wisg iorwg,- ym mha le y ceir adfeilion mor gain mewn glyn mor brydferth?

Rhed aber tryloyw o adfeilion y palas, neu o ryw ffynnon rinweddol sydd ynddynt, ac ymdroella dan furmur, fel genethig yn mynd adref o'r capel, drwy'r dyffryn bach tlws tua'r môr. Nid rhosynnau na blodau gardd sy'n tyfu yno, ond blodau gwylltion Cymru,- llysiau'r mêl a cheilys yr eithin, blodau'r grug a hesg, eithin a rhedyn Mair. Ac y mae'r dyffryn yn ddarlun o brydferthwch a sirioldeb iechyd. A meddyliwn y gellid dweud am y blodau eiriau Iolo Goch am offeiriaid Dewi, -

"Angylion nef yng nglan nant."

Yn y pantle hwn, hwyrach, y cododd Dewi Sant ei babell pan ddaeth yn genhadwr i bregethu'r efengyl i baganiaid Dyfed. Ar lan yr aber dlos tryloyw, sy'n murmur mor ddedwydd ag erioed drwy'r adfeilion, y bu Dewi'n cydweddi a'i ddisgyblion am i Grist gael holl Gymru'n eiddo iddo. Ac ychydig feddyliai'r sant yr adeg honno, y mae'n bur sicr, y doi frenhinoedd ar bererindod at ei fedd ac yr edrychid arno fel archesgob holl Gymru. Bump neu chwe chan mlynedd ar ôl ei farw, pan oedd ffafr yr eglwys Gristionogol yng Nghymru wedi newid yn ddirfawr, ceisiodd Gerald Gymro brofi fod Eglwys Cymru wedi bod yn un, ac yn annibynnol ar Eglwys Loegr, dan archesgob Tyddewi, olynydd Dewi Sant; a hir y brwydrodd i ailennill i Eglwys Cymru ei hannibyniaeth hwn. Wedi darostwng esgobaethau Cymru dan lywodraeth archesgob Seisnig, ac wedi darostwng Cymru i frenin y Saeson, aeth Tyddewi yn anwylach i'r Cymry o hyd. Pan gododd Glyn Dwr ei faner, yr oedd yn meddwl am wneud Tyddewi yn archesgobaeth Cymru, a phrydferth iawn yw darluniad ei fardd Iolo Goch o'r fangre hyfryd. Lecyn prydferth a thawel, y mae gŵyr gorau Cymru wedi bod yn hiraethu am yr iechyd a'r tawelwch geir ynot. Ynot ti y gorwedd Dewi Sant a Gerallt Gymro a William Morris. A dyma finnau bererin wedi cael edrych ar dy degwch, ar dy draeth euraidd ar dy ffynnon gloyw, ac ar dy flodau gwylltion.

Nis gwn ddim i sicrwydd am Ddewi Sant. Nid wyf yn barod i ddweud ei fod yn fwy na bod hanner dychmygol, fel Arthur.