Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Hughes, Parch. Edward, (Y Dryw)

Anwyl, Ellis Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Ieuan Brydydd Hir (hynaf)

HUGHES, Parch. EDWARD, (Y Dryw) A.M., ficer Bodffari, yn Nyffryn Clwyd. Tybir mai brodor o Feirion ydoedd, a bu am rai blynyddau yn gaplan ar fwrdd llong ryfel. Efe a enillodd y wobr am yr awdl oreu ar " Elusengarwch," yn Eisteddfod Dinbych, pan y collodd ac y dirfawr lidiodd Dewi Wyn. Y ffugenw a ddododd wrth ei awdl ydoedd "Y Dryw," ac wrth yr enw hwnw yr adwaenir ef oreu ymhlith y beirdd. Ceir "Erddygan "'o'i waith yn y Cambro Briton, ii. 232, a chân arobryn ar "Y llongddrylliad," a dernyn prydferth o gywydd "Ymson un o'r Madogiaid," Ceinion Awen y Cymry. Efe a enillodd wobr y Cymrodorion yn 1822, am y gywydd oreu ar "Hu Gadarn." Y mae mwy o harddwch dysgeidiaeth i'w weled yn ei waith nag o flachiadau tanllyd athrylith o'r radd uchaf.

Nodiadau

golygu