Y Garreg Wen (Cartrefi Cymru OM Edwards)
← Tŷ'r Ficer | Cartrefi Cymru, O. M. Edwards gan Owen Morgan Edwards |
Tŷ Ddewi → |
Mae Y Garreg Wen yn bennod yn Cartrefi Cymru casgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (1858–1920) a chyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1896.
Testun
golyguY GARREG WEN.
Cychwynnodd tri o Gricieth ar fore hyfryd ym mis Awst diweddar i weled cartref Dafydd y Garreg Wen, ac un o'r tri hynny sy'n ysgrifennu yr hanes diaddurn ond cywir hwn.
Yr oeddem yn tybied, er i ni weled llawer bae tlws, na welsom ddim tlysach erioed na Bae Cricieth y diwrnod hwnnw. Yr oedd y môr diderfyn o'n blaen, ac yr oedd y glesni hwnnw arnom na welsom yn unlle ond ar draethell Mor y Canoldir, dan gysgod mynyddoedd Liguria. Ar un ochr iddo yr oedd bryniau Meirion, fel llinell euraidd rhy dyner i ddisgleirio. O'n blaen ymgodai Moel y Gest fel caer anferth, a gwelem y ffordd hir yn dirwyn hyd yr ochr tuag ati. O'n hôl safai castell Cricieth, yn hyf fel pan canai Iolo Goch iddo, ond heb ogoniant ac heb oleuni mwy. Ar ein chwith yr oedd pigau mynyddoedd gleision yn codi ac yn colli o'n golwg gyda phob codi a gostwng yn y ffordd. Ar ein llaw dde yr oedd y môr, ac adlewyrch haul ar grib bob ton, yn gwneud i ni feddwl am fyddin Sennacherib,
“ |
|
” |
Anadlai gwynt braf o'r Wyddfa arnom wrth i ni deithio ymlaen, fel pe buasai'r gaeaf yn dod i ddweud ei fod wedi tyneru, ac i ofyn cymod. Yn ôl yr oedd hafanau o borfa lâs rhwng creigiau, a'r môr tawel dwfn islaw. Ymlaen wele fynyddoedd a chreigiau mawr, ar ffurf muriau, megis wedi eu codi drwy hud. Ac yr oedd gwenau'r haul yn aros ar flodau gwylltion ochr y ffordd. Ffordd eithaf unig ydyw, yr oedd yn pasio tŷ bychan adfeiliedig o hyd. Yr oedd y tai hyn yn sefyll yn y lleoedd mwyaf dymunol,- dan gysgod craig neu ar lan aber wyllt,- ond y mae eu preswylwyr wedi mudo, mae'n debyg, i'r tai mwd newyddion sy'n codi megis cabanau unnos, o amgylch Cricieth. Gwelsom un fynedfa adfeiliedig hefyd, gyda'r glaswellt yn prysur orchuddio'r graean, fel pe buasai'n arwain at balas anghyfannedd.
Wrth Fron y Gader, troesom o'r ffordd i lecyn caregog, ac yna i lawr i gyfeiriad y môr. Yr oedd yn boeth orlethol, ac araf iawn y teithiem ymlaen. Cawsom ein hunain mewn morfa hir. Braich o'r môr oedd unwaith, mae'n ddi-ddadl, ond llenwodd rhyw afonig fach brysur y gilfach a daear. Yr oedd ffosydd wedi eu torri ar hyd y morfa, ac yr oedd gwair yn ei ystodau yn sychu'n braf. O ganol y morfa cyfyd bryn bychan, bryn fu'n ynys unwaith, ac ar ben y bryncyn gwelem eglwys ddiaddurn. Dyna Ynys Cynhaiarn, ac yn ei mynwent y gorwedd Dafydd y Garreg Wen. Cyfeiriasom ati'n araf ar hyd y ffordd las gwmpasog, tra'r oedd y caeau a'r môr yn ymddangos yn gydwastad,- y naill yn wyrdd a'r llall fel arian byw.
Yr oeddem braidd yn lluddedig, ac ni waeth cyfaddef nad oeddem wedi bwriadu dadluddedu yn Ynys Cynhaiarn uwch ben cwpanaid o dê. Ond och! Nid oes yn Eglwys Ynyscynhearn tua 1830ymyl yr eglwys, nac yn agos, ond beudy to brwyn adfeiliedig. Y mae porth yr eglwys ymron mynd â'i ben iddo, ond y mae rhyw fath o drwsio musgrell wedi bod ar yr eglwys droeon. Morwyr ac amaethwyr sy'n gorwedd yn y fynwent. Y mae rhyw Lywelyn Cymreig yn gorwedd yno, a Charreg o Gernyw, a Mac Lean o'r Alban. Gwelsom fedd pilot wedi boddi, a gwelsom lawer enw prydferth heblaw Llwyn y Mafon. O'r diwedd, yn un o'r corneli agosaf i'r môr, cawsom y bedd yr oeddem yn chwilio am dano. Carreg las sydd ar y bedd hwnnw, ar ei gorwedd, ychydig yn uwch na'r lleill. Ar ben y garreg y mae llun telyn mewn cylch, ac yna yr ysgrifen hon, -
BEDD
DAVID OWEN
neu Ddafydd y Garreg Wen.
y Telynor rhagorol
a gladdwyd 1749,
Yn 29 oed.
Swynai'r fron, gwnâi'n llon y llu — a'i ganiad,
Oedd ogoniant Cymru;
Dyma lle cadd ei gladdu,
Heb ail o'i fath, Jubal fu.
E.O.
Y mae'r bedd yn un o'r rhai mwyaf dinod ymysg y beddau dinod sy'n llenwi'r fynwent hon; ac oni bai am ofal Elis Owen o Gefn y Meysydd, ni fuasai yno garreg o gwbl. Uwch ben bedd y cerddor saif danadl poethion a checs a llysiau bras, anhyfryd eu harogl. Y mae'r fynwent a'r eglwys yn ddarlun o bethau wedi eu gadael. Y mae'r eglwys wedi ei phlastro drosti, heb neb i ofalu am ei phrydferthwch, ac yn wag. Y mae'r fynwent mor anhrefnus â phe buasai pla wedi difa holl drigolion y fro, ac wedi gadael i'r marw gladdu'r marw.
Eto i gyd, nid ydyw'r fan dawel unig heb brydferthwch. Yr oedd un o honom wedi blino, a rhoddwyd ef i gysgu ar fedd Dafydd y Garreg Wen, a'i glust ar y delyn. A glywodd alawon yn ei gwsg, nis gwn. Cerddasom ninnau, y ddau effro, o amgylch y llannerch gysegredig. Gwelsom mai mynwent bedair-onglog oedd, gyda choed yn estyn eu canghennau drosti. O'i hamgylch y mae'r morfa isel, ac yna cylch o fynyddoedd yn edrych dros y morfa arni. Pan oedd yn ynys, yr oedd yn brydferthach nag ydyw'n awr.
Wedi treulio rhyw awr yn y fynwent, yr oeddem yn effro ein tri, ac yn newynog iawn. Troesom yn ôl i'r ffordd, a chyraeddasom Bentre'r Felin. Tê fynnai dau o honom, byddai'n hawdd cerdded ar ei ôl, llaeth fynnai'r llall. Troesom i dy hen ffasiwn a'r enw "Temperance" wrth ben ei ddrws. Tra bo'r tegell yn berwi, buom yn edrych ar lun llongau oedd hyd y mur, ac yn sgwrsio a'r cwsmeriaid oedd yn dod i'r siop pob peth. Yr oedd y cloc awr yn rhy fuan, yr oedd Beibl a llyfr emynau ar y bwrdd, ac yr oedd cylch o addurniadau o amgylch carreg y llawr. Gwnaeth y wraig garedig dê da, ac nid oedd yn esmwyth heb ganlyn arnom i fwyta'n ddi-baid.
Wedi ymgryfhau fel hyn, ail gychwynasom hyd ffordd Porth Madog. Gwelem eglwys Ynys Cynhaiarn ar y gwaelod wedi dringo i fyny bryn ac yna collodd y môr o'n golwg. Teithiasom ymlaen ar hyd y ffordd lychlyd, ac yr oedd yn mynd yn boethach o hyd.
O'r diwedd daeth y lle i droi o'r brif-ffordd i ffordd gwlad. Yna cawsom gysgod hyfryd coed derw bychain, ac yr oedd mantell Fair yn tyfu dan eu cysgod. Arweiniai'r ffordd i fyny o hyd, ac oddi tanom yr oedd nant,- gwyddem ei bod yno oherwydd ei dwndwr mwyn ac oherwydd fod brenhines y weirglodd yn tyfu uwch ei phen. Chyraeddasom ben y golwg, a daethom o'r coed. Yr oedd y tawelwch yn adfywiol annisgrifiadwy,- nid oedd yno ond su pell y môr a sain ambell aderyn mynydd, a gwelem ehedydd yn codi ar ael y goleu. Gwelem gastell Cricieth, a mynyddoedd Llŷn yn y pellter y tu hwnt iddo. A gwelem ein ffordd ninnau'n ymdroelli dros y ffriddoedd a'r bryniau, drwy wlad o greigdir, dros y mynyddoedd oedd rhyngom a'r môr. Yr oedd anadlu'r awyr iach yno yn bleser,- yr oedd arogl grug a rhedyn arni. Yr oedd arnom eisiau bwyd er mai newydd fwyta oeddem. Gwyn fyd, ni a dybiem, y bobl sydd yn byw yn y fro iach hon.
Holasom y ffordd i'r Garreg Wen yng Ngarth Morthin, ac wedi dringo aml fryn serth cyraeddasom eglwys Treflys. Saif yr eglwys fechan hon yng nghanol caeau gwair, heb na thŷ na thwlc yn agos ati, a buom yn crwydro tipyn o'i hamgylch cyn darganfod llwybr troed i fynd ati. Y mae golwg newydd iawn ar yr eglwys ac ar y beddau; yr oedd y fynwent yn debycach i fynwent ar hanner ei gorffen nag i hen un. Gwelais lawer pennill ac englyn trawiadol. Dyma bennill oddi ar fedd merch Braich y Saint, —
"Gorffwysodd, gadawodd yr anial ar ôl,
Tu draw i'r Iorddonen y glaniodd;
A'r Iesu dderbyniodd ei hysbryd i'w gol,
Can's ffyddlon yw'r hwn a addawodd."
Dyma englyn, hefyd, am y Cristion,—
"Os tan y gist mae'r Cristion,neu—ei ddu fedd
Sydd fel man-blu'n union:
Mae rhyw fwynhad mawr fan hon
Yng nghlyw su engyl Seion."
Gu ŵr, rhawg erys ar go'i ragoriaeth,
Cywirdeg ydoedd, caredig odiaeth;
O Seion o'i ôl cyfyd sŵn alaeth,
Am ei llawn noddwr trwm yw Llenyddiaeth,
Am wawr hoffrudd, am air ffraeth - Bardd Treflys
Drwy Eifion erys diderfyn hiraeth.
Y mae'r olygfa o fynwent Treflys yn ogoneddus. Y mae mynyddoedd Llŷn, Arfon, a Meirionnydd yn gylch am dani ac y mae un bwlch yn y cylch, a môr glas pell sydd yn y bwlch hwnnw. Buom yn eistedd ar y llethr, ar gae adlodd, i synnu at yr olygfa, ac ni cheisiaf fi ei darlunio. Daeth dyn heibio, a ddangosodd dalcen y Garreg Wen, draw ymhell, dros ddyffryn a gwastadedd.
Yr oedd y dydd yn mynd, a'n ffordd ato'n hir. Aethom i lawr gorau gallem hyd y caeau serth i'r Morfa Bychan, lle agored ystormus, gydag ychydig o ddefaid yn blewynna hyd dwmpathau grugog dyfai yma ac acw yn y tywod. Ond dipyn oddi wrth y lan, yr oedd caeau gwastad fel bwrdd, dan wenith tonnog. Wedi taith flin gadawsom y môr, a daethom at lyn ar ochr y ffordd, a lili'r dŵr ar ei ymylon. Oddi wrth y llyn arweiniai ffordd dywodlyd i fyny at dy gwyn ar y fron. Dringasom i fyny, heibio i ffynnon o ddyfroedd clir. Daethom at gefn y tŷ, ac yr oedd geneth fach yn cychwyn i hel y gwartheg.
"Ai hwn ydi'r Garreg Wen?"
"Ie, mae meistres yn y tŷ."
Gyda'r gair daeth gwraig ieuanc i'r drws, a dywedodd fod croeso inni weld y tŷ. Gwelodd fod yr ieuengaf o honom wedi blino. Daethom yn ffrindiau mawr, ac ni chawsom fwy o groeso yn unlle erioed. Yr oedd y gwartheg yn y fuches, ond cawsom dê dan gamp. Yna cawsom weled holl ystafelloedd cartref y telynor. Hen amaethdy clyd ydyw'r Garreg Wen. Tŷ hir ydyw, a'i dalcen i'r graig, yn un uchder llofft. Y mae adeiladau o'i gwmpas bron ym mhob cyfeiriad, a gerddi fel pe ar silffoedd craig, a choed ffrwythau. Oddi amgylch tyfa gwynwydd a phys llygod a phob blodeuyn gwyllt. A thraw wrth gefn y tŷ y mae craig,- hwyrach mai hon ydyw'r Garreg Wen,- yn cysgodi'r tŷ rhag gwynt yr ystormydd. Yr oeddwn wedi clywed mai wrth garreg ar ben y mynydd y cyfansoddodd Dafydd "Godiad yr Ehedydd." Dywedwyd wrth enethig am ddod gyda fi i ben y caeau i ddangos y garreg. Yr oedd yr olygfa'n ehangu o hyd wrth i ni ddringo o gae i gae, a dyma ddiwedd sgwrs fu rhwng yr enethig a minnau,--"
"Fedri di ganu?"
"Medra."
"Fedri di ganu 'Dafydd y Garreg Wen' i mi? Neu 'Godiad yr Ehedydd'?"
Edrychodd y plentyn yn syn arnaf.
"Wyt ti ddim yn dysgu canu yn yr ysgol?"
"Ydw."
"Wyt ti'n dysgu canu Cymraeg?" "O nag ydw!"
"A ddysgodd neb erioed i ti ganu alawon Dafydd y Garreg Wen, a thithau'n byw yn yr un wlad a fo?"
"Naddo."
"Be fedri di ganu?"
Little Ship a Gentle Spring.
Yr un dystiolaeth brudd wyf yn cael ymhob man yng Nghymru. Mae cartref enwog yn ymyl y plentyn,- lle cyfieithwyd Gair Duw i'w iaith, lle rhoddwyd ar gân ryw wirionedd wareiddiodd ei gyndadau, lle daliwyd rhyw alaw nefolaidd i buro a diddanu meibion dynion byth mwy,- ond, druan bach, ni wyr ef ddim am danynt. Feallai fod ei athro neu ei athrawes heb fedru ei iaith, ac felly'n hollol anghymwys i'w ddysgu. Feallai, mewn ambell i ran o'r wlad, fod ei athro yn Gymro, ond rhy anwybodus i ddysgu dim iddo am ei wlad ei hun, ac yn rhy ddi-athrylith i weled gogoniant llenyddiaeth Cymru. Dysgir alawon yn yr ysgolion, ac eto ceir ardaloedd cyfain lle nas gall y plant ganu "Llwyn Onn." Rhaid fod rhyw swyn anghyffredin yn alawon Cymru, yn ogystal ag yn ei hiaith, onide buasai galluoedd Philistaidd y byd hwn wedi eu llethu er's llawer dydd. Y Llywodraeth, yn credu fod yr iaith Gymraeg yn drafferth i'w swyddogion tâl; arolygwyr, wedi rhoddi eu câs ar iaith nas gallant ond ei hanner siarad; athrawon, wedi dad-ddysgu Cymraeg da wrth ddysgu Saesneg sâl,- neu heb fedru erioed ond y Saesneg sâl yn unig; goruchwylwyr anwybodus, yn credu fod nef a daear yn agored i'w plant os medrant ddeall Saesneg bratiog porthmyn Caer,— druan o eneidiau plant Cymru rhyngddynt oll.
Chyraeddasom y garreg. Carreg fawr ydyw, ar ben cae glas. Dywed yr hanes fod Dafydd yn dod adref o Hafod y Porth ar lasiad y bore. Yr oedd yr haul yn dechrau goreuro y mynyddoedd gogoneddus acw, ac yr oedd eangderau y môr yn y golwg. A chododd ehedydd bach uwchlaw'r coed, ac arllwysodd lawenydd y bore mewn can. Rhoddodd Dafydd ei delyn i lawr wrth y garreg hon, a chyfansoddodd "Godiad yr Ehedydd."
Wedi cyrraedd y Garreg Wen yn ôl yr oedd gwahoddiad cynnes i ni aros noson. Ond yr oedd yn rhaid prysuro ymaith. Cerddasom yn brysur tua Phorth Madog, ar hyd rhiwiau lawer. Gwelsom lawer hafan brydferth, ac aml gip ar y Traeth Mawr a Chastell Harlech rhwng y coed. Yr oedd tri yn prysuro trwy ystryd hir Porth Madog, a chyda i ni eistedd yn y trên, yr oeddem yng Nghricieth yn ôl. Teimlad dedwydd, wrth gysgu ar lan y môr y noson honno, oedd y teimlad ein bod wedi gweled bedd y telynor ac wedi bod yn y Garreg Wen.