Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Clough, Parch. R. B., M.A.

Cadwaladr, Ellis Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Cilan, Hywel

CLOUGH, Parch. R. B., M.A., periglor Corwen; bardd a llenor dysgedig, yn ol tystiolaeth Bardd Nantglyn am dano. Gwelsom rai o'i gyfansoddiadau barddonol yn y Gwyliedydd. Bu farw Gorph. 11, 1830, yn 48 oed. Dywed Bardd Nantglyn wrth ei anerch,

"Bardd ydych o bur ddodiad,
Adwaenoch swn adenydd
Cystrawen yr awen rydd,
Medrwch glymu ymadrawdd
Goleu teg dan gload hawdd."

Ei farwolaeth ef oedd un o destynau Eisteddfod Edeyrnion, Tach. 5, 1830. Rhagorai fwy, mae'n debyg, fel noddwr haelionus beirdd a barddoniaeth nag fel bardd ei hunan. Yr oedd ef yn nodedig am ei wladgarwch a'i ddybewyd dros iaith a llenyddiaeth y Cymry. —(Geir. Byw., Liverpool). Rhoddwn yma ddau englyn o'i waith "Yn erbyn barnu eraill :"

"Ti ferni, gweli fai gwan,—dyn arall,
Dan yru gair gogan;
Er nad oes, iawn-foes un fan,
Da o honot dy hunan.

"A fynych i fyw enyd—gan undyn,
Ac uniondeb glân-bryd;
Dyro i bawb, ar dir y byd,
Dawn hoff onest un ffunyd."

Corwen, Mai 13, 1823.
—R. B. C.


Nodiadau

golygu