Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Ellis, Parch. David
← Edwards, Parch. Robert | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Ellis, Parch. John, Llanarmon-yn-Ial → |
ELLIS, Parch. DAVID, a anwyd yn Hafod y meirch, yn mhlwyf Dolgellau, yn 1739. Cafodd ei ddysgeidiaeth dan yr enwog Edward Richard, yn Ystrad Meurig, yn sir Aberteifi. Urddwyd ef yn ddiacon yn Llanelwy yn 1764, ac yn offeiriad yn Mangor yn 1765. Y lle cyntaf a gafodd i'w wasanaethu ydoedd curadiaeth Llanberis, Sir Gaernarfon; wedi hyny, Llangeinwen, yn Môn; yna Derwen, yn sir. Ddinbych; yna symudodd i Amlwch, yn Môn. O'r diwedd cafodd bersonoliaeth fechan Llanberis, gan letya mewn fferm o'r enw Ty du (man genedigol yr athrylithgar Dewi Arfon) lle y dyddiwyd un o'i lawysgrifau (1786), lle y bu hyd 1790, pryd y dyrchafwyd ef i ficeriaeth Criccieth, yn Sir Gaernarfon, lle y bu farw Gorphenaf, 1795, yn 56 oed. Claddwyd ef yn mynwent Criccieth, ac ar ei wyddfa y mae beddlith led faith, yn coffhau ei aml rinweddau ef, o waith ei gyfaill, Dafydd Ddu Eryri. Y mae pob gwir garwr barddoniaeth Gymreig yn ddyledus neillduol i Dafydd Ellis am ei fawr lafur a'i ddichlyn ddiwydrwydd yn adysgrifenu gwaith yr hen feirdd allan o hen lyfrau wedi haner pydru, ac yn barod i gael eu claddu yn nghilfachau angof. Yn ei ewyllys ddiweddaf gadawodd ei holl ysgriflyfrau prydyddol i Dafydd Ddu, yr hwn oedd gyfaill caredig ganddo; ac ymddengys eu bod weithian wedi dyfod i feddiant hynafiaethydd y Waenfawr. Gadawodd amryw roddion ar ei ol yn ei lythyr cymun. Gadawodd arian at ysgol i dlodion Criccieth tra bydd dwfr yn rhedeg. Nid ydys yn gwybod fod Dafydd Ellis wedi cyhoeddi nemawr ddim gwreiddiol o'i waith ei hun, oddigeith ychydig o gywyddau a charolau plygain; ond argraffwyd o leiaf dri llyfr o'i gyfieithiad :—1, "Gwybodaeth ac ymarfer o'r Grefydd Gristionogol, neu gynygiad i athrawiaethu'r Indiaid," o waith yr Esgob Wilson: Llundain, 1774. 2, "Llawlyfr o Weddiau ar achosion cyffredinol," o waith James Meyrick: Llundain, 1774. 3, "Histori yr Iesu Sanctaidd," gwaith W. Smith Trefriw, 1776. Cyhoeddwyd y tri gwaith byn pan yr oedd yn gurad Derwen. Yr oedd Dafydd Ellis hefyd yn dipyn o fardd. Cyfieithodd y "Penitent Shepherd," cerdd sanctaidd o waith Ieuan Brydydd Hir, o'r Saesneg, ar fesur cywydd, yr hon a welir yn argraffedig yn Mlodau Dyfed, t.d. 52 a 55. Cyfansoddodd hefyd alarnad ar farwolaeth y Prydydd Hir, yr hon a gyhoeddwyd yn Nhrysorfa Gwybodaeth, 8 plyg: Caernarfon, 1807. —(G. Lleyn MSS.; Brython, iii. t.d. 9; Geir Byw., Aberdâr; Geir. Byw., Lerpwl.)