Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Edwards, Parch. Robert
← Ellis, Parch. Thomas | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Ellis, Parch. David → |
EDWARDS, Parch. ROBERT, oedd weinidog yr efengyl gyda'r Annibynwyr yn Llanymddyfri. Cafodd ei eni mewn pentref a elwir Rhydymaen, Rhagfyr 23, 1825. Yr oedd Robert pedwerydd mab o wyth o blant a gafodd ei rieni, Robert a Gwen Edwards. Cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn y Brithdir, gan y Parch. H. James, Llansantffraid. Ar ol iddo symud o'r Brithdir i Rhydymaen cafodd yn fuan ei anog i arfer ei ddoniau fel pregethwr cyhoeddus; a chan i'r eglwys gael prawf boddhaol o'i gymwysderau i waith y weinidogaeth, anogwyd a chymeradwywyd ef i ymdrechu cael derbyniad i Athrofa y Bala. Wedi iddo dreulio dwy neu dair blynedd yn y Bala, o dan ofal athrawol Parch. Michael Jones, cafodd ei dderbyn i goleg Aberhonddu, yn y flwyddyn 1848. Yr oedd ei gynydd mewn diwylliad meddyliol yn amlwg i bawb. Ni ddarfu iddo golli yr ysgolhaig yn y Cristion, na'r Cristion yn yr ysgolhaig. Ar derfyniad ei amser yn y coleg ymsefydlodd, trwy unol alwad yr eglwys, yn Salem, Llanymddyfri. Yr oedd amrywiol o arlinelliau rhagorol yn nodweddiad Mr. Edwards. Yr oedd ei alluoedd meddyliol yn fywiog a nerthol, ac ni fu erioed yn rhy ddiog i'w dwyn i weithrediad llwyr a llawn. Yr oedd ei dalentau yn yr areithfa y fath fel yr oedd yn bregethwr boddhaol, hyfryd, a defnyddiol. Nid aeth erioed i'r areithfa heb yn gyntaf wneyd parotoadau priodol ar gyfer hyny; ac ni thraddododd ei bregethau heb fod yn ddifrifol a gwresog. Yr oedd hefyd yn un cydwybodol iawn. Gweithredai bob amser fel un yn gyfrifol i Dduw am yr oll a wnai. Er ei holl addurniadau efe a aeth ymaith, gan roddi ei holl oglud ar ei Waredwr. Wedi treulio dwy flynedd a haner yn gystuddiol bu farw yn nhŷ ei frawd, yn Carno, Rhagfyr 20, 1854.