Telynegion Maes a Môr/Ora Pro Nobis
← Priodas Hun | Telynegion Maes a Môr Telynegion Bywyd gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) Telynegion Bywyd |
Ora Pro Nobis (cyfieithiad) → |
ORA PRO NOBIS
MAE'R curwlaw yn dallu
Ffenestri fy nhŷ,
A thymestlwynt Tachwedd
A gyfyd ei ru;
Mae cedyrn y derlwyn
Yn siglo i'w gwraidd,
A brefu am loches
Wna ychen a phraidd-
Ein Tad, cofia'r adar
Nad oes iddynt gell;
Mae'r eira mor agos,
A'th haf Di mor bell.
Mae'r gorlif yn ddisglair
Hyd wyneb y fro;
A gyr y cymylau
Fel gwersyll ar ffo;
Gan ergyd y ddrycin
Fy mwthyn a gryn;
Gwell aelwyd na heol
Ar noson fel hyn —
Ein Tad, cofia'r arab
A gwsg tan y lloer;
Mae'i wisg ef mor denau,
A'th wynt Di mor oer.
Mae'r ewyn yn wyn
Ar y mordraeth gerllaw —
Cyn wynned dalen
Y llyfr yn fy llaw —
A hed y gylfinhir
Fel cri trwy y nef,
Gan ofn y rhyferthwy,
A'i ddicter ef.
Ein Tad, cofia'r morwr
Rhwng cyfnos a gwawr;
Mae'i long ef mor fechan,
A'th fôr Di mor fawr.