Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Goronwy, Befr

Fychan, Mari Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Foulkes, Parch. Edward, Dolgellau

GORONWY, BEFR, penaeth, neu dywysog Penllyn, yr hwn oedd yn byw tua diwedd y bumed ganrif. Y mae yn cael ei gofnodi yn y Trioedd fel blaenor у " tri anniwair deulu," neu lwythau anffyddlon Prydain; oblegyd mewn brwydr a ymladdwyd yn Cynfal yn Ardudwy, ni ddaeth yr un o honynt ymlaen i'w amddiffyn rhag gwaewffon wenwynig Llew Llawgyffes. Galwyd y lle y syrthiodd yn Llech Oronwy. Y ddau lwyth arall oedd eiddo y brodyr Gwrgi a Peredur, ac Alan Forgan.—(Myf. Arch. II. 3, 16, 770.)


Nodiadau

golygu