Telynegion Maes a Môr/Ebrill

Mawrth Telynegion Maes a Môr
Telynegion y Misoedd
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion y Misoedd
Mai

EBRILL.

I.


MEDD y bardd yn wyn ei fyd —
"Wele Ebrill glas ei lygad ";
"Wele Ebrill," medd y byd,
Trwy ei flodau hanner —caead.

Ti, freuddwydiwr, gwrando, saf,"—
Medd aderyn yn y berllan;
Cana lawen garol haf,
Wedi gŵyl o flwyddyn gyfan.

"Fardd y blodau, wele fi " —
Medd briallen yn y cysgod;
Hoff gan bawb ei hwyneb hi,
Blentyn llonnaf haul a chawod.

Yn y galon, yn y pridd,
Nid yw bywyd fud na byddar;
Dywed cân a llygaid dydd
Deimlad dyfnaf dyn a daear.

II.


Pwy fu neithiwr hyd y ddôl,
Mewn sandalau aur ac arian?
Pwy fu'n galw'r dail yn ôl,
Ac yn llithio'r blodau allan?


Gyda'i dylwyth teg y daeth
Heibio eleni fel y llynedd;
Gwyn ei lwybr fel y llaeth —
Mwyn ei dymer fel rhianedd.

Cân mwyalchen yn yr ardd,
Rhwng y blagur ar y perthi;
Gydag Ebrill pwy na chwardd?
Ber yw'r gawod—hwy yw'r glesni.

Gad dy do, dy wyneb cul,
Tro i wrando cainc mwyalchen;
Onid gwell yw cân na chnul?
Calon iach yw calon lawen.

Cyfod, heuwr, dos i hau,
Oni weli seithliw'r enfys?
Ni ddaw bendith o nacáu,
Ni ddaw bara i esgeulus.

Gŵr el allan cyn y wawr,
Pan fo'r briall yn eu tymor,
Fed ei faes ar decach awr —
Gasgl ei wenith i'w ysgubor.

III.


Glas yw wybyr Ebrill,
Glas fel llygad Men —
Mae enfys ar y cwmwl,
A blagur ar y pren;

Croeso fis diferion
A phelydr bob yn ail;
Tyred gyda'th flagur,
A thyred gyda'th ddail.

Gwyn yw wyneb Ebrill,
Gwyn gan lygaid dydd;
A pha sawl llwyn briallu
Ym min y ffordd ymgudd?
Croeso fis y meillion,
A mis yr oen a'r mynn;
Tyred yn dy felyn,
A thyred yn dy wyn.

Gwin yw awel Ebrill —
Pob aderyn ŵyr,
O'r hedydd gan y bore,
I'r mwyalch gân yr hwyr;
Gwyn dy fyd, aderyn,
A thithau bren a dardd;
Gwyn fyd pawb a phopeth
Ond calon brudd y bardd.