Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Hywel Sele

Humphreys, Parch. Ellis, Llanengan Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Idris Gawr

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Hywel Sele
ar Wicipedia

HYWEL SELE, o'r Nannau, ger Dolgellau, ydoedd bendefig yn byw yn 14eg ganrif. Yr oedd yn gefnder âg Owen Fychan (Owain Glyndwr), ac mewn enw yn bleidiwr iddo, eithr mewn gwirionedd yn elyn anghymodlawn iddo ef a'i achos. Damweiniodd iddo wahodd y penaeth Cymreig ato i hela yn mharc Nannau, yr hwn wedi myned, a dechreu o honynt ar waith y dydd, codwyd ysglyfaeth; a Hywel, yn lle anelu at y pryf, a drodd ei fwa yn fradwrus at Owen. Pa fodd bynag, methodd y nod; ac er dial y camwri, Owen a'i trywanodd yn farw; ac er mwyn celu y weithred a daflodd y corff i geubren gerllaw, yr hon a adwaenid wrth yr enw Ceubren yr Ellyll.—(Geir. Byw., Lerpwl.)

Nodiadau

golygu