Testament yr Heuwr

Y Bedol Testament yr Heuwr

gan Robin Llwyd ab Owain

Claf o Gariad
Cyhoeddwyd gyntaf yn Barddas, Chwefror 1987. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.



Rwy'n hen, cyn dyfod henaint.
Rwy'n darfod cyn dyfod haint.

Nid fy eiddo i yw medi'r mor o yd.
Mae tymor i'r hadau a thymor i'r hafau hefyd.
Fi biau bywyd!
Y bywyn - nid y grawn crin - sy'n llunio llinach.
Gwynnach i mi na'r sypiau gwenith yw lledrith y llaw
sy'n hau i alaw a chyfalaw y glaw a'r gwynt yn y glyn.
Ar ben rhyw dalar unig o'r ddaear
lle nad yw'r braenar yn brin
edwinaf cyn dyfod henaint.

A gwelaf fyddin o felinwyr a medelwyr y diawl
yn hawlio cynhaeaf melyn y peiswyn a'r grawn,
fel Pwyll a'i gwn yn sbeilio pill y gwanwyn,
fel eigionau o lygod yn mwynhau yd Manawydan
neu genfaint o foch yn rhochian ar y tir rhent.
Tyrent yn fwlturaidd eu byd eiddig
i fedi bywyd heddiw, a dwyn yr yd
a chnwd anrhydedd.

Och! Saith och!
Nid yn yr adwy y safent hwy ('Seintiau' ein hoes!)
ond ar hen lorpiau'r drol
yn gwichian mewn cyfeddach losgachol.

Och! Saith och!
Chwythu a thuchan gan ddwyn y gwanwyn,
gan foddi'r haf,
gan feddwi'r hil.

Ond dyna fo!
Nid fy eiddo i yw medi'r mor o yd.
nnyd hirfaith cyn darfod ohonof
i gofio'n gyfan y cyfanwaith - y gwaith yn y gwynt,
y gwynt a'r glaw;
dwy law'n pendilio had,
dwy fraich yn adfer hil,
fy maich yn trymhau a thrymhau
a had tynghedu oedd ddoe'n blu
heddiw'n blwm.

Heddiw, fy ngwen yw f'eiddo.

Rwy'n hen, cyn dyfod henaint.
Marw'r rwyf, a hyn yw 'mraint.