Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Idris Gawr

Hywel Sele Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Ieuan Dyfi

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Idris Gawr
ar Wicipedia

IDRIS GAWR, sydd berson a nodir yn y Trioedd gyda Gwdion ab Don, a Gwyn ab Nudd, fel un o'r tri "gwyn serenyddion," y rhai oeddynt yn seryddwyr dedwydd, gwybodaeth y rhai o natur y ser a'u harddrych oedd mor fawr, fel y gallent, meddai trigolion yr oes hono, ragddyweyd pa peth bynag yr ewyllysid ei wybod. Y mae coffadwriaeth Idris yn cael ei chadw ar un o fynyddau uchaf Cymru, sef Cadair Idris, yn Sir Feirionydd, yr hwn feallai oedd yn arsyllfa seryddol yn yr amser gynt. Ar y trum uchaf y mae cafniad wedi ei wneyd yn y graig galed, ar ddull gorweddfainc, lle y mae yn debyg y gorweddai yr arsyllwyr.

Nodiadau

golygu