Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Ieuan Brydydd Hir (hynaf)
← Hughes, Parch. Edward, (Y Dryw) | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Jones, Parch. Lewis (esgob Killaloe)) → |
IEUAN BRYDYDD HIR (hynaf) bardd gorchestol yn Meirion rhwng 1440 a 1470. Y mae ychydig o'i waith ar gael. Y mae "Cywydd yn dangos byrdra oes dyn "o'i eiddo yn argraffedig yn y Brython, cyf. iv. 35, lle y dywed Mr. R. Williams (Wmffra Dafydd) mai yn Ardudwy yr oedd aneddle Ieuan Brydydd Hir ; ond nid oedd ganddo ddim yn profi hyny; felly nis gallasem ei roddi yn nosbarth Ardudwy.