Telyn Dyfi/Y Balch a'r Gostyngedig

Brwydr Gilboa Telyn Dyfi

gan Daniel Silvan Evans

Emyn Cennadol Heber


XXXVII.
Y BALCH A'R GOSTYNGEDIG.

'Y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ac yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.'—Iago iv. 6.

IOR y nef a wena'n siriol
Ar y sawl sy'n gwneyd ei gais,
Ar y truan a'r cystuddiol
Sydd yn crynu wrth ei lais:
Edrych gyda Dwyfol ddirmyg
Ar wageddau beilchion byd,
A dyrchafa'r gostyngedig
Uwch eu holl ofidiau i gyd.

Gwrthwynebu'r rhai hunanol
A'r ymffrostwyr ffol y mae;
Rhoi i'r tlawd gyfodiad grasol,
Gan ei wared o bob gwae;
Codi'r isel o'r tomenau,
Gostwng cyfoethogion fyrdd:
Pwy a ddirnad drefn ei lwybrau?
Anchwiliadwy yw ei ffyrdd.


Nodiadau

golygu