Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Cadwaladr, Ellis
← Enwogion Edeyrnion | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Clough, Parch. R. B., M.A. → |
CADWALADR, ELLIS, bardd o Landrillo, yn Edeyrnion. Blodeuodd o 1707 i 1740. Efe a enillodd yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yn y Bala ddydd Llun y Sulgwyn, 1738. Yr anrhydeddus a'r dysgedig athraw, Edward Wynne, ficer Gwyddelwern, oedd y barnwr, a chyfansoddodd englynion i'r holl ymgeiswyr, a diweddodd "i'r gwr a gariodd yr eisteddfod," drwy ddywedyd―
"Goreu i gyd, gŵr y gadair."
Yr oedd E. Cadwaladr yn dra chelfyddgar yn y mesurau caethion. Cyfansoddodd ddau englyn i'w gosod ar fedd Huw Morris yn 1709, er mai gwaith Ficer Gwyddelwern a ddewiswyd. Gwelir pedwar o'i gyfansoddiadau yn y Blodeugerdd, un carol,—carol plygain i foliannu Duw. 1707. "Ymddiddan rhwng dyn a chydwybod;" "Clod i Ferch." Y mae ei "Glod i Ferch" yn ar- ddangos y gwyddai rywbeth am enwau clasurol, a'i fod yn fwy ei ddysg na lliaws o'i gyfoeswyr. Dyma englyn o'i waith i "Gyweirgorn Telyn," dros William Dafydd i Sion Puw, y gôf, o Fachynlleth:
Tair pibell i gymell y gân,—awr fedrus
Ar fodrwy liw arian;
Tynu mae y tannau mân,
Tiws eurgerdd at lais organ.
—Ellis Cadwaladr a'i cânt.