Thomas Matthews, Cymru, Chwefror 1917
← | Thomas Matthews, Cymru, Chwefror 1917 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Breuddwydion Cerflunydd → |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Teitl (testun cyfansawdd) |
THOMAS MATTHEWS.
(Cyhoeddir y darlun trwy hynawsedd golygydd a chyhoeddwyr y Brython.)
CYMRU.
CHWEFROR, 1917.
THOMAS MATTHEWS.
"Y da wneir ydyw ein hoes,
Ac wrth hyn bydd gwerth einioes."
YM mhlith cymwynaswyr Cymru a hunasant yn ystod y flwyddyn ddiweddaf haedda Thomas Matthews le anrhydeddus. Ni fu neb yn fwy teilwng o'r enw gwladgarwr nag ef, ac o'r ffaith hon y mae darllenwyr CYMRU yn brofedig, canys ar eich tudalennau yr arllwysodd ef ei galon yn fwy mynych efallai, ac yn sicr yn fwy rhydd, nag mewn unman arall. Ac yn wir, i'r rhai sydd wedi darllen yn ofalus ei aml gynhyrchion yn y cylchgronau, y mae calon a meddwl Tom Matthews yn hysbys ddigon, oherwydd o helaethrwydd ei galon llefarai yn wastad. Anfynych yr ysgrif ennai er mwyn cyfrannu addysg yn unig; proffwyd ydoedd a neges ganddo i'w thraethu i'w wlad. Yr oedd wedi cael gweledigaeth a threuliodd ei nerth allan wrth geisio gwneud pawb i gyd-gyfranogi ag ef o'r goleuni.
Bywyd efrydydd a llenor oedd ei fywyd ef, heb fawr o'r rhamantus ynddo na dyddordeb ond i'r rhai sydd am sylwi ar fachgen o Gymro yn ei ymdrech am wybodaeth ac ar ddatblygiad graddol o'i alluoedd.
Ganwyd Thomas Matthews yng Nglanwendraeth, Llangyndeyrn, sir Gaerfyrddin, ar y 3ydd o Fedi, 1874, yn fab i Mr. Robert Matthews, ysgolfeistr; ond symudodd ei rieni yn nechreu 1876 i Landybie, yn yr un sir, pan nad oedd Tom ond ychydig dros flwydd oed. Felly Llandybie oedd ei gartref erioed i'w ymwybyddiaeth ef, a Llandybie fu ei gartref hyd y diwedd. Gorwedda y pentref mewn llannerch agored hyfryd yn amgauedig tua'r gogledd gan drumiau o gerrig calch, trwy y rhai y gwthia yr afon fach Morlais ei ffordd, ar hyd dyffryn llydan, i'r Llwchwr. Y mae amlinell ramantus yr uchel- diroedd sydd yn cuddio mewn dirgelwch y gororau tuhwnt, a'r dyffryn cyfoethog sydd yn agor tua'r dehau, yn uno ffurfio golygfa hynod o swynol hyd yn oed i lygad sydd gynefin â thlysni cymoedd Cymru, ac y mae'r olygfa yn awgrymiad- ol o athrylith Thomas Matthews. Yr oedd ei feddwl yn gyfoethog o adnoddau, ond yr oedd wedi ei amgylchynu gan ddelfrydau dros y rhai, gyda llygad cyfrin, y syllai ar yr anweledig. Yma yn Llandybie tyfodd i fyny fel llawer bachgen arall yn y wlad, gyda dyheadau wedi eu hennyn a'u porthi gan ddylanwadau cartref diwylliedig, ond heb y cyfleusterau anghenrheidiol i'w sylweddoli. Ond yr oedd ei dad yn ysgolfeistr, ac yr oedd greddf y bachgen ar ddiwylliant, a'r unig ffordd oedd yn agor y pryd hwnnw iddo i'w sicrhau oedd myned yn pupil teacher. Felly gwasanaethodd ei brentisiaeth fel athraw yn yr Ysgol Genedlaethol dan lygaid ei dad. Bu yn ffodus yn ei ddewisiad o'i alwedigaeth, ac yn yr amgylchiadau dan y rhai y dechreuodd ar ei waith. Y fendith ddaearol fwyaf i bob dyn yw ymwybyddiaeth ei fod yn y gwaith y mae wedi ei gyfaddasu iddo, ac amcan pob gwladwriaeth ddylai fod i sicrhau datblygiad neilltuol pob un o'i deiliaid. Hyn oedd gogoniant Athen: nid yn unig yr oedd wedi agor y ffordd i ddatblygiad rhydd pob math o dalent yn ei dinaswyr, ond wedi gwneud yn bosibl hefyd i bob dinesydd ddatblygu yn ol ei natur ei hun. Dyma'r nod at yr hon yr ydym ninnau yn cyrchu, ond hyd yn hyn nid ydym wedi ei gyrraedd o bell ffordd. Hyd y blynyddoedd diweddaf hyn nid oedd manteision addysg yn gyrhaeddadwy i'n bechgyn athrylithgar ac uchelgeisiol, fel ag yr oedd o fewn cyrraedd y Sais neu'r Ysgotyn ieuanc. Bu adeg yn ein hanes pan nad oedd i Gymro ieuanc talentog unrhyw ddrws agored ond drws y pulpud, ac yn y pulpud Cymdeig caed, nid yn unig y pregethwr, ond yr ysgolhaig, y gwyddonydd, yr athronydd, y bardd, ac ond odid y newyddiadurwr hefyd. Bu'r pulpud yn ddiameu ar ei ennill trwy hyn, ond colled fu i dyfiant diwylliant ar y cyfan; ac os enillodd mewn nerth, collodd mewn eangder ysbryd. Y perygl yn ein dyddiau ni yw i'n bechgyn gael eu denu i'r alwedigaeth athrawol heb unrhyw gyfaddaster at hynny.
Ond fe gafodd Matthews ieuanc ei hun mewn gwaith ag oedd wrth fodd ei galon, a thrwy ei ynni a'i ddiwydrwydd enillodd ar derfyn ei gwrs yn yr ysgol elfennol Ysgoloriaeth ac Exhibition yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Bu yn efrydydd diwyd a llwyddiannus yno, ac ar derfyn ei dymor graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd yn yr iaith Saesneg, a chafodd yr un pryd dystysgrif y Bwrdd Addysg o'r radd flaenaf. Nid oedd hyd yn hyn wedi gwneud amgenach na channoedd ereill o'i gyd—efrydwyr; gweithiodd yn ffyddlawn ar y gwaith osodwyd iddo, ond nid oedd hyd eto wedi darganfod prif waith ei fywyd.
Pan adawodd y Coleg yn 1900, ar ol bod yn athraw am beth amser yn Ysgol Sir Pwllheli, aeth i Resolven, lle bu yn cyfrannu addysg yn y Pupil Teachers' Centre am ryw dair blynedd. Yn 1905 symudodd i Abergwaun, sir Benfro, i fod yn athraw yn yr Ysgol Sir, ac yno arhosodd hyd 1908. Nid oedd hyd eto wedi clywed llais llenyddiaeth ei wlad yn galw arno, ond y mae yn eglur mai nid oherwydd unrhyw ddiofalwch nac esgeulustra o'i eiddo ef yr oedd hynny. Cadwodd ei ddyddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg yn ddidor, ac fel canlyniad i'w efrydiaeth yn Abergwaun enillodd y radd M.A. yn yr iaith honno ym Mhrifysgol ei wlad. Ni chyfyngodd ei egnion yno chwaith i'w efrydiau a'r ysgol. Dechreuodd gymeryd dyddordeb mewn Freemasonry—yr oedd gan bethau cyfrin swyn neilltuol iddo yn wastad. Llwyddodd, gydag ereill o'r unrhyw chwaeth ag ef ei hun, i sylfaenu yn y dref honno gyfrinfa o'r brodyr hyn, ac anrhydeddwyd ef ganddynt trwy ei osod yng nghadair Meistr y Gymdeithas. Bu hefyd yn weithgar iawn gyda'r Milwyr Gwirfoddol y Volunteers—a gwasanaethodd am beth amser fel swyddog yn eu plith.
Beth bynnag, nid oedd y pethau hyn ond megis arwyddion o'r ynni cynhenid oedd ynddo a'i anesmwythder meddyliol. Yr oedd wedi casglu llawer o wybodaeth. ac wedi myfyrio yn ddibaid, ond nid oedd hyd yn hyn wedi cael gweledigaeth eglur ar unrhyw amcan neilltuol i'w fywyd. Yr oedd yr allor wedi ei hadeiladu a'r coed wedi eu casglu: ond pa le yr oedd y tân? Tua'r adeg hyn debygwn daeth yr alwad ag oedd ei enaid yn ddiarwybod iddo ef yn dyheu am dani, ac edrydd golygydd CYMRU yr hanes yn rhifyn Tachwedd. Dihunodd ei ysbryd i weled ceinder gwerth llenyddiaeth a hanes ei wlad, a chyneuwyd tân yn ei fynwes i fynegu'r datguddiad a gafodd, a llosgodd yn eirias hyd ddiwedd ei oes. Teithiodd, llafuriodd, dioddefodd er mwyn ennill gwybodaeth, a'r oll er mwyn gallu cyfrannu i'w genedl a "chodi'r hen wlad yn ei hol." Gadawodd ysgol Abergwaun er mwyn cysegru ei hunan i wneud ymchwiliadau mwy trwyadl yn hanes a llenyddiaeth Cymru, ac i'r perwyl hynny cyfeiriodd ei gamrau i Baris. Ym Mhrifysgol Paris ac yn rhai o lyfrgelloedd y brifddinas y mae toraeth o hen ysgrifeniadau yn dal perthynas â Chymru, a rhaid dwyn y rhai hyn i'r golwg cyn y gellir deall yn iawn lawer tro yn ein hanes. Dyma'r gwaith y cysegrodd Thomas Matthews ei hun iddo, a bu wrthi yn ddyfal am fisoedd lawer. Tra yn aros ym Mharis daeth i adnabyddiaeth agos a'r cylch diwylliedig o Lydawiaid oedd yn preswylio yno, a bu eu cyfeillgarwch yn gefnogaeth werthfawr iddo. Yr oedd y cylch hwn o gyfeillion wedi eu meddiannu gan yr ysbryd cenhedlaethol, ac yn weithwyr diflino dros les— iant eu talaeth. Ynddynt cafodd Matthews gynhorthwy gyda'i efrydiau Celtaidd, a chalonnau o'r un natur ag ef ei hun, ac enillodd yn eu plith gyfeillion twym—galon, y rhai a'i dilynodd hyd ei fedd. Ar ei ddychweliad i Gymru cyhoeddodd ffrwyth ei lafur mewn llyfr sylweddol yn dwyn y teitl "Welsh Recordsin Paris."
Y mae gwaith arloewsyr—pioneers—— yn wastad yn agored i feirniadaeth lem gan rai a eisteddant yn gysurus ar eu haelwydydd gartref, a dilys gennym fod rhai pethau yn y llyfr hwn heb fod uwchlaw beirniadaeth. Tebyg ei fod yn dangos llaw y prentis yn rhy eglur, ond cofier mai ei brentiswaith oedd, a dylid ei werthfawrogi am y gwaith da sydd ynddo, gwaith ym marn un sydd yn alluog i farnu, nas gall yr un efrydydd o hanes Cymru ei adael heb ei chwilio." Diau y buasai yn well, er mwyn clod yr awdwr, pe buasai yn cymryd mwy o amser ym mharatoad ei lyfrau a'i erthyglau, ond nid ei les ei hun, na'i glod ei hun, oedd mewn golwg ganddo, ond lles ei genedl, ac mor fuan ag yr enillai unrhyw ysglyfaeth byddai am rannu'r ysbail gyda'i frodyr.
Y mae yn debyg mai tua'r adeg hon y dechreuodd deimlo dyddordeb neilltuol yn y celfau cain, a naturiol i ni yw meddwl mai wrth gerdded trwy blasau y Louvre. a'r Luxembourg ym Mharis, ac wrth syllu ar ysblanderau eu cyfoeth cain, y dihunodd ei enaid i weled byd newydd eto. Pa fodd bynnag am hynny, cawn ef yn fuan ar ol cyhoeddi ei lyfr ar y "Records" yn cyfeirio ei gamrau tua Rhufain. Rhyfedd y fath gyfaredd sydd yn yr enw Rhufain i efrydydd hanes a'r celfau cain! Hi fu yn ffynhonnell cyfraith a gwareiddiad i Orllewin Ewrop, ac ynddi hi y mae eto y drysorfa fwyaf cyfoethog o bob math o bethau cain. Ati hi ynte atdynnwyd Thomas Matthews i dorri ei syched am wybodaeth. Pa fodd y cafodd ddigon. i dalu ei dreuliau yno nis gwn, canys nid gŵr cyfoethog oedd. Ond yn anaml y mae diffyg golud wedi lluddias un sydd a'i fryd ar wybodaeth. Yn wir cofus gennym i Syr William Osler, y meddyg enwog, ddweyd yn ddiweddar wrth nifer o efrydwyr meddygol mai y prif anghenrhaid i lwyddiant yn eu galwedigaeth hwy oedd tlodi. Y cymorth hwn oedd wrth law Matthews, ac os oedd bwrdd ei lety wedi ei hulio yn brin, cafodd wledd o basgedigion breision a gloew-win puredig yn y Fatican, y Museums ac eglwysi dirifedi Rhufain. Ymddengys iddo gael llythyr cymeradwyaeth at awdurdodau llyfrgell y Fatican oddiwrth y diweddar Esgob Hedley o Gaerdydd, ac i'r llythyr fod o help mawr iddo yn ei ymchwiliadau, gan iddo agoryd llawer drws i Tom Matthews, y rhai hebddo fuasai yn gaead yn ei erbyn am byth.
Yn Rhufain daeth hefyd ar draws gweithiau John Gibson, Penry Williams, ac ereill o Gymru, a thaniwyd ei enaid ag awydd am wneud eu gorchestion ym myd y cain yn adnabyddus i'w gydwladwyr. Bu yn ffodus iawn i ddod o hyd i hunan-fywgraffiad John Gibson, yr hwn a ysgrifennodd mewn ffordd o lythyrau at gyfeilles iddo yng Nghymru, Mrs. Sandbach, o Hafod-un-nos, a chyhoeddodd ef gydag ychwanegiadau o eiddo ei hun mewn cyfrol ddestlus wedi ei harddu ddarluniau o gerfluniau Gibson. Cyfrol ydyw o waith gonest a galluog, ac o berthynas i'w defnyddioldeb nis gall fod dau feddwl. Bydd hanes y bachgen tlawd o Gonwy yn ymdrechu yn nerth ei athrylith yn erbyn byd o rwystrau, ac yn cyrraedd yr enwogrwydd uchaf trwy diwydrwydd dihafal bron, yn ysbrydiaeth ac yn gymorth i'r oesau a ddaw. Dichon i efrydiau Mr. Matthews ynglyn a'r celfau cain yn Rhufain roi gogwyddiad penderfynol i'w feddwl, oherwydd o hynny ymlaen cawn ef yn rhoi mwy a mwy o'i sylw iddynt, er na adawodd feusydd llenyddiaeth bur yn hollol. Ei brif amcan yn awr oedd llanw'r bwlch mawr ag sydd yn ein llenyddiaeth Gymreig trwy ddwyn i'r golwg gynhyrchion Cymry y rhai oeddynt hyd yn hyn ynghudd, ac i greu yn ein plith fwy o ddyddordeb yn y cain fel datguddiad o natur a gwell deall am ei werth. Ond yn anffodus rhaid oedd iddo dalu'r deyrnged a ofynnir gan Rufain oddiwrth y dieithr ddyn a fyddo o fewn ei phyrth: ymosodwyd arno gan y malaria, ac er iddo gael adferiad digonol oddiwrtho i fod yn alluog i ddychwelyd gartref, dioddefodd oddiwrth ei effeithiau tra fu byw. Ond nid oedd yn bosibl atal ei weithgarwch, ac er na chafodd iechyd cryf ymroddodd â'i holl egni i efrydu ac ysgrifennu. Yn 1911 apwyntiwyd ef yn athraw mewn Cymraeg yn Ysgol Lewis, Pengam, a bu yn y swydd hyd ei farwolaeth. Taflodd ei hunan i'w waith gyda'r brwdfrydedd mwyaf, a buan y gwelwyd ol ei lafur yn y dyddordeb gynhyrchwyd yn ei ddisgyblion. Ond nid oedd yn foddlon ar wneud gwaith ynglŷn a'i ddosbarthiadau yn unig: rhedodd ei weithgarwch i bob cyfeiriad. Y gwir yw iddo yn y blynyddoedd olaf or-weithio, fel pe buasai yn ymwybodol mai byrr fyddai ei hoedl ar y ddaear, a bod yn rhaid iddo wneud y gore o honi. Ond nis gadawodd i'r gorchwyliou hyn i ymyrryd mewn modd yn y byd a'i ddyledswyddau fel athraw: ni fu neb yn fwy cydwybodol nag ef yn ei waith yn yr ysgol. Dygodd i'w waith brif anghenraid athraw efallai, sef cariad ato ac at ei ddisgyblion. Enynnodd sel ynddynt tuag at iaith a llenyddiaeth eu gwlad, a chefnogodd hwynt i gynhyrchu gwaith eu hunain, ac yn enwedig i roi gwerth ar draddodiadau eu tadau a'r llên gwerin oedd yn eu mysg. Dan ei ysbrydiaeth ef casglwyd toreth o'r defnyddiau hyn, a chyhoeddwyd detholiad o honynt mewn llyfryn bychan yn dwyn yr enw "Llên Ġwerin Blaenau Rhymni." Argraffwyd mil o gopiau a gwerthwyd yr oll yn fuan. Gwnaeth gasgliad hefyd o Farddoniaeth ar gyfer Ysgol Lewis, Pengam," gan roi ynddo nid yn unig enghreifftiau o weithiau beirdd enwocaf ein hiaith, ond hefyd ddetholiad o weithiau beirdd y gymydogaeth, er mwyn creu yn y bechgyn edmygedd at eiddo eu hardal eu hunain. Ar ben y rhestr safai Islwyn bid sicr, ond cymer Ossian Gwent, Twynog, Ieuan ab Iago, Ogwy, ac ereill, le anrhydeddus hefyd. Bu yn weithgar iawn gydag Eisteddfod yr Ysgol, ac efe fu meistr cyntaf y Boy Scouts. Dan ei ofal ef buont yn gwersyllu yn Nyfnaint un flwyddyn, a blwyddyn arall ym Mhorth y Gest gerllaw Porthmadog. Yn ychwanegol at hyn oll yr oedd o hyd yn brysur gyda'i waith llenyddol; ysgrifennai yn ddidor i'r cylchgronau ar weithiau Penry Williams a Chymry medrus ereill yn y celf a'r cain. Dyfnhawyd yn ei feddwl yr argyhoeddiad am werth y cain i ddyrchafu a choethi dyn, a daeth i gredu fod rhyw gysylltiad hanfodol rhyngddo â chrefydd, ac fel canlyniad i'w argyhoeddiad lliwir ei ysgrifeniadau diweddaraf â'r elfen gyfrin sydd i'w chael ar ffiniau y gororau hyn.
Yr elfen grefyddol ag sydd yn rhedeg fel gwythien euraidd trwy holl waith Islwyn barodd i'r bardd nefolaidd hwnnw gael y fath ddylanwad ar feddwl a bywyd gwrthddrych yr ysgrif hon, a'r un elfen yn ddiau a'i swynodd yng ngwaith Sion Cent. Tybiai fod neges neilltuol gan Sion Cent atom ni, a thrwy hynawsedd. golygydd "Cyfres y Fil" paratodd argraffiad rhad o'i waith.
Beirniadwyd y gyfrol hon dipyn yn llym, ac eto efallai nid yn anghyfiawn. Fel y dywedwyd o'r blaen, pe buasai Mr. Matthews yn meddwl mwy am ei glod ei hun, buasai oedi yn hwy, cyn cyhoeddi y gyfrol, ond teimlai mai gwell oedd i'r bardd ymddangos mewn gwisg dipyn yn annhrefnus am ychydig amser nag aros yn hwy dan len. Ceir amser eto i'r ysgolheigion i drwsio tipyn ar ei ddiwyg; ei waith ef oedd poblogeiddio y cewri fu, a dichon ei fod yn ei frys weithiau yn ymgymeryd a thasg heb yr adnoddau angenrheidiol; ond yr oedd bod yn ddefnyddiol yn fwy gwerthfawr yn ei olwg na dilyn y llythyren yn rhy fanwl.
Yn ystod ei flwyddyn olaf paratodd i'r wasg gasgliad arall o'r defnyddiau grynhowyd gan ei ddisgyblion, ac yn ei wendid daliodd ati i fynych gywiro y prawfleni ar ei wely, a rhyw fis cyn ei ddiwedd cyhoeddwyd y llyfryn dan yr enw "Dail y Gwanwyn." Yn ystod y misoedd hyn hefyd ysgrifennodd dros Undeb y Cymdeithasau Cymreig lyfr dan Perthynas y Cain â'r Ysgol." Yn hwn apelia am roi ei le priodol i'r cain yn addysg ein plant. Torrodd dir hollol newydd i lawer yn hwn, a dylai'r llyfr fod yn nwylaw pob athraw, pob swyddog a phob aelod o awdurdodau addysg yng Nghymru. Cynhwysir ynddo mae'n wir gyhuddiadau lled lym yn erbyn Philistiaeth ein addysgyddiaethyddion, ond ceir ynddo hefyd bethau gwir bwysig, a haeddant sylw difrifol pob un ag sydd yn ymwneud ag addysg y to sydd yn codi.
Dyma ei ymdrech olaf yr oedd ei nerth yn cyflym ballu, a rhaid oedd rhoi o'r neilltu ei ysgrifbin prysur. Ond hyd y diwedd yr oedd yn llawn cynlluniau am waith, ac yn llawn gobaith am wellhad o'i glefyd, ond er pob gofal a'r tynerwch tirionaf o eiddo mam a chwaer bu farw yn dawel yn ei gwsg ar chweched o fis Medi diweddaf pan ond 42 mlwydd oed. Hebryngwyd ei gorff i'w hir gartref ym mynwent hen eglwys Llandybie gan lu o'i garedigion ar y Llun canlynol.
Fel awdwr ysgrifennodd ormod efallai nid oedd yn or-ofalus am ieithwedd, a maentumia y beirniaid manwl fod ei arddull yn gymysgedd o wahanol gyfnodau. Nid ydym yn gofalu am ateb iddynt yn y peth hyn. Ond os y style yw y dyn, fel y dywed Buffon, canfyddir yn eglur yn ieithwedd Mr. Matthews ei galon dwym, ei gariad gwresog, ie llosgedig tuag at ei Gymru, ei sel tanbaid tros foes ac addysg, a'i awydd angerddol am ddyrchafiad ei genedl. Gan fod ei efrydiau gymaint yn awduron y canol oesau naturiol oedd iddo bron yn ddiarwybod iddo ei hun godi geiriau a brawddegau oddiwrthynt a'u cymhlethu â Chymraeg sir Gaerfyrddin y dyddiau hyn y peth mawr iddo ef oedd cael y geiriau a'r gystrawen mwyaf cyfaddas i osod allan ei feddwl. Yr oedd ei lygad yn edrych YMLAEN at y dyfodol gwych oedd i ddod,—fel y canodd Twynog,—
"Y wawr, y wawr anwylaf
Sy'n dyfod cyn bo hir,
A diluw o brydferthwch
I dorri dros y tir."
Ond yr oedd hefyd yn edrych yn ol er mwyn cael y nerth a'r ysbrydiaeth angenrheidiol tuag at sylweddoliad ei obeithion. Fel y dywed yr areithiwr Groegaidd,"Dylai cenhedloedd. fel dynion, ymdrechu yn wastad i lunio eu dyfodol wrth eu gorchestion ardderchocaf yn y gorffennol." Oddiwrth y dyddiau fu y tynnodd ас y maethodd Mr. Matthews ei fywyd, ac nid yw yn syndod yn y byd fod ol hynny ar ei waith. Rhaid cyffesu, er hynny, ei fod wedi anturio yn awr ac yn y man y tuhwnt i'w alluoedd, fel nofiwr ieuanc yn anturio i ddyfnder môr, eto dylem gofio fod "delfrydwyr heb eithriad," yn ol dywediad awdwr diweddar, wedi eu cynysgaeddu yn rhy brin i sylweddoli eu gob- eithion, oherwydd bod eu huchelgais yn rhedeg y tu hwnt i'w hadnoddau."
Yr oedd Mr. Matthews yn ddarllenwr eang, ac er mai hanes a llên gafodd fwyaf o'i sylw, rhoddodd ei draed ar lawer rhanbarth arall o wybodaeth. Dywedodd. rhywun mai perffeithrwydd yr hyddysg oedd gwybod rhywbeth am bopeth, a phopeth am rywbeth. Os na ellir dweyd am Mr. Matthews ei fod wedi cyrraedd yr ail nod gwnaeth gynnyg teg at gyrraedd y cyntaf. Dechreuodd yn rhy hwyr ar y maes ddewisodd i ennill meistrolaeth berffaith ar ei arfau, a dioddefodd oherwydd diffyg cyfarwyddyd doeth yn ei gwrs colegawl: ac wrth ystyried hyn y syndod yw iddo wneud cymaint. Gresyn na chafodd hamdden i gysegru ei hunan yn llwyr i lenyddiaeth, ond fel llawer un arall rhaid oedd iddo, er mwyn ennill ei fara, ymroi at waith y gallasai ereill llai eu dawn nag ef gyflawni cystal ag ef. Yr oedd yn athraw llwyddiannus ar blant, eithr cofier fod athrawon ac athrawon. Bardd y beirdd y gelwir Edmund Spenser, ac y mae ambelli athraw wedi ei ddonio i fod yn athraw i athrawon, ac un felly cedd Thomas Matthews.
Yr oedd o dymer naturiol garedig dros ben, ac yr oedd mor ddiymhongar ag ydoedd o garedig. Nis gallai warafun cymwynas i neb; yr oedd ei amser, a'i arian at wasanaeth y neb a'i ceisiai. Yr oedd y gair "Dyro i'r hwn a ofynno gennyt yn reddf ynddo, ac yn ei ddiniweidrwydd dioddefodd lawer o'i herwydd. Cadwodd ei hun yn dlawd ym mhethau y byd hwn, ond yr oedd yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, y rhai nid ant yn anghof tra bydd ei gyfeillion lliosog ar dir y rhai byw. Gellir dweyd ei fod yn un o'r "tannau dorwyd yn gynnar yn nhelyn ein gwlad, ond clywir adsain ei enaid eto yn y blynyddoedd a ddaw ym mhyrth llên ac addysg Cymru fydd.
Gan bob Cymro garo'r gwir,
Fy nghyfaill, ni'th anghofir."
R. W. JONES.
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.