Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Foulk, Parch. Evan, Llanuwchlyn
← Foulkes, Parch. Edward, Dolgellau | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Foulkes, Parch. Thomas → |
FOULK, Parch. EVAN, Llanuwchlyn, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Er iddo gael ei fagu gan mwyaf ymhlith yr Annibynwyr,' efe a ymunodd â'r Trefnyddion. Y mae enw Evan Foulk yn adnabyddus iawn yn y Gogledd a'r De, fel Cristion cywir a diddichell; pregethwr gwlithog, a rhyfeddol mewn gweddi. Cafodd lawer o dywydd garw oddiwrth ei wraig yn nechreuad ei grefydd, gan ei bod hi yn wrthwynebol iawn iddo ymwneyd dim â chrefydd. Yr oedd yn dra chwerw wrtho pan oedd gyda'r Annibynwyr, ond yn llawer mwy felly wedi iddo ymuno â'r Trefnyddion. Ond yn raddol daeth yn well arno yn hyn o beth, oblegid i'w wraig, yn ol pob tebyg, gael ei hargyhoeddi mewn Cymdeithasfa yn y Bala.—(Geir. Byw. Aberdar).