Telynegion Maes a Môr/Coelcerthi'r Bannau

Gŵyl a Gwaith Telynegion Maes a Môr
Telynegion Cymru
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Cymru
O Cadwn Uchelwyl

COELCERTHI'R BANNAU.

(Hwyr yn Ionawr; goddeithio ar y mynyddoedd; hynny'n awgrymu'r gân.)

Dacw goelcerth ar Eryri,
Gwenfflam lygad yn y gwyll!
Chwiliwch, dadau, am y gwayw,
Chwiliwch, lanciau, am y cyll;
Doed a ddelo, rhaid yfory
Gadw erwau'n bro a'i braint;
Hawl gwladgarwch fyth yw gofyn
Gwaed y byw dros lwch y saint.

Dacw'r Moelwyn Mawr yn galw,
Dacw fflam yn ateb fflam!
Mae pob mynydd yn deimladwy,
Oni ddial Cymru'r cam?
Gaiff yr allfro ffordd yr elo
Gwympo'n cestyll hyd y llawr?
Beth a wnewch chwi yn yr ogof
Fintai segur Arthur Fawr?

Dacw goelcerth gwŷr Ardudwy
Fel yn troi y môr yn waed!
Iorwerth —Harri —pwy yw'r brenin?
Pa ddyhirwch ganddo wnaed?
A wnawn a ni yn Gymry,
Oddef hyn heb ei wahardd?
Drodd y delyn yn fradwrus,
Neu a wywodd llaw y bardd?


Dacw dafod gwahanedig
Eto ar yr Eifl yn Lleyn!
Rhaid i'n dwylo fod yn llawer,
Rhaid i'n hergyd fod yn un;
Na foed neb yfory'n fradwr,
Rhag i'w blant felltithio'r dydd;
Gwell na byw yn ddynion arwerth,
Fyddai syrthio'n ddynion rhydd.

Cynnau allan mae'r coelcerthi —
Llosgi'n llwch o un i un;
Ond ni chlywaf heno gyffro
Gwŷr rhyfelgar ar ddihun;
Ac ni ddilyn hirllais utgorn
Neb i gasglu'r dewr ynghyd, —
Mae'n goleuo ar ein Hanes,
Os yw'n nosi ar y byd.