Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Griffith, Parch. Thomas
← Fychan, Owen | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Hughes, Humphrey → |
GRIFFITH, Parch. THOMAS, a anwyd ar y 26ain o Fedi, 1792. Efe a argyhoeddwyd o'i gyflwr colledig dan weinidogaeth y diweddar Barch. J. Jones, Corwen, ac yn fuan ymunodd â chymdeithas y Trefnyddion Wesleyaidd, yn mis Tachwedd, 1811; ac yn y flwyddyn 1816, teimlodd ddymuniad i fod yn offeryn i droi pechaduriaid o gyfeiliorni eu ffyrdd, a dychwelyd at yr Arglwydd Iesu Grist, yr unig noddfa. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac yn fywiog a selog iawn yn y gwaith pwysig, Yr oedd ei ddawn fel pregethwr yn rhagori ar y cyffredin. Hunodd mewn gobaith o adgyfodiad gogoneddus, Tachwedd 20fed, 1836, yn 44 oed.—(Eurgrawn Wesleyaidd am Ebrill, 1839, tudal. 93.)