Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Fychan, Owen
← Fychan, Gruffydd, Arglwydd Glyndyfrdwy | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Griffith, Parch. Thomas → |
FYCHAN, OWEN, alias OWEN GLYNDWR, Arglwydd Glyndyfrdwy. Mab ydoedd i Gruffydd Fychan ab Gruffydd, o'r Rhuddallt, ab Madog Fychan ab Gruffydd, Arglwydd Dinas Bran, ab Madog ab Gruffydd Maelawr, ab Meredydd ab Bleddyn ab Cynfyn. Ei fam ydoedd Elen, yr hon ydoedd o waed breninol, a merch hynaf Tomas ab Llewelyn ab Hywel, o'i wraig Eleanor Goch, yr hon oedd ferch ac etifeddes Catherine, un o ferched Llywelyn, tywysog diweddar y Cymry; wrth hyny yr oedd Owen yn dyfod o frenhinoedd Powys o du ei dad, ac o frenhinoedd Gwynedd o du ei fam. Ganwyd ef Mai 28ain, 1348, neu 1349, ymha le sydd ansicr. Yr oedd ganddo un llys yn Edeyrnion, tua phedair milldir o Gorwen, ac un arall yn mhlwyf Llansilin, Swydd Ddinbych, a elwir Sycharth. Yn 1400, cyhoeddwyd ef yn Dywysog Cymru, a chynhaliodd ryfel gwaedlyd â'r Saeson am 15 mlynedd. Y mae hanes bywyd Owen Glyndwr fel rhyfelwr, yn un o'r rhai mwyaf dyddorol, ac yn rhy lawn o helyntion i ni allu rhoddi crynodeb o honynt yma. Bu farw tua'r flwyddyn 1415, ond nid oes sicrwydd ymha le, nac ymha le y claddwyd ef. Y mae traddodiad yn nodi lle tua thair milldir o Gorwen fel mangre ei fedd.(Gwel Hanes y Cymry gan y Parch. Owen Jones; Ei Fywyd,' gan W. Owen, &c.)