Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Ieuan Dyfi
← Idris Gawr | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Jones, Parch. David, 2il → |
IEUAN DYFI, oedd fardd enwog, yr hwn a ysgrifenodd lawer rhwng y blynyddoedd 1470 a 1500. Y mae ei gyfansoddiadau modd bynag, lawer o honynt, ar gael mewn llawysgrifau. Cymerodd Ieuan yr enw "Dyfi" oddiwrth y pentref lle y ganwyd ef, a'r lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, sef Aberdyfi, yn Sir Feirionydd.—(Geir. Byw., Aberdar.)