Telynegion Maes a Môr/Mawrth
← Chwefror | Telynegion Maes a Môr gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Ebrill → |
MAWRTH.
BETH a welais ar y lawnt,
Gyda, wyneb gwyn, edifar?
Tlws yr eira, blodyn Mawrth,
Wedi codi yn rhy gynnar.
Beth a welais ar y llyn,
Rhwng y dwfr a brig yr onnen?
Lliw a modrwy brithyll Mawrth —
P'le mae'r enwair, p'le mae'r bluen?
Beth a welais ar y twyn?
Wyneb oen, y cynta eleni:
Onid oen yw Mawrth ei hun
Pan fo'r wyn yn cael eu geni?
Beth a welais yn y dref?
Mynwent gyda'i phorth yn ddatglo;
Aed y claf o'i dŷ ym Mawrth,
Ni ddaw'n ôl i gysgu yno.