Telynegion Maes a Môr/Gŵyl a Gwaith
← Os wyt Gymro | Telynegion Maes a Môr gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Coelcerthi'r Bannau → |
GWYL A GWAITH.
Mae'n ddydd uchelwyl o Went i Fôn,
Mae'r hen alawon ar fin a thant;
Ac is ei nennawr pob Cymro'n sôn
Am liw'r genhinen, am Ddewi Sant;
Ond nid gwladgarwch yw cynnal dydd,
Undydd mewn blwyddyn, i ganu cân—
Gwnewch Gymru heddiw'n lân ac yn rhydd,
A gwnewch hi yfory yn rhydd ac yn lân.
Mae'n ddydd uchelwyl, yn llawen ddydd,
Mewn tre' a phentref, pentref a thre';
Ac er yn llawer, un enw sydd
Ar fin y Gogledd, ar fin y De;
Ond nid gwladgarwch yw cynnal gwledd,
A dweud " Fy nghenedl, fy iaith, fy ngwlad," —
Glanhewch y byrddau o'r gwin a'r medd,
Ac na foed wehelyth i Drioedd Brad.
Mae'n ddydd uchelwyl, a phawb yn sôn
Am liw'r genhinen, am Ddewi Sant;
Cenir alawon o Went i Fôn,
G:an wŷr a mamau, mamau a phlant;
Ond gwell gwladgarwch yw bod yn un
Mewn tref a phentre', pentre' a thref, —
Gwneud Cymru'n burach iddi ei hun,
A'i gwneud yn ffyddlonach i'w Sant a'r Nef.