Tosturi dwyfol fawr
← Yn nodded gras y nef | Tosturi dwyfol fawr gan Edmwnd Prys |
Dy glwyfau yw fy rhan → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
97[1] Trefn y Cadw.
M. B.
1.TOSTURI dwyfol fawr
At lwch y llawr fu'n bod,
Pan gymerth Duw achubiaeth dyn,
A'i glymu'n un â'i glod.
2.Pan ddaeth y Mab o'i fodd
I farw yn ein lle,
Agorodd ffordd i'n dwyn at Dduw;
Ein Ceidwad yw Efe.
3.Mae Iesu'n fawr ei fri,
A'i glod yn llenwi'r nef;
A holl hyfrydwch pur y plant
Yw ei ogoniant Ef.
Edmwnd Prys
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 97, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930