Thomas Matthews, Cymru, Chwefror 1917/Breuddwydion Cerflunydd

Thomas Matthews, Cymru, Chwefror 1917 Thomas Matthews, Cymru, Chwefror 1917

gan Thomas Matthews


golygwyd gan Owen Morgan Edwards

BREUDDWYDION CERFLUNYDD.

GAN Y DIWEDDAR THOMAS MATTHEWS.

A MINNAU un diwedydd hyfryd ym mis Mai yn di-amcan grwydro hyd strydoedd Paris, heb feddwl am ddim o'm cwmpas, fe'm deffrowyd yn ddisymwth gan daflen welwn y tuallan i oriel. Y peth cyntaf ddaeth i'm côf oedd rhigwm arferem ddweyd yn blant gartref,-

"Dai Llywelyn
Yn canu'r delyn,
A'r hen giw melyn
Yn dawnsio."

Yr enw yna, yma ym Mharis! Pwy oedd tybed? Es i fewn; nid oedd tâl meddai'r llanc wrth y drws,—"Ond torrwch eich enw, os gwelwch yn dda fan yma.

"Wrth fyned allan."

"Da," meddai, gan roddi llyfryn i mi.

Arddangosfa gerfluniau oedd yno. Mewn plastr wedi ei baentio, yr oeddent oll bron, plastr wedi ei baentio liw clai ac efydd. Yr oedd y cerflunydd yno yn arddangos ei waith ac yn barod i fynegu ei ddyheadau. Pan es i fewn yr oedd yn esbonio rhai pethau i rywrai ddanghosent yn amlwg na fedrent ddeall dim gwell na chinio da neu bris dillad. Amlwg oedd hynny oddiwrth eu gofyniadau a'u siarad. Yr oeddent yno oherwydd fod arnynt eisiau dweyd eu bod wedi bod yn yr arddangosfa yr oedd "cymdeithas" yn gofyn hynny. Eisteddais i lawr. Mae'n debyg fy mod wedi cerdded mwy o ffordd nag oeddwn yn feddwl, gan fod peth blinder arnaf. O fy mlaen yr oedd yr unig gerflun maen yno. Ac yr oedd yn amlwg oddiwrth hwn fod y cerflunydd yn ceisio gweithio allan ryw ddamcaniaeth grewyd gan ei ddychymyg. Hawdd hefyd oedd enw- Sffines yn ddiameu. Yr oedd wedi gosod y pen ar feini netrual. Ni fwriadai gerfio dim ond y pen. Amcanai y rhannau petrual gyfleu syniad i ni am y cadarn a'r diysgog-fel y bryniau oesol. Ond beth am y pen? Trefnwyd y gwallt arno mewn dull hanner Aifftaidd; gwnaeth i mi feddwl am helm, ac yna am gapan hudo. Yna'r wyneb yr oedd y trwyn a'r aeliau rywbeth yn debyg i'r rhoddi gath adref pan fyddai uwchben ei rhai bach yn canu'i chrwth. Yr oedd y gwefusau prysur" a'r ên gadarn dyner yn siriol—benderfynol. Amcan y cyfan oedd i'w gwneud yn rhan o ryw gofadail. Ond pa effaith ar feddwl gwerin geisiai'r cerflunydd ddeffro drwyddi? . . . Dyma hi — y dyfodol yn ddiameu y dyfodol. Yr oedd y meini petrual i roddi syniad o sicrwydd diysgog dyfodiad yr hyn ddarparodd y Goruchaf ar ein cyfer. Ond beth yw? Wele dynerwch, caredigrwydd ; wele rith gwên ar y gwefusau;—ond beth oedd argraff y cyfan i fod? . . . .Nid oedd siw na miw i'w gael o'r gyfrinach. Yr oedd y dirgelion oll dan glo, a dim ond ffydd a thiriondeb, caredigrwydd ☑ phenderfyniad oedd i'w gweled yno. Gan hynny, beth welai'r llygaid tywyll Dimdim. Nerth ffydd yn unig oedd i'w gael—mae popeth mor dywyll i ni ag oedd i'r "Hen wyrda gynt," fel yr oedd i Sion Cent pan ofynnodd,—

"Yr enaid ni wyr yna,
O Dduw! ba ffordd yr â?"

Yn ddiddisgwyl torrodd llais moesgar arnaf—a fedrai perchennog y llais fod o ryw wasanaeth i mi? Yr oeddwn yn falch iawn o gael siarad â rhywun, a chyda hyn dechreuwyd ymgom hir; a minnau'n ceisio cael gweled a oedd fy narlleniad o amcan y Sffines yn gywir. Yr oedd yntau fel plentyn yn llawen am i mi ddeall cystal. Yna aethom o un peth i'r llall, oedd yno yn yr oriel.

Yr oedd pan ddechreuodd wedi ceisio cerfio ei waith yn llyfn "yn ôl yr hen arfer cynt "ond yr oedd rhywbeth yn eisieu yn y gwaith llyfn. Ni allai gyfleu yr hyn amcanai, cymeriad y dyn; ei nert meddyliol; yr argraff, hwyrach, mai gwe edydd oedd y dyn, oherwydd gwelir hyn yn fynych ar wyneb ambell i fardd a phregethwr; y dyhead am gyfiawnder sydd a wyneb arall, yr hyn yr oedd ef fel cerflunydd a chymaint awydd ei roddi yn ei bortreadau. Felly gadawodd y llyfn a esmwyth am lai o lyfndra a llai o esmwythdra yn ei waith. Oedd, O oedd, yn lla gorffenedig ym marn rhai, ond llwyddai gyfleu mwy dyna'r fantais, a barnai hy yn werth yr aberthu. Ceisiai awgrymu, pan wnai bortread o ddyn, y caffech yno heblaw portread, ryw gymaint o'r "peth byw" oedd tu—cefn. Caffech ryw gymaint o wir anadl einioes y dyn.

A oedd dan ddylanwad Rodin?

O na!" Ni wyddai ef ddim am Rodin pan gymrodd y cam hwnnw. Gweithiodd hyn allan yn yr Unol Dalaethau drosto ei hun, flynyddau yn ol, cyn iddo erioed glywed am Rodin. Dysgwyd ef yn unol ag ysgol John Gibson ar y cychwyn; yn wir, Miss Harriet Hosmer, disgybl Gibson, a'i hyrwyddodd ar y cychwyn. Dyma, yn ei farn ef, wendid ysgol Gibson—aberthent ormod i bertrwydd. Trueni nad oedd Gibson wedi myned rhag ei flaen a lliwio ei gerfluniau i derfyn rhesymol. Yna, hwyrach, buasai wedi cyrraedd uchafnod gwell fel cerflunydd. Efe oedd y mwyaf y goreu ollo'r godidog gerflunwyr hynny wnaethant eu cartref yn y Ddinas Barhaus. Yna aeth i siarad am ei addysg yn yr Unol Dalaethau; daeth eisiau gair arno— rhoddais y gair iddo yn Gymraeg. Yna gan droi ataf ac yn edrych ym myw fy llygaid gofynnodd,— " "Ac o ble yng Nghymru yr ŷch chi?"

"O'r un lle a chithe, nid . . . ŷch chi?"

Ie, ond ffordd ŷch chi'n 'nabod i?" Wyt ti ddim yn cofio'r 'penhillion o'et ti'n arfedd wneud 'slawer dydd? Wyt ti ddim yn cofio hwnnw wnest,——Dai Lywelyn?"

"Nâd ŵ i."

Ac yna mi a'i dywedais—a sut y daeth y pennill i'm cof wrth weled y daflen ger y drws, a'm tywysodd i fewn. Yna cofiodd—wel! nid oes angen son am gryn dipyn a siaradwyd. Ar ol ychydig, daeth yn ol i siarad am ei addysg, sut deffrodd Ceridwen ef; am ei ymdrechion. Sut bu arno yn fynych yn yr Aifft ac yn yr Eidal. Gweithiodd ei ffordd i'r Aifft fel morwr, ar long yn perthyn, o bob man yn y byd, i Aberystwyth, ac oddiyno i'r Eidal yr un modd. Cerddodd o dref i dref, yn awr yn cysgu dan y sêr, bryd arall yn newynog ac yn sychedig. Yna cafodd waith am ychydig ddyddiau a bu wrth ben ei ddigon am rai wythnosau. Yn y diwedd daeth i Rufain, ac ar ol peth trafferth cafodd waith fel cerfiwr. Pan gredodd ei fod wedi gweled yr oll oedd eisieu arno yno, crwydrodd oddiyno o dref i dref, 'nawr ac eilwaith mewn cyni, a byth ar ei ddigon. Daeth i Baris, bu yno am ychydig, ac oddiyno dychwelodd i'r Unol Dalaethau —yn llawn hyder a gobaith. Yno gweithiai liw dydd, breuddwydiai a chynlluniai liw nos priododd. Daeth gwaith iddo, digon i'w gadw heb weithio fel cerfiwr. Felly y bu am rai blynyddau, yna crwydrodd yn ol i Baris, ac yn unol a chais a chyngor cyfeillion trefnodd yr arddangosfa fechan yr oeddem ynddi.

Y mwyaf peth i mi o'i holl freuddwydion oedd ei gynllun i godi math o byramid. er cof am ryw arwr, neu ryw adeg neillduol yn hanes cenedl; a hynny i addurno rhyw le yn taro—yn ymyl athrofa—pen bryn, neu le cyffelyb. Yr oedd y sylfaen i fod o wenithfaen du a'r adeilad o wenithfaen coch. Yna ar bob congl byddai Sffines aruthrol fawr, ond yn gweddu i'r pyramid, a byddai hwn fel y sylfaen o wenithfaen du ac wedi ei lyfnu. Byddai'r maen hwn yn taro damcaniaeth y cerflun hwn yn well na dim arall. O Sffines i Sffincs o gwmpas y pyramid, byddai cerfluniau efydd yn darlunio chwaethau a theimladau isaf dyn—sylweddoliad fel personau o brofedigaethau a themtasiynau dyn ar ei lwybr i fyny tua'r Ddinas Wen. Yna, ar ben y pyramid, yr hwn na fyddai'n bigfain, byddai sylweddoliad delfrydol o'r rhinweddau a'r grasusau hynny gyfyd ddyn i fyny o'r isel ac a'u gwnant yn oruwch—ddyn, hafal i'r engyl, ac yn unol ag y mae efe wedi trwytho a meithrin y doniau roddodd Duw iddo, ac o'r teimladau isaf, mae'r uchaf wedi datblygu. Megis cariad o chwant; megis doethineb o gyfrwysdra. Hwyrach fod y naill yn wrthgyferbyniad i'r llall—ond yr oedd datblygiad yno hefyd. Byddai alegoriau ar y pyramid hefyd i geisio gwneud i ddyn feddwl yn fwy beth oedd ac ydyw llwybr dyrchafiad dyn.

Wyt ti'n gweld, yr wyf wedi PROFI cymaint yr wyf wedi gweld y da a'r drwg yn gyfagos gymhleth a'u gilydd—ac oddiwrth hynyna daeth yr awdl hon i'm meddwl. Efallai, pe buaswn wedi aros gartref, y buaswn wedi ceisio barddoni am y weledigaeth hon yn awr yr wyf yn ceisio rhoi'r awdl neu'r bryddest hon mewn gwahanol ysgrifen mewn maеn ac efydd. Pan yn Rhufain prynais waith Dante, ac ambell waith meddyliaf mai efe a'm hysbrydolodd i wneuthur y cerfluniau hyn. Ond rwi yn darllen ein beirdd ni o hyd. Y mae mwy ynddynt i mi nag a gaf yng ngwaith neb arall ond Dante.

Yr oedd yn gweithio darn ar ol darn o'r cynllun fel byddai'r "Goruchaf yn ei symbylu." Gan fod dau amcan ganddo— un i ddeffro dyn i weld y gwael a'r drwg, y cain a'r tlws fel ag yr oeddent—yna byddai'n sicr o edrych tuhwnt, at y pethau ddylai fod, a thrwy hynny ym estyn atynt. Dylai fod dynion yma, fel

"Meibion Nef yn cyd—lefain
A'i gilydd mewn cywydd gain,"—
"Perffaith yw Dy waith, Duw Iôn,
Dethol dy ffyrdd a doethion,
A mad ac anchwiliadwy,
Dduw mawr, ac ni fu ddim mwy."

Felly nid oedd trefn amser ar ddim; ond pan ddeuai'r symbyliad, gweithiai ei ddychymyg allan yn y clai ar unwaith, ac yn ddioed. Ambell waith deuai ato yn yr hwyr, ac nid ai i'r gwely nes byddai wedi gorffen. Yn fynych iawn byddai wrth rywbeth drwy gydol y nos ac hyd y nos ganlynol, heb wybod dim am amser na dim arall hyd nes gorffenai.

Un o'r cerfluniau cyntaf oedd "Llef Tlodi." Yr oedd wedi bod am dro hyd strydoedd Philadelphia ym mrig hwyrnos, a gwelodd ddynes garpiog, deneu, ac un bychan yn ei chôl, yn ceisio sugno ei bron sych. Yr oedd fel scwrrwd,' meddai, 'a phlentyn arall yn llusgo wrth ei dillad mor garpiog a hithau. Ni welais i ddim tebyg cynt na chwedyn.' Ac yr oeddent yn y stryd lle trigai dynion cyfoethoca'r dref. O'u cwmpas glwthineb a gwastraff—"dynion" yn afradu mewn byrnos ar gŵn mwy nag oedd eisieu i gyflenwi angen y rhain am fis. Rhoddodd iddynt gymaint ag oedd ganddo— cerddodd gartref, gweithiodd ar hwn—gorffennodd ef bore trannoeth. Mae yn fy nghof yn awr. Nis gallaf gael hwn na "Paham ?" Christopher Williams o'm cof o gwbl. Os meddyliaf am gynni ac angen y tlawd—a minnau wrth fy hun, neu beidio, yna cyfyd y llun "Paham?" o flaen fy llygaid—yna daw hwn, "Llef Tlodio flaen fy llygaid, fel ag y gwelais ef gyntaf. Dyma fenyw deneu fel scwrrwd ac Angeu a'i nod arni; y mae drudaniaeth yn ei dirdynnu hi a'i phlant. Y mae gwan—obaith yn ysgrifenedig ar ei hwynepryd cynifer gwaith gofynnodd am gardod yn enw'r Iesu yn ddi—ateb! Y mae'r bychan yn sugno'r fron ddi—obaith sych. Dyma hwy, fel pe baent yn codi o'r clai—felly hefyd llef y tlawd a'r anghenus,—o laid y byd—i fyny am gyfiawnder gerbron y Goruchaf. Efe a glyw eu llef os na wnawn ni. Rhyfedd, mae'n waeth yn nhrefydd mawrion America nag yw yma," meddai. Wyt ti'n cofio geiriau Dewi Wyn?—

Noswylio yn iselaidd,
A'i mynwes yn bres oer braidd.
Ba helynt gael ei phlant cu
Oll agos a llewygu?"

Yna ceisiodd ddangos Lusiffer—ond nid yn ol yr hen ddychymyg. Yna "Ellyll Ofn," Cenfigen, a "Balchder Trahaus." Ceisiodd ddatgan hefyd mewn alegori yr hen athrawiaeth am y saith pechod marwol. Ni hoffai fynd drwy yr amser hynny eto. Yr oedd ei fywyd fel pe bai yn y cylch hwnnw yn Annwn y soniodd Dante am dano,—

"I fan amddifad o bob gwawl cyrhaeddais—I le'n bugunad megis môr tymhestlog,

Pan fo croeswyntoedd arno mewn cydymgais."

Cynnyrch y cyfnod hwn oedd y rhain i gyd. Cynlluniodd yn y clai, y rhai

Pe cai'r holl aur sy dan y lloer ei gasglu, (A'r oll a fu) nis gallai wneud i'r undyn O'r blinedigion yma ddadluddadu;"

rhai fel honno y tynnodd Fersil sylw Dante yn yr Ail Folgia—

Edrych ymaith:
Ar lecyn sy' nes atom, sylla'n ddyfal,
Modd gallo'th lygaid ganfod wyneb diffaith.
Cyffoden fratiog, front, a mawr ei chagal,
Sy draw'n ymgrafu a'i hewinedd bawlyd:
Yewatia'n awr; ac eilwaith, mae'n ymgynnal.
Hon ydyw Thais, y butain. Pan ofynid
Gan ei gordderchwr: 'A oes gennyt lawer
O ddiolch,' ebe. 'Oes,' a rhyfedd hefyd."

Ond, paham son am y rhai hyn? Yr oedd wedi hen laru arnynt cyn iddo eu gorffen. Teimlai ei fod yn y caddug a'r niwl; yr oedd fel pe bai'n ymbalfalu, yn ceisio dod allan a methu. Mynych meddyliai, pe byddai yng Nghymru, na fuasai wedi cael y fath brofiad. Yr oedd yng Nghymru awyrgylch rhy bur i'r eithafoedd hyn. Dyheai

am dreiddio i'r adnabyddiaeth
O'r unig wir a'r bywiol Dduw."

Ni allai ddelfrydu—ac heb ddelfrydu ni allai obeithio am godi—ac os na allai ef ddringo i fyny i Fynydd Sancteiddrwydd y Goruchaf ac anadlu awyr bur y tragwyddol bethau yno, sut gallai efe erfyn am gael ereill i ganfod ac ymestyn at y delfrydau uchaf welai'n lledrithaidd yn y caddug oedd o gylch ei enaid? Teimla fod yna ddisgyniad cyflym wedi cymeryd lle yn ei natur, gan ei fod yn gweled a meddwl gormod ar ochr isaf dynoliaeth Y peth hawddaf yn y byd oedd hyn. Nid oedd ac nid oes angen gwir athrylith i son am ffaeleddau ac am y pechod sydd o gwmpas. Ychydig allu celfyddyd yn unig oedd ac sydd eisieu. Ffyddlondeb yn unig yw'r nôd—gwaith gwawl—lunydd dichwaeth heb ddawn na thalent i weled dim oedd yr oll bron. Yr oedd am GREU— creu yng ngwir ystyr y gair, ac nis gallai. Nid creu oedd arddangos yr hyn welai o'i gwmpas. Nid dyrchafiad oedd ymdrybaeddu yn llaid bywyd ereill ; na, ni ddyrchafai arall chwaith tra'n gwneuthur hyn. Hwyrach mai iselhau dynoliaeth yr oedd. O'r diwedd cododd Haul y Goruchaf o'r newydd ar ei fywyd—diflannodd y caddug oedd yn gordoi ei weledigaeth fel crwybr y bore. Syrthiodd mewn cariad. A llawenydd dirfawr yn ei galon teimlodd yn ei enaid—

Fel teimlai Glaucos wedi bwyta'r borfa
A'i gwnaeth yn gymrawd hafal i'r dwyfoliaid.
Mynd hwnt i'r dynol: Traethu hyn per verba[1]
Nis gellir. Boed siampl felly ddigon
I'r sawl yr oedo Grâs ben draw i'r yrfa.
O gariad, a reoli'r Goruchelion
Ti wyddost, ai dim onid ailanedig
Ran gipiwyd gan dy leufer i'r nefolion,
Pan aed a'm sylw gan wybrenol fiwsig
A geir yn ol dy gywair a'th amseriad,
Gan Rod, a wneir, o'th geisio'n fyth wynfydig!
Cyneuwyd cymaint—dyna'r ymddanghosiad—
O'r nen gan fflam yr Haul, erioed ni lenwodd,
Na glaw nac afon, lyn o'r fath ymlediad.
Dymuniad am yr Achos a gyneuodd
Y newydd sain ynghyd a'r mawr oleuni,
(Cyn hyn, ei lymder, f'enaid i nis teimlodd).'


Gallai ddelfrydu yn awr,——a hapus oedd —yr oedd yr holl gynllun ganddo'n llwyr. Gwnaeth flaen-luniau o'r oll mewn clai a phlastr. Gwnaeth Ddwynwen—

"Y fun dawel wallt felen,
Eurwyd y baich ar dy ben;
Gwyn yw dy gorff ac uniawn,
A lluniaidd oll—llyna'i ddawn."

Rhoddodd ar y wyneb wawl y Gwynfyd. i'w goruwch brydferthu—yr hyn gredai ddylai fod ar wynepryd pob rhiain o'r iawn ryw. Cynlluniodd "Ffydd" hefyd, a "Gobaith "—deallodd beth oeddent yn berffaith, meddai ef. Deallodd Dante'n well deallodd mai hyn oedd Ffydd,—

Disgwyl cryf diwyro
Am fythol wynfyd—dyna ydyw Gobaith:
Grâs Duw â haedd blaenorol yn cyd—ffrwytho.
O lawer seren, cefais y wybodaeth;
Ond gyntaf, i fy nghalon y'i disdyllodd
Pen Cantor i Ben Llyw y Greadigaeth.
'Gobeithied ynot '—yn ei Salm ê ganodd—
'Y rhai adwaenant d'enw.' Pwy nas adwaen
Os ffydd, o'r fath a gefais i, a gafodd?"


Mwyaf oll, bron, y ceisiai gerflunio yr Awen, yr Awen ddyrchafa ddyn i fyny —yr Awen ddeffry ddyn ym mhob oes a delfrydau newydd, delfrydau uwch a gwell na'r hen, gan mai o'r hen y datblygwyd hwynt. Dyma ei flaen—gerflun cyntaf, dyma yr ail,—dyma'r trydydd. Nid oedd eto wedi cael llwyr foddhad—os byth efe a'i caffai. Yr oedd pob ystum, pob plyg yn y wisg, pob osgo corff yn, ac i sylweddoli mai i fyny yr arweiniai dyn. Nis gallai ddweyd mor anhawdd oedd cyfleu ei ddychymyg, rhoddi ei ddelfryd. drwy gyfrwng y plastr fel gallai'r llygad. weled ac o weled, ddeall. Teimlai fod

'holl ddeddfau barddas yn rhy bur,
Rhy fewnol i'w hesbonio fyth yn glir,
A'u rhoi i lawr mewn geiriau fel y gallo
Y dwl eu hefelychu pan deallo."

Yr oedd dyn yn myned tuag i fyny—tua'r Ddinas Wen. Fel y dringai dyn tua'r Duwdod, yr oedd y weledigaeth yn myned yn fwy llachar, yn fwy gogoneddus——felly ni allai ef fyth fod yn foddhaus ar ei waith tra'n ceisio delfrydu yr Awen—Ceridwen ein cyndeidiau——mewn marmor. Gwelai rywbeth newydd bob dydd bron. Efallai, rywbryd, y daw'r symbyliad iawn, y weledigaeth eglur,' meddai, nid wyf wedi bod yn nhân y coethi ddigon eto. Onda daeth goleuni newydd ar ei wynepryd—"ond fe

'Ddaw adeg ar farddoniaeth na fydd un
Gyfundrefn gaethol o fesurau blin.
Na deddf
Ond greddf
Y dwyfol ddeddf o oll—bereiddiol rin
A orwedd yn yr enaid mawr ei hun.'

Yna gwelaf yn glir tu hwnt a thrwy'r llen a llwyddaf i fynegu fy nelfryd am yr Awen yn iawn."

Yr oeddym wedi siarad hyd nes oedd yn dywyll. Yr oedd yn amser cau, safai y concierge[2] yn foesgar i ni orffen. Gwrandawai'n syn, gallwn feddwl, er na ddeallai air, a braidd y gwyddem ei fod yno Yna troais at un blaen—gerflun, a dywedais wrtho "Dw i ddim yn deall hwn."

'O," meddai, gwnes hwnna ryw flwyddyn ar ol i fi briodi. Daeth y symbyliad ataf un noswaith, yn ddisymwth tua deg o'r gloch, a chwples ê tua doi yn y bore. Nis gwn beth yn y byd a'm gyrrodd. Mâ'r niger yna yn sylweddoli ffieidd—dra pethau atgas ym mywyd dyn, bywyd aflan. Weli di, nid ôs dim da bron yn ei fywyd. Mae ê bron yn anifel. Lyn du mewn gwirionedd—ac wyt ti'n gwbod byth y'n nhw? Menyw wen yw hon, ac mae hi yn sylweddoli tynerwch. Y mae hi wedi dihuno i beth ffieidd—dra. mae hi yn dirion—anwyl hiraethu am fywyd llawer yn uwch na'r anifel. Ond 'dyw hi ddim yn berffaith lân, wel di. Ond mae hi yn caru'r dyn du. Wyt ti'n deall y gwrthgyferbyniad? Wel! mi siaredais a'm gwraig am beth own i wedi wneud bore trannoeth—dâth hi geni i weld. Ches i ddim mwy o aeth eriod. Fy ngwraig oedd y Tiriondeb' oeddwn wedi lunio yn y clai—ond nid fel yr oedd hi pryd hynny; yr oedd hi lawer yn deneuach. Ond cyn i fi ddod ataf fy hun yr oedd hi mewn llewyg ar y llawr. Ar ol cetyn mowr o amser dâth hi ati ei hun. Ni allwn ddyfalu beth ôdd yn bod—na beth i wneud. Odd y cyfan yn wâth na mynd drw' uffern. Damed a thamed, mi ges y gwir. Ni wyddwn i ddim o'i hanes, weldi. Yr odd hi wedi bod yn ordderch i ddyn du cyn i mi ei phriodi. A hithe yn ferch ddeunaw ôd, denodd y cythrel du hi bant oddicartref dan addaw ei phriodi—a hi a aeth, gan gredu y gwnai ddaioni drw wneud pont rhwng y dyn gwyn a'r dyn du—dyna beth wedodd y cythrel wrthi. A'th yn ddirgel, oherwydd gwedodd y niger wrthi, efalle na fydde'i thad yn foddlon i'r briodas. Ag ôdd ê'n gweud y gwir. Fe'i saethe'i thad e pe fyse fe'n gwybod. Cadwodd hi gyda ê heb ei phriodi collodd bob cydymdeimlad ag e ofne ddianc, oherwydd gwelodd beth odd e, yn gloi iawn. Wel! yr own i wedi gwneud llun y niger cythrel hynny hefyd, heb i weld e erio'd—a'i llun hi fel ag yr odd hi gydag e odd y llall——cyn i fi erio'd i gweld hi. Seithodd ei thad y niger pan câs e wbod, a dâth a hi i Philadelphia. A dyna ffordd cwrddes i a nhw. 'Dwn i ffordd yn y byd galles i wneud hyn, wel di, lladdwd y niger cyn gallwn i erio'd i weld e ac ni wyddwn i ddim am y stori."

"Odi hi fyw 'nawr?"

"Nag yw. Bu farw wap ar ol hynny, a'r un bach. 'Falle'r wyt ti'n gallu deall pethe'n well 'nawr! Wyt ti?"

"Galli di ddod gen i heno? Na elli! Yfory? Dere, da ti? Ma'i fel câl chwa o Gymru i gâl siarad a thi yto. Cofia ddod am dri, 'te."

Paris, Ebrill 1911 T. MATTHEWS.

Nodiadau

golygu
  1. Mewn geiriau.
  2. Porthor