Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Evans, Parch. Grey
← Evans, Parch. John; A.C. | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Evans, Parch. Humphrey → |
EVANS, Parch. GREY, oedd weinidog gyda'r Annibynwyr yn Pennal, ger Aberdyfi. Ganwyd ef yn 1805. Bu Mr. Evans yn llafurio yn ffyddlawn iawn yn ngwaith y weinidogaeth am un-ar-ddeg o flynyddau. Cafodd y fraint o weled gradd o lwyddiant ar achos y Gwaredwr yn niwedd ei oes. Ar y 3ydd dydd o Awst, 1842, efe a hunodd yn yr Iesu, gan adael gweddw ac un plentyn ar ei ol i ofal Barnydd y gweddwon a Thad yr amddifaid. Claddwyd ef yn nghladdfa Hen Gapel Llanbrynmair. Cyn cychwyn o Pennal, ac yn Llanbrynmair, gweinyddodd y brodyr canlynol ar yr achlysur:—Y Parchedigion S. Roberts, Llanbrynmair; H. Morgans, Sama; J. Owens, Llanegryn; H. Lloyd a J. Thomas, Towyn; O. Thomas, Talybont; a S. Edwards, Machynlleth. Teimlid yn ddwys gan fyd ac eglwys ar ol colli Mr. Evans.