Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Evans, Parch. Humphrey
← Evans, Parch. Grey | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Fychan, Parch. Henry, A.C. → |
EVANS, Parch. HUMPHREY, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nolgellau, gynt o Ystradgwyn, sir Feirionydd. Ganwyd ef yn Dolffanog, ger Dolgellau, yn y flwyddyn 1808. Wedi iddo fod yn pregethu am 26 mlynedd, cafodd ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Cyfrifid ef yn bregethwr Ysgrythyrol ac adeiladol. Byddem bob amser yn hoff iawn o glywed Mr. Evans, er nad oedd ei ddoniau traddodi yn helaeth iawn. Yr oedd rhywbeth anesboniadwy ynddo yn tynu serch, ato. Yr oedd yn ŵr cywir a chydwybodol; yn eofn dros yr hyn a ystyriai ef yn iawn a phriodol, ac yn un o dduwioldeb diamheuol. Bu farw pan nad oedd neb yn disgwyl, wedi ei daraw gan glefyd heintus, Chwefror 6, 1864.