Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Foulkes, Parch. Edward, Dolgellau
← Goronwy, Befr | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Foulk, Parch. Evan, Llanuwchlyn → |
FOULKES, Parch. EDWARD, Dolgellau, ydoedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn Llanuwchlyn, yn y flwyddyn 1763; a bu farw Ebrill 3ydd, 1853, yn 92 mlwydd oed. Yr oedd wedi dechreu pregethu er's 66 o flynyddoedd. Efe oedd un o'r pregethwyr mwyaf oedranus yn y Dywysogaeth, os nad yr hynaf oll. Cafodd ei ddwyn i fyny yn swn yr efengyl ymhlith yr Ymneillduwyr yn Llanuwchlyn. Nid oed: yr hen bererin hwn yn gallu pregethu flynyddau cyn ei farwolaeth, o herwydd ei wendid corfforol; ond yr oedd yn dyfod i foddion gras hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Yr oedd efe yn berchen doniau rhwydd, ac yn dduwinydd da, ac arferai bregethu yn rheolaidd o ran materion, ac yn ddeffrous o ran dull. Yr oedd o dymer fywiog a siriol iawn, yr hyn a'i harweiniai rai gweithiau i brofedigaethau ar ryw dymhorau yn ei oes; ond byddai pawb a'i hadwaenai yn ei ystyried yn Israeliad yn wir, yn yr hwn nad oedd dwyll. Claddwyd ef yn nghladdfa y Trefnyddion Calfinaidd, tu cefn i'r capel, yn Nolgellau. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchedigion Richard Roberts, a William Davies, Llanelltyd.(Geir. Byw. Aberdar).